Bydd sut mae ysgariad yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar ba Bensiwn y Wladwriaeth a gewch.
Cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth nawr neu ers 6 Ebrill 2016
Cyflwynwyd system Bensiwn y Wladwriaeth newydd o 6 Ebrill 2016 ac felly bydd unrhyw un sy’n cyrraedd ei oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ‘newydd’.
Ni ellir rhannu'r Pensiwn y Wladwriaeth newydd os daw'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben.
Os oes gennych ‘daliad gwarchodedig’, gallai’r llys gwneud gorchymyn bod hwn yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae ‘taliad gwarchodedig’ yn daliad ychwanegol y gallech ei gael ar ben Pensiwn y Wladwriaeth llawn yn nodweddiadol oherwydd bod eich hawl o dan yr hen reolau yn uwch.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth, yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg
Wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar yr hen reolau os gwnaethoch gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016.
Byddwch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1953.
Mae dwy ran i hen Bensiwn y Wladwriaeth - Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Maent yn gweithio ychydig yn wahanol, a gallech fod wedi cronni hawl o dan Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a'r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig.
Ni ellir rhannu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os daw eich priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben.
Fodd bynnag, gall cyplau sydd wedi ysgaru defnyddio cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu cyn-briod neu gynbartner sifil i gynyddu eu Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Ni fydd hyn yn lleihau faint o Bensiwn y Wladwriaeth y mae'r person arall yn ei gael.
Os oes gennych Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gallai'r llys gwneud gorchymyn bod hyn yn cael ei rannu rhyngoch chi os daw'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben.
Rydych yn colli'r hawliau hyn os ydych yn ailbriodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil arall cyn i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch wirio beth allech fod â hawl iddo drwy bensiwn eich partnerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK