Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Deall beth yw Pension Wise a sut i’w ddefnyddio

Os ydych yn 50 oed neu drosodd ac mae gennych gronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallwch gael arweiniad am ddim gan Pension Wise. Mae Pension Wise yn wasanaeth a gefnogir gan y llywodraeth sy'n eich helpu i ddeall sut y gallwch gymryd arian o'ch cronfa bensiwn. Mae'n cynnig apwyntiadau am ddim lle gallwch drafod eich opsiynau i'ch helpu i wneud y penderfyniad cywir. 

Beth mae arweiniad Pension Wise yn ei gynnig

Bydd apwyntiad gydag arbenigwr Pension Wise yn eich helpu i ddeall beth fydd eich sefyllfa ariannol gyffredinol pan fyddwch yn ymddeol.

Byddant hefyd yn trafod ffactorau eraill y mae angen i chi eu hystyried wrth benderfynu ar eich opsiynau cyn ymddeol.

Mae ymchwil annibynnol wedi canfod y byddai 97% o bobl sy'n cael apwyntiad yn ei argymell i eraill.

Bydd apwyntiad yn esbonio'r canlynol:

  • Pethau i feddwl amdanynt wrth ystyried eich dewisiadau. Er enghraifft, eich cynlluniau i barhau i weithio, eich amgylchiadau personol ac ariannol, a gadael arian ar ôl i chi farw.
  • Yr holl opsiynau talu sydd ar gael, a sut maent yn berthnasol i'ch amgylchiadau.
  • Y goblygiadau treth o gael mynediad i'ch pensiwn.
  • Beth ddylech chi ei wirio cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau.
  • Sut i gadw llygad am sgamiau.
  • Eich camau nesaf.

Mae'r gwasanaeth yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim i chi ei ddefnyddio. Fodd bynnag, nid yw'n argymell cwmnïau nac yn dweud wrthych sut i ddefnyddio'ch cronfa bensiwn neu fuddsoddi'ch arian.

Darparwyr arweiniad Pension Wise yw:

  • Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Cymdeithas Genedlaethol Cyngor Ar Bopeth
  • Cymdeithas Cyngor Ar Bopeth yr Alban.

Sut i gael eich apwyntiad Pension Wise am ddim

Neu, gallwch gael arweiniad Pension Wise dros y ffôn drwy ffonio 0300 330 1001.

Mae'n apwyntiad arweiniad strwythuredig 60 munud.

Paratoi ar gyfer eich apwyntiad

Er mwyn gwneud y gorau o apwyntiad Pensiwn Wise, mae'n well gwirio gyda'ch darparwr yn gyntaf:

  • os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
  • gwerth eich cronfa bensiwn
  • os yw'ch cronfa yn cynnwys unrhyw warantau neu nodweddion arbennig.

Gwiriwch eich datganiad pensiwn neu gofynnwch i'ch cynllun neu ddarparwr am brisiad cyfoes. Os oes gennych fwy nag un cronfa bensiwn, cofiwch gasglu gwybodaeth am eich holl gronfeydd gyda'u gilydd.

Os ydych chi wedi colli trywydd o unrhyw bensiynau, gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn, sy'n wasanaeth rhad ac am ddim gyda chefnogaeth y llywodraeth. Mae eu manylion cyswllt ar wefan GOV.UK

I gael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael, ewch i wefan GOV.UK

Cyn eich apwyntiad, meddyliwch am eich amgylchiadau ariannol yn eu cyfanrwydd. Megis eich cyflog neu incwm cyfredol, eich costau byw tebygol ar ôl ymddeol, ac unrhyw gynilion neu ddyledion perthnasol.

Mae hefyd yn werth dechrau meddwl sut rydych am ddefnyddio'ch arian pan fyddwch yn ymddeol. Ydych chi angen symiau bach yn unig neu a fyddai'n well gennych incwm rheolaidd?

Camau nesaf

Bydd Pension Wise yn rhoi'r camau nesaf i chi ar gyfer pob un o'r opsiynau sydd ar gael.

Pan fyddwch yn deall eich opsiynau, rydym yn argymell eich bod yn edrych o gwmpas i gael y fargen orau cyn gwneud penderfyniad.

Os ydych angen help i gwblhau'ch dewisiadau a dod o hyd i'r cynhyrchion incwm ymddeol cywir, gallwch hefyd siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.