Oes gennych gysylltiad â rhan arall o’r Deyrnas Unedig i’r lle rydych yn byw ar hyn o bryd, neu â gwlad arall tu allan i’r Deyrnas Unedig? Os felly, efallai y byddwch yn gallu dechrau ar gamau ysgariad neu ddiddymiad yno. Gall y lle y byddwch yn dechrau’r camau effeithio ar sut y bydd eich materion ariannol yn cael eu rhannu.
Deall y ffeithiau sylfaenol am ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
A ydych chi neu eich cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) wedi penderfynu cychwyn ar gamau ysgaru neu ddiddymu tu allan i’r wlad rydych yn byw ynddi? Os felly, bydd yr hyn y byddwch yn ei wneud nesaf yn dibynnu a fydd yn dechrau:
- mewn cenedl arall yn y Deyrnas Unedig
- mewn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE), neu
- mewn gwlad nad yw yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig
Mae’r system ar gyfer ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr ychydig yn wahanol i’r un yng Ngogledd Iwerddon, ac yn wahanol iawn i’r system yn yr Alban.
Os byddwch yn dechrau camau mewn rhan wahanol o’r Deyrnas Unedig i’r un lle rydych yn byw, bydd rhaid i chi ystyried sut y gall hyn effeithio ar eich setliad ariannol.
Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn yr UE
Dan gyfraith yr UE, efallai y bydd gennych hawl i gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad arall yn yr UE i’r un lle gwnaethoch briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil.
Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad tu allan i’r UE
Os oes gennych chi neu eich cynbartner gysylltiad â gwlad y tu allan i’r UE – bydd ble y gallwch ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn dibynnu ar nifer o ffactorau.
Y prif un fydd pa wlad sydd â’r cysylltiad agosaf â chi’ch dau.
Sut y gall lleoliad eich ysgariad neu ddiddymiad effeithio ar eich setliad
Mae’r gyfraith mewn rhai gwledydd yn golygu bod asedau ariannol yn cael eu rhannu yn wahanol iawn i’r ffordd y maent yn cael eu rhannu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Yn yr Alban, dim ond yr hyn a elwir yn ‘eiddo priodasol’ sy’n cael eu hystyried. Mae hyn yn golygu asedau oedd yn eiddo i chi neu a gafwyd yn ystod y briodas neu bartneriaeth sifil.
Mewn rhai gwledydd tu allan i’r Deyrnas Unedig, nid oes rhaid i gyplau ddweud wrth ei gilydd am eu hasedau ariannol wrth ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.
Deall statws cyfreithiol cytundebau cyn-priodas
Mae cytundebau cyn-priodas yn dal yn gymharol anghyffredin.
Fe’u defnyddir yn aml gan gyplau sydd am gytuno – cyn priodi neu ddod yn bartneriaid sifil – sut y byddent yn rhannu eu harian, asedau ac eiddo, petaent yn penderfynu gwahanu.
Nid oes modd gorfodi cytundebau cyn-priodas yn gyfreithiol yn llawn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, bydd llysoedd yn gyffredinol yn eu hystyried fel un o amgylchiadau’r achos gan roi arwyddocad sylweddol iddynt cyn belled y bydd rhai elfennau o ddiogelu penodol yn cael eu bodloni. Er enghraifft:
- Bod anghenion ariannol y plant yn cael eu diogelu yn ddigonol.
- Bod y ddwy ochr wedi cymryd cyngor cyfreithiol ynglŷn â goblygiadau ymrwymo â’r cytundeb
Yn yr Alban, cânt eu trin fel rhai y gellir eu gorfodi yn gyfreithiol.
Ble y gallwch ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil
Gall penderfynu a oes gennych yr hawl gyfreithiol i gychwyn ysgariad neu ddiddymiad mewn gwlad benodol fod yn fater cymhleth.
Fel arfer mae’n well syniad cael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo yn hyn yn hytrach na cheisio penderfynu eich hun.
Gallai gael ei ddylanwadu gan y wlad:
- ble cawsoch eich geni
- ble rydych yn berchen ar eiddo
- ble ganed eich tad neu fam neu ble roeddynt yn byw
- ble gwnaethoch chi briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil
- ble rydych yn byw yn awr a ble roeddech yn byw yn ystod eich priodas neu bartneriaeth sifil.
Penderfynu beth i’w wneud nesaf
Dylech geisio cyngor cyfreithiol gan gwmni cyfreithwyr cyfraith teulu arbenigol. Dylent wybod am y gyfraith yn y wlad lle rydych yn byw a’r wlad lle gallai eich camau ysgaru neu ddiddymu ddechrau.
Gwnewch hyn cyn trafod â’ch cyn bartner neu cyn ystyried cyfryngu ag ef neu hi. Mae hyn oherwydd y gall y risg o golli rheolaeth ar ble y byddwch yn penderfynu cychwyn y camau arwain at ganlyniadau difrifol.
Ond cofiwch y bydd hyn yn ei gwneud yn llawer anos dod i gytundeb cyfeillgar â’ch cyn bartner.
Darganfyddwch fwy am gyfryngu:
Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, ewch i wefan Family Mediation CouncilYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i wefan Scottish MediationYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd neu wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Manteision ac anfanteision cael cyngor cyfreithiol
Manteision:
-
Byddwch yn gwybod a allwch gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil tu allan i’r wlad lle rydych yn byw ar hyn o bryd.
-
Byddwch yn gwybod beth gallai fod yn ganlyniadau cael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad arall.
Anfanteision:
-
Rydych yn debygol o greu drwgdeimlad rhyngoch â’ch cyn-bartner trwy gychwyn camau ysgaru neu ddiddymu heb roi unrhyw rybudd iddynt.
-
Gall fod yn llawer anos cael setliad ariannol o ganlyniad.