Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £50,000 y flwyddyn cyn treth yna bydd rhaid i chi dalu rhywfaint (neu’r cyfan) o’ch Budd-dal Plant yn ôl fel Treth Incwm ychwanegol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A yw’n werth hawlio Budd-dal Plant os ydych yn ennill mwy na £50,000?
- Rydych chi a'ch partner yn ennill llai na £50,000 y flwyddyn yr un
- Rydych chi neu’ch partner yn ennill rhwng £50,000 a £60,000 y flwyddyn
- Rydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn
- Os ydych am stopio eich taliadau Budd-dal Plant
- Os ydych am barhau i gael eich Budd-dal Plant
A yw’n werth hawlio Budd-dal Plant os ydych yn ennill mwy na £50,000?
Os ydych chi neu'ch partner yn ennill mwy na £50,000 y flwyddyn, efallai y byddwch yn dewis peidio â gwneud cais am Fudd-dal Plant oherwydd y dreth incwm ychwanegol a godir arnoch. Fodd bynnag, gallai fod yn syniad gwneud cais amdano o hyd, yn enwedig os nad ydych chi neu'ch partner yn gweithio neu'n ennill llai na’r terfyn enillion isaf ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Drwy wneud yn siŵr eich bod yn dal i wneud eich cais am Fudd-dal Plant – hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â chymryd y taliadau — rydych yn sicrhau nad ydych yn colli allan ar:
- Gredydau Yswiriant Gwladol i ddiogelu'ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
- eich plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig cyn ei ben-blwydd yn 16 oed
- budd-daliadau eraill – er enghraifft, Lwfans Gwarcheidwad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i Hawlio Budd-dal Plant
Rydych chi a'ch partner yn ennill llai na £50,000 y flwyddyn yr un
Os ydych chi a’ch partner yn ennill llai na £50,000 y flwyddyn yr un, byddwch yn derbyn y swm llawn o Fudd-dal Plant heb orfod talu dim ohono’n ôl.
Rydych chi neu’ch partner yn ennill rhwng £50,000 a £60,000 y flwyddyn
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill rhwng £50,000 a £60,000 y flwyddyn cyn treth yr un, bydd rhaid i chi dalu cyfran o’ch Budd-dal Plant yn ôl mewn Treth Incwm ychwanegol.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn parhau i dderbyn y swm llawn o Fudd-dal Plant bob mis – neu bob wythnos os cewch eich talu’n wythnosol.
On bydd rhaid i’r un sy’n ennill y mwyaf dalu mwy o Dreth Incwm i ad-dalu’r gyfran o Fudd-dal Plant nad ydych yn gymwys amdani bellach.
Bydd angen i chi gwblhau cofnod treth Hunanasesu fel y gall Cyllid a Thollau EM (HMRC) gyfrifo swm y Dreth Incwm ychwanegol y bydd rhaid i chi ei thalu.
Awgrym da
A ydych gartref yn gofalu am eich babi neu'ch plant – a ddim yn talu Yswiriant Gwladol? Yna bydd hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i ddiogelu'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn oherwydd byddwch yn cael credydau tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy ar wefan Swyddfa Budd-dal Plant neu ffonio 0300 200 3100.
Cofrestrwch ar gyfer Hunanasesu ar wefan GOV.UK
Faint bydd rhaid i chi ei ad-dalu?
Bydd rhaid i chi ad-dalu 1% o Fudd-dal Plant eich teulu am bob £100 ychwanegol rydych yn ei ennill dros £50,000 bob blwyddyn.
Gelwir hyn yn Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. I dalu'r tâl treth, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad bob blwyddyn. Os na fyddwch fel arfer yn anfon ffurflen dreth at CThEM, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu'r ffi.
I gael mwy o wybodaeth am Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ac i gofrestru am Hunanasesiad yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Er enghraifft:
Mae gan Katya a Leroy fabi. Mae Katya’n aros gartref i ofalu am y babi. Mae Leroy yn ennill £51,000 y flwyddyn.
Gan fod Leroy yn ennill dros £50,000 y flwyddyn, mae rhaid iddo dalu treth ychwanegol er mwyn ad-dalu peth o’u Budd-dal Plant.
Mae ei incwm yn £1,000 (10 x £100) dros y terfyn, felly’r dreth ychwanegol fydd 10% o’u Budd-dal Plant o £21.80 yr wythnos. Felly mae ef yn talu treth ychwanegol o £107.64 y flwyddyn (£2.18 x 52).
Cewch amcangyfrif o faint o dreth y byddai rhaid i chi ei thalu oherwydd eich Budd-dal Plant gan ddefnyddio’r cyfrifiannell treth Budd-dal Plant ar wefan GOV.UK
Rydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn cyn treth, bydd rhaid i chi dalu’r cyfan o’ch Budd-dal Plant yn ôl fel Treth Incwm.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn parhau i dderbyn y swm llawn o Fudd-dal Plant bob mis – neu bob wythnos os cewch eich talu’n wythnosol.
Ond bydd rhaid i’r un sy’n ennill y mwyaf ad-dalu’r swm llawn fel Treth Incwm.
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesu fel y gall Cyllid a Thollau EM (HMRC) gyfrifo’r Dreth Incwm ychwanegol y bydd rhaid i chi ei thalu.
Cofrestrwch ar gyfer Hunanasesu ar wefan GOV.UK
Os ydych am stopio eich taliadau Budd-dal Plant
Gallwch ddewis peidio â stopio derbyn taliadau Budd-dal Plant.
- Mae hyn yn osgoi’r drafferth o dalu treth ychwanegol.
- Ni fydd yn ofynnol i chi gwblhau ffurflen dreth.
- Os ydych yn ennill rhwng £50,000 a £60,000, yn y pen draw byddwch ar eich colled gan y byddwch yn ildio’r gyfran o Fudd-dal Plant rydych yn gymwys amdani o hyd.
Sut gallwch stopio’ch taliadau?
Dylech roi gwybod i HMRC eich bod am stopio eich taliadau.
Gallwch stopio’ch taliadau Budd-dal Plant ar wefan GOV.UK
Os ydych am barhau i gael eich Budd-dal Plant
Awgrym da
Mae’n syniad da i roi eich taliadau Budd-dal Plant heibio mewn cyfrif cynilo llog-uchel tan eich bod yn gwybod faint y bydd angen i chi ei ad-dalu.
Os penderfynwch barhau i dderbyn eich taliadau, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesu.
Darganfyddwch fwy am gofrestru ar gyfer Hunanasesu ar wefan GOV.UK
Gallwch ddewis cadw’ch taliadau Budd-dal Plant
- Os ydych yn ennill rhwng £50,000 a £60,000, byddwch yn parhau i gael faint bynnag rydych yn gymwys amdano.
- Hyd yn oed os ydych yn ennill dros £60,000, os rhoddwch eich Budd-dal Plant mewn cyfrif cynilo gallwch ennill llog ar yr arian cyn bod rhaid i chi dalu’ch bil treth.
- Bydd angen i chi dalu’r dreth ychwanegol.
- Bydd rhaid i chi gwblhau datganiad treth.
Darganfyddwch fwy am sut i ad-dalu Budd-dal Plant ar wefan GOV.UK
Sut i ddewis cyfrif cynilo
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn os ydych yn ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo sy’n addas ar gyfer eich anghenion chi.
Mae gwefannau poblogaidd er mwyn cymharu cyfrifon cynilo yn cynnwys:
- Money Saving ExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Money SupermarketYn agor mewn ffenestr newydd
- Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Cofiwch:
- Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad. Byddwch yn dymuno canfod y gyfradd llog uchaf sydd ar gael.
- Mae’n bwysig hefyd gwneud gwaith ymchwil i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn dewis neu newid darparwr.