Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cadw’ch ewyllys yn rhywle y gall eraill ddod o hyd iddi

Os digwydd unrhyw beth i’ch ewyllys, neu os nad yw eich ysgutor yn gwybod ble i gael hyd iddi, nid oedd pwrpas i chi ysgrifennu un yn y lle cyntaf. Mae rhaid i chi benderfynu sut i ddiogelu eich ewyllys, a gadael i’ch ysgutor wybod ble mae’n cael ei chadw.

Ble na ddylech gadw eich ewyllys

Peidiwch byth â chadw eich ewyllys mewn blwch cadw yn y banc.

Pan fydd rhywun farw, ni all y banc agor y blwch cadw hyd nes i’r ysgutor gael profeb (caniatâd gan y llys i weinyddu eich materion) – ac ni ellir cymeradwyo’r brofeb heb yr ewyllys.

Gwnewch yn siŵr bob amser bod eich ewyllys ar gael heb brofeb.

Dywedwch wrth eich ysgutor ble mae eich ewyllys

Unwaith y byddwch wedi gwneud penderfyniad am sut i wneud yn siŵr bod eich ewyllys yn ddiogel, mae’n bwysig gadael i’ch ysgutorion wybod ymhle mae’n cael ei chadw a sut i’w chael.

Mae’n bwysig ei ysgrifennu i lawr – yn hytrach na ddweud wrthynt yn unig.

Dulliau o gadw eich ewyllys

Nid oes un lle penodol y mae’r gyfraith yn dweud y dylid cadw’ch ewyllys.

Dewiswch yr opsiwn sydd fwyaf diogel ac addas ar eich cyfer.

Gadewch eich ewyllys gyda’ch cyfreithiwr

Os mai cyfreithiwr fydd yn ysgrifennu eich ewyllys, byddant fel arfer yn cadw copi gwreiddiol heb ffi a rhoi copi i chi – ond gofynnwch iddynt i wneud yn siŵr.

Bydd y rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cadw ewyllys na wnaethant ysgrifennu, ond maent yn debygol o godi ffi.

Manteision
  • Mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio felly os yw’r ewyllys yn cael ei cholli neu ei difrodi mae gennych achos i unioni pethau.

Anfanteision
  • Os nad y cyfreithiwr a ysgrifennodd eich ewyllys sy’n ei chadw, efallai bydd hyn yn golygu y bydd angen i chi dalu mwy.

Gadael i wasanaeth ysgrifennu ewyllys ei chadw

Os defnyddiwch wasanaeth ysgrifennu ewyllys yn aml gallant ei chadw ar eich cyfer am gost ychwanegol.

Manteision
  • Gall gostio llai na defnyddio cyfreithiwr – ond gwiriwch y ffi cyn ymrwymo.

Anfanteision
  • Gallech fod yn llai diogel petai rhywbeth yn mynd o’i le – gofynnwch beth fyddai’n digwydd petai’r ewyllys yn cael ei cholli neu ei difrodi neu bod y gwasanaeth yn mynd i’r wal. Cofiwch ofyn am gopi i’ch dibenion.

Cofrestrwch yr ewyllys gyda’r Gwasanaeth Profeb (Cymru a Lloegr)

Bydd y Gwasanaeth Profeb yn cadw eich ewyllys ar eich cyfer – bydd rhaid i chi ei chofrestru yn swyddogol, a gwneud ceisiadau swyddogol i’w thynnu hi allan eto.

Manteision
  • Mae ffi safonol o £20.

Anfanteision
  • Chi yn unig all gymryd yr ewyllys yn ôl tra byddwch fyw drwy gyflwyno’r ffurflen gywir, er enghraifft, ni allwch ofyn i gyfreithiwr ei nôl ar eich rhan.

Cadw’r ewyllys eich hun

Gallwch gadw eich ewyllys â’ch dogfennau eraill, mewn coffor, neu unrhyw le y mynnwch – ond gwnewch yn siwr bod eich ysgutor yn gwybod ble mae’n cael ei chadw.

Manteision
  • Mae am ddim.

Anfanteision
  • Gallai fod yn risg, oherwydd gall yr ewyllys gael ei thaflu i ffwrdd neu ei difrodi yn ddamweiniol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.