Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Rheoli cyllideb eich cartref ar ôl i chi wahanu

Mae gwahanu oddi wrth eich cyn-bartner yn golygu y bydd rhaid i chi newid sut rydych yn rheoli'ch cartref a chyllid arall. Yn aml mae'n llawer mwy costus i chi'ch dau fyw ar eich pen eich hun nac i gyd-fyw. Ond mae ffyrdd y gallwch arbed arian a thorri costau.

Pam y gall cyllideb helpu

Ar ôl i chi wahanu, mae gwneud cyllideb yn lle da i ddechrau adolygu'ch gwariant.

Yn syml, mae cyllideb yn gofnod o faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a beth sy'n mynd allan bob mis.

Pan fyddwch wedi cwblhau'ch cyllideb, dylai fod gennych syniad mwy clir o'r hyn sydd gennych i fyw arno.

Torri’n ôl ar eich gwariant

Gwelwch a allwch dorri'n ôl ar eich gwariant o ddydd i ddydd. Bydd hyd yn oed ychydig bunnoedd a arbedir yma ac acw yn adio i fyny.

Arbed arian ar eich biliau

Os nad ydych erioed wedi newid eich cyflenwr nwy neu drydan, neu os nad ydych wedi newid am ychydig, mae'n werth edrych eto gan y gallai arbed arian i chi.

Gallwch hefyd ystyried newid os ydych, er enghraifft, eisiau tariff pris sefydlog. Trwy hynny, byddwch yn gwybod y pris rydych yn ei dalu am eich nwy a'ch trydan bob mis neu chwarter.

Os oes gennych fand eang gartref, a bod gennych linell dir neu ffôn symudol, efallai y gallwch newid neu gael cynnig gwell gan eich darparwr presennol.

Teithio am lai

Gall costau teithio wneud tolc mawr yn eich cyllideb - er enghraifft, eich tocyn trên i'r gwaith neu gost rhedeg eich car.

Talu llai o Dreth Cyngor neu Drethi

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

Os yw'ch partner yn symud allan a chi yw'r unig oedolyn sy'n byw yn yr eiddo, gallwch hawlio gostyngiad o 25% ar eich bil Treth Gyngor.

Gallwch hefyd hawlio'r gostyngiad os yw oedolyn yn byw gyda chi sy'n fyfyriwr llawn amser, yn ofalwr sy’n byw i mewn neu rywun ag anabledd meddwl difrifol.

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael gostyngiad yn eich Treth Cyngor. Bydd rhaid i chi wneud cais i'ch cyngor lleol.

Yng Ngogledd Iwerddon

Yn dibynnu ar eich incwm a’ch sefyllfa, efallai y gallwch hawlio ‘rates Housing Benefit’ neu ‘Rate Relief’.

Cynilion argyfwng

Er y gallai arian fod yn dynn ar ôl gwahanu, mae'n werth ceisio rhoi rhywfaint o arian i ffwrdd bob wythnos neu fis fel cynilion argyfwng, os gallwch. Yn y ffordd honno, os yw'ch boeler neu beiriant golchi yn torri i lawr, er enghraifft, bydd rhywfaint o arian wrth gefn gennych.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.