Efallai byddwch chi neu chi'ch dau yn dymuno parhau i rentu eich cartref ar ôl i chi wahanu. Bydd beth yw eich dewisiadau yn dibynnu ar eich cytundeb tenantiaeth ac a ydych yn rhentu gan landlord preifat neu gymdeithasol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sicrhau’r hawliau i’ch cartref
- Cael cyngor arbenigol
- Beth gall y llys ei benderfynu
- Beth yw’ch dewisiadau os mai chi yw’r unig denant?
- Beth yw’r dewisiadau os yw’ch enwau chi’ch dau ar y cytundeb rhentu?
- Beth yw’r dewisiadau os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi?
- Terfynu’ch tenantiaeth yn gynnar
- Eich cam nesaf
Sicrhau’r hawliau i’ch cartref
Awgrym da
Os ydych yn newid amodau’ch tenantiaeth, mae’n bwysig bod y landlord yn cytuno i hyn yn ysgrifenedig cyn i chi derfynu’ch tenantiaeth bresennol. Unwaith y byddwch wedi terfynu’ch tenantiaeth, ni fydd gennych hawl i aros yn yr eiddo.
A ydych yn y camau cynnar o wahanu ac eisiau gwybodaeth am ddiogelu eich hawliau i fyw yn y cartref? Mae'n werth darllen ein canllaw Eich hawliau i’ch cartref rhentu yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
Cael cyngor arbenigol
Yn gyffredinol mae’n llawer gwell os gallwch gytuno â’ch cyn bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) beth fyddwch yn ei wneud ynglŷn â’ch cartref.
Ond byddwch yn ymwybodol, gall fod yna goblygiadau hirdymor nad ydych yn ymwybodol ohonynt os ceisiwch gytuno ar bethau ar eich pennau eich hunain. Mae’n syniad da cael cyngor gan elusen dai.
- Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gysylltu â ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Hawliau Tai
- Yn yr Alban, gallwch gysylltu â Shelter Scotland
Mae hefyd yn werth siarad â chyfreithiwr teulu.
Os na allwch fforddio cyfreithiwr teulu gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Rhannu’r cartref teuluol drwy gyfryngu
Beth os nad ydych chi a’ch cyn bartner yn cytuno am beth ddylai ddigwydd – er enghraifft, os ydych chi'ch dau ar y cytundeb tenantiaeth? Gallech ystyried defnyddio cyfryngwr – sy’n drydydd parti diduedd.
Darganfyddwch fwy am gyfryngu ar wefan Cyngor ar Bopeth
Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr:
- Yng Nghymru a Lloegr, ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol neu ar wefan Cyfryngu Teuluol Cenedlaethol
- Yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan Family Mediation NI
- Yn yr Alban, ar wefan Relationships Scotland
Beth gall y llys ei benderfynu
Nid yw’r rhan fwyaf o ysgariadau neu ddiddymiadau yn mynd i wrandawiad llys llawn i setlo anghydfodau ariannol. Ond mae’n syniad da cael dealltwriaeth o beth allai’r llysoedd ei benderfynu am eich cartref a rentir.
Gallai’r llysoedd orchymyn i’r denantiaeth gael ei throsglwyddo o’r tenant i’r cyn bartner.
Os oes gennych blant, yn enwedig os ydynt yn ifanc, bydd penderfynu lle byddant yn byw yn ystyriaeth bwysig wrth gyrraedd setliad ariannol.
Beth yw’ch dewisiadau os mai chi yw’r unig denant?
Os yw’r denantiaeth yn eich enw chi yn unig ac nid ydych yn dymuno aros yn yr eiddo, efallai y gallech ei drosglwyddo i’ch cyn bartner.
Ond bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau - yn cynnwys y math o denantiaeth sydd gennych.
Os dymunwch aros ac mae’ch cyn bartner yn cytuno i symud allan, gallwch barhau i fyw yno.
Ond mae rhaid i chi sicrhau y gallwch fforddio i dalu’r rhent ar eich pen eich hun.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Efallai y bydd un ohonoch yn dymuno parhau i fyw yn yr eiddo. Gallech ofyn i’ch landlord a ellir trosglwyddo’r denantiaeth neu a ellir creu tenantiaeth newydd.
Fel arall, gallech wneud cais i’r llys i’r denantiaeth gael ei throsglwyddo.
Os ydych yn gallu dod i gytundeb â’ch landlord, y peth gorau yn aml yw ffurfio tenantiaeth newydd.
Fodd bynnag, mae’n bwysig i gael cyngor cyfreithiol cyn trosglwyddo neu ildio tenantiaeth oherwydd gallech fod yn ildio hawliau gwerthfawr
Os na allwch fforddio cyfreithiwr teulu gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Rhowch bopeth a gytunoch ar lafar â’ch landlord i lawr ar bapur – gall e-bost neu neges destun fod yn ddigonol.
Mae’n bwysig i chi wneud hyn – fel arall gallech gael eich cyhuddo o droi’ch cefn ar y denantiaeth a gofyn i chi dalu’r rhent ar ôl i chi symud allan.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol
Efallai y bydd gennych hawl i drosglwyddo’ch tenantiaeth i’ch cyn bartner
Efallai y bydd eich landlord cymdeithasol yn:
- cymdeithas dai
- cwmni cydweithredol tai
- y Weithrediaeth Dai
- awdurdod lleol.
Os na fyddant yn cytuno i drosglwyddo’ch tenantiaeth, efallai gall eich cyn bartner gael gorchymyn llys.
Yn yr Alban
Yn ddibynnol ar y math o denantiaeth sydd gennych, efallai y bydd gennych hawl i drosglwyddo’r denantiaeth i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil.
Os oes gennych denantiaeth ddiogel neu ddiogel fer, gallwch ei throsglwyddo i unrhyw un sydd wedi byw gyda chi ac sydd wedi defnyddio’r eiddo fel eu prif gartref dros y chwe mis diwethaf neu fwy.
Mae rhaid i chi ysgrifennu at y landlord a gofyn am eu caniatâd. Fodd bynnag, ni all wrthod oni bai bod rheswm digonol. Er enghraifft, ei fod eisoes wedi cychwyn achos o’ch taflu allan yn eich erbyn. Os bydd yn gwrthod, efallai y gallwch gael gorchymyn llys.
Gallech fod yn ildio hawliau gwerthfawr iawn drwy drosglwyddo tenantiaeth - felly mae’n bwysig gael cyngor cyn gwneud dim.
Os na allwch fforddio cyfreithiwr teulu gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Beth yw’r dewisiadau os yw’ch enwau chi’ch dau ar y cytundeb rhentu?
Os yw’ch enwau chi a’ch cyn bartner ar y cytundeb tenantiaeth, rydych chi’ch dau yn gyfrifol am dalu’r rhent i gyd tan ddiwedd y denantiaeth.
Ceisiwch gytuno ar beth ydych am ei wneud:
- Efallai y cytunwch y bydd un ohonoch yn symud allan a throsglwyddir y denantiaeth drosodd yn enw’r partner arall yn unig.
- Efallai y penderfynwch y byddwch chi’ch dau yn symud allan ac y byddwch yn terfynu’r cytundeb tenantiaeth.
Gall y naill neu’r llall ohonoch roi rhybudd i’r landlord i ddirwyn y denantiaeth i ben - oni bai ei bod yn un tymor sefydlog. Gall hynny fod yn broblem os yw’ch gwahaniad yn un anodd a chwerw.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Efallai y bydd un ohonoch yn dymuno parhau i fyw yn yr eiddo. Ond ni fyddwch yn medru gwneud hyn o bosib ar ôl eich ysgariad neu ddiddymiad, oni bai bod y denantiaeth yn parhau mewn grym neu y trosglwyddwyd y denantiaeth gan orchymyn llys.
Gofynnwch i’ch landlord a oes modd i un ohonoch gymryd y denantiaeth drosodd.
Os ydych eisiau cymryd y denantiaeth drosodd, bydd rhaid i chi ddangos y gallwch fforddio i dalu’r rhent ar eich pen eich hun.
Gall eich landlord ofyn am geirda neu ‘warantwr’ - sy’n addo talu’r rhent os na allwch. Efallai y bydd eich landlord yn codi tâl am unrhyw newidiadau a wneir i’r cytundeb tenantiaeth, sydd fel arfer wedi’i gapio i £50.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol
Efallai y bydd un ohonoch yn medru cymryd tenantiaeth ar y cyd drosodd.
Os bydd llys yn gorchymyn bod rhaid trosglwyddo’r denantiaeth o un unigolyn (neu enwau ar y cyd) i unigolyn arall, bydd rhaid i’r landlord cymdeithasol lynu at hynny.
Dylech sicrhau y gallwch fforddio taliadau ar eich pen eich hun.
Beth yw’r dewisiadau os nad yw’r denantiaeth yn eich enw chi?
Os nad yw’r denantiaeth yn eich enw, efallai y byddwch yn medru cael yr hawl hirdymor i fyw yn yr eiddo.
Ond gallai hyn fod yn anodd os na fydd eich cyn bartner – neu, yn enwedig, eich landlord – yn cytuno i hyn.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat
Oni bai y bydd llys yn gorchymyn i’r denantiaeth gael ei throsglwyddo o enw’ch cyn bartner i’ch enw chi, nid oes gennych hawl fel mater o drefn i barhau i fyw yn yr eiddo wedi i’ch ysgariad neu’ch diddymiad gael ei derfynu.
Unwaith y daw eich priodas neu bartneriaeth sifil i ben, daw eich hawl i aros yn yr eiddo i ben hefyd.
Os dymunwch aros -gofynnwch i’ch landlord a gewch gymryd tenantiaeth yn eich enw chi.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol
Os yw enw’ch cyn bartner ar y denantiaeth, gallwch ddim ond aros yno tra byddwch yn briod neu’n bartneriaid sifil.
Os yw’ch tenantiaeth yn caniatáu a’ch cyn bartner yn cytuno i drosglwyddo’r denantiaeth, dylech gysylltu â’ch landlord cymdeithasol i gael gwybod beth sydd angen i chi wneud.
Os bydd llys yn gorchymyn trosglwyddo’r denantiaeth, bydd rhaid i landlord cymdeithasol ganiatáu hynny.
Yn yr Alban
Os yw enw’ch cyn bartner ar denantiaeth ddiogel neu ddiogel fer, gall ei throsglwyddo i unrhyw un sydd wedi byw gydag ef neu hi ac sydd wedi defnyddio’r eiddo fel ei brif neu phrif gartref dros y chwe mis diwethaf neu fwy.
Mae angen iddynt ysgrifennu at y landlord a gofyn am eu caniatâd, ond yn gyffredinol ni chaiff wrthod.
Os bydd y landlord yn gwrthod, a bod gan eich cyn bartner denantiaeth ddiogel, gall apelio yn erbyn y penderfyniad mewn Llys Siryf. Os nad oes gan eich cyn bartner y math hwnnw o denantiaeth, oni bai y bydd llys yn gorchymyn i’r denantiaeth gael ei throsglwyddo o enw’ch cyn bartner i’ch enw chi, nid oes gennych hawl i barhau i fyw yn yr eiddo wedi i’ch ysgariad neu’ch diddymiad gael ei derfynu.
Terfynu’ch tenantiaeth yn gynnar
Os oes gennych denantiaeth cyfnod sefydlog â landlord preifat, mae’n debygol na allwch ei derfynu’n gynnar. Yn gyfreithiol chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent hyd nes y bydd y cyfnod sefydlog wedi dod i ben.
Mae’n werth siarad â’ch landlord yn y gobaith y gall fod yn hyblyg. Fel arall, gallech golli rhan o’ch blaendal neu’r cyfan ohono.
Os ydych yn rhentu eiddo gan landlord cymdeithasol, efallai y gallwch derfynu’r denantiaeth yn gynnar. Ond mae’n bwysig i gael cyngor oherwydd efallai y byddech yn ildio hawliau tai gwerthfawr.
- Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gysylltu â ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â Housing Rights Service
- Yn yr Alban, gallwch gysylltu â Shelter