Os ydych yn cael ysgariad, neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, mae eich holl asedau chi a'ch cyn-bartner yn cael eu hystyried. Gelwir hyn yn ymlyniad pensiwn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn glustnodi yn yr Alban.
Beth yw gorchmynion ymlyniad pensiwn a chlustnodi?
Mae ymlyniad pensiwn neu orchymyn clustnodi yn ailgyfeirio rhan neu'r cyfan o fuddion pensiwn y defnyddiwr i'r cyn-briod neu'r partner sifil pan ddaw i dâl.
Nid yw hyn yn darparu toriad llwyr, gan y bydd cyswllt parhaus â'ch cyn-briod neu'ch partner sifil yn aros.
Sut mae'n gweithio?
Mae ymlyniad / clustnodi pensiwn yn caniatáu i'r llysoedd wneud gorchymyn yn nodi bod yn rhaid talu rhan, neu'r cyfan, o fuddion pensiwn yr aelod i'w gyn bartner pan ddônt yn daladwy. Nid yw hyn yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae'r pensiwn yn dal i fod yn eiddo i aelod y cynllun, ond rhaid i'r cynllun wneud rhyw fath o daliad i'r cyn bartner pan ddaw buddion yr aelod yn daladwy.
Gall y llys orchymyn bod y cyn bartner yn derbyn un, neu gyfuniad, o'r buddion canlynol:
- cyfan neu ran o incwm pensiwn yr aelod (nid yw hyn yn berthnasol yn yr Alban)
- y cyfan neu ran o swm arian parod di-dreth yr aelod
- y cyfan neu ran o unrhyw gyfandaliad a delir pan fydd yr aelod yn marw.
Mae'r incwm trethadwy sy'n daladwy i gyn bartner yn dal i fod yn eiddo i'r aelod, felly bydd yn cael ei drethu fel pe bai'n cael ei dalu i'r aelod.
Nid yw taliadau'n cael eu cyfrif fel incwm trethadwy i'r cyn bartner ac ni ddylai fod angen eu datgan fel incwm at ddibenion treth i Gyllid a Thollau EM.
Manteision ac anfanteision
Dyma rai pethau i’w hystyried gyda’r dewis hwn:
Pros
-
Mae'n caniatáu i'r budd-dal arian parod di-dreth a'r budd-dal incwm pensiwn gael ei glustnodi.
-
Gellir clustnodi buddion marwolaeth mewn gwasanaeth hefyd.
-
Os yw'r aelod yn trosglwyddo hawliau pensiwn, bydd y gorchymyn clustnodi yn dilyn hawliau'r aelod i'r trefniant newydd.
-
Bydd gan y cyn bartner rywfaint o ddarpariaeth ar ôl ymddeol.
Cons
-
Nid yw'n caniatáu toriad llwyr rhwng y cwpl sydd wedi ei ysgaru, ac efallai y bydd angen i'r cwpl gadw mewn cysylltiad am flynyddoedd lawer ar ôl yr ysgariad / diddymiad.
-
Mae ansicrwydd ynghylch talu'r buddion yn y pen draw. Os bydd aelod y cynllun yn marw cyn ymddeol, neu os yw'r cyn bartner yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil, bydd unrhyw orchymyn clustnodi / ymlyniad (heblaw am fudd-daliadau marwolaeth cyfandaliad) fel arfer yn cwympo i ffwrdd.
-
Nid yw'r taliadau wedi'u clustnodi yn dechrau cael eu talu nes i'r aelod ymddeol. Ac nid oes dyddiad penodol y mae'n rhaid iddynt ddechrau cymryd incwm. Os yw'r cyn-bartner yn hŷn na'r aelod neu os yw'r aelod yn gohirio ymddeol, gallai hyn fod â goblygiadau ariannol i'r cyn bartner.
-
Mae'r taliadau'n stopio ar farwolaeth yr aelod, gan adael y cyn bartner heb yr incwm hwnnw am flynyddoedd olaf eu bywyd.
Pethau eraill i fod yn ymwybodol ohonynt
Os yw'r pensiwn eisoes yn destun gorchymyn clustnodi / ymlyniad yn sgȋl ysgariad neu ddiddymiad blaenorol, bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol proffesiynol yn benodol ar y mater hwn.
Pan fydd yr aelod yn cymryd ei fuddion, bydd y rhain yn cael eu profi yn erbyn lwfans oes yr aelod.
Felly er y bydd y buddion i gyd neu ran ohonynt yn cael eu talu i'w cyn bartner yn ddiweddarach, nid oes prawf lwfans oes ar y cyn bartner am y buddion a gânt o'r gorchymyn clustnodi / ymlyniad.
Gallai hyn effeithio ar allu'r aelod i adeiladu digon o ddarpariaeth pensiwn ar gyfer ymddeol.
Rhyddid pensiynau
Ers mis Ebrill 2015, mae'r ffordd y gall aelodau gymryd eu buddion ymddeol wedi dod yn fwy hyblyg.
Efallai na fydd gorchmynion clustnodi / ymlyniad a gyhoeddwyd cyn Ebrill 2015 yn adlewyrchu'r rhyddid pensiwn, ac felly efallai na fyddant yn cynnig yr hyblygrwydd rydych yn ei ddisgwyl i chi.
Os yw hyn yn wir amdanoch chi, bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol. Ac efallai y bydd angen i chi fynd i'r llys i gael amrywiad ar eich gorchymyn clustnodi neu ymlyniad.
Bydd angen i aelod y cynllun a'r cyn bartner gytuno ar unrhyw amrywiad.
Llai o fuddion pensiwn
Os oes gan eich cyn-bartner sy’n aelod bensiwn â buddion wedi’u diffinio, gallai’r incwm y byddech yn ei gael fod yn is nag yr oeddech yn ei ddisgwyl iddo fod pan gwblhawyd yr ysgariad neu’r diddymiad.
Gellid lleihau eu pensiwn os:
- maent yn ymddeol yn gynt na'r disgwyl
- gwnaethant ostwng eu cyflog, neu
- aeth y cynllun i'r Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF). Os gostyngir incwm pensiwn yr aelod, bydd y cyn bartner hefyd yn cael incwm pensiwn is.
Os bydd hyn yn digwydd, dylech gael cyngor cyfreithiol oherwydd gallai fod yn bosibl cael amrywiad ar y gorchymyn clustnodi neu ymlyniad.
I gael mwy o wybodaeth am yr ysgariad a'r pensiynau, gweler ein canllaw:
Sut gallai ysgaru effeithio ar fy mhensiwn ac incwm ymddeol?