A ydych yn cynllunio'ch ymddeoliad ac yn meddwl defnyddio rhywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn i sicrhau incwm gwarantedig trwy brynu blwydd-dal? Darganfyddwch y mathau o flwydd-dal sydd ar gael, manteision ac anfanteision pob un, a sut i ddewis un sy'n iawn i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw blwydd-dal?
Mae blwydd-dal yn darparu incwm gwarantedig rheolaidd i chi ar ôl ymddeol.
Gallwch brynu blwydd-dal â rhywfaint neu'r cyfan o'ch cronfa bensiwn. Mae'n talu incwm naill ai am oes neu am nifer y blynyddoedd y cytunwyd arnynt.
Pan ddefnyddiwch arian o'ch cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal, gallwch gymryd hyd at chwarter (25%) o'r swm fel arian parod di-dreth.
Yna gallwch ddefnyddio'r gweddill i brynu'r blwydd-dal - ac mae'r incwm rydych yn ei gael yn cael ei drethu fel enillion.
Gwerthir blwydd-daliadau gan gwmnïau yswiriant.
Mathau o flwydd-dal
Mae'r gwahanol fathau o flwydd-dal sydd ar gael yn cynnwys:
- Blwydd-dal gydol oes
- Blwydd-dal tymor penodol
- Blwydd-daliadau uwch
- Blwydd-daliadau cysylltiedig i fuddsoddiad
- Blwydd-dal bywyd wedi'i brynu.
Mae pa fath sydd orau i chi yn dibynnu ar lawer o bethau, fel pa incwm ymddeol arall sydd gennych, p'un a oes gennych broblem iechyd, a beth yw eich awydd am risg.
Blwydd-dal gydol oes
- Bydd yn talu incwm gwarantedig i chi am weddill eich oes.
- Gallai fod yn addas os ydych yn gyffredinol ddim yn hoffi risg ac nad ydych am i'ch cronfa bensiwn fod yn destun unrhyw risg buddsoddi.
- Mae'n opsiwn da os ydych eisiau tawelwch meddwl neu'n poeni bod eich arian yn rhedeg allan. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'ch holl gronfa bensiwn i brynu blwydd-dal. Felly gallech brynu blwydd-dal i dalu am rai, yn hytrach na'r cyfan, o'ch anghenion incwm - er enghraifft, eich gwariant hanfodol fel bwyd a biliau cartref.
- Gallwch brynu blwydd-dal sy'n cynyddu bob blwyddyn, i'ch amddiffyn rhag chwyddiant.
- Pan fyddwch yn prynu un, nid oes modd newid y penderfyniad, ni allwch newid eich meddwl yn nes ymlaen.
- Yn dibynnu ar ba mor hir rydych yn byw, efallai y byddwch yn cael llai na'r hyn rydych wedi'i dalu am eich blwydd-dal. Er y gallech ddewis darparu incwm neu lwmp swm i ddibynnydd pan fyddwch farw.
Bydd faint o incwm a gewch yn dibynnu ar y darparwr a ddewiswch, felly mae'n bwysig edrych o gwmpas i sicrhau eich bod yn cael y cynnig gorau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
Gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych chi neu'ch partner - oherwydd gallai olygu y gallech gael incwm blwydd-dal uwch.
Blwydd-dal tymor penodol
- Bydd yn talu incwm gwarantedig i chi am gyfnod penodol o amser. Gallwch ddewis term rhwng un a 40 mlynedd - er bod pump i ddeng mlynedd yn nodweddiadol.
- Mae'r darparwr blwydd-dal yn buddsoddi'r arian rydych yn ei dalu am y blwydd-dal. Ar ddiwedd y cyfnod, byddwch fel arfer yn cael ‘swm aeddfedrwydd’. Y lwmp swm hwn yw'r arian gwnaethoch ei dalu, ynghyd â'r twf buddsoddi - ond heb yr incwm rydych wedi'i dderbyn hyd yn hyn. Bydd y swm yn dibynnu ar faint o incwm roeddech ei angen dros y cyfnod, a faint y gwnaethoch ei dalu am y blwydd-dal ar y dechrau.
- Gallwch ddefnyddio'ch swm aeddfedrwydd yn y ffordd sy'n gweddu orau. Er enghraifft, gallech ei ddefnyddio i ddarparu incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr) neu brynu blwydd-dal arall. Os yw cyfraddau blwydd-dal wedi gwella erbyn diwedd y cyfnod, gallech gymryd blwydd-dal newydd â chyfradd well yn seiliedig ar eich bod yn hŷn, neu os yw'ch iechyd wedi dirywio.
- Cytunir ar y swm aeddfedrwydd pan fyddwch yn cymryd allan y cynnyrch. Felly, os dewiswch gael incwm blwydd-dal is, cewch swm aeddfedrwydd uwch ar y diwedd.
- Os byddwch farw cyn i'ch blwydd-dal tymor penodol ddod i ben, fel rheol gellir talu'r swm aeddfedrwydd i fuddiolwr rydych wedi'i enwebu.
- Mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig opsiwn i drosi a gadael eich blwydd-dal tymor penodol yn gynharach na'ch tymor penodol gwreiddiol. Ar y pwynt hwn, byddant yn ailgyfrifo'r swm aeddfedrwydd sy'n daladwy bryd hynny.
Wrth ystyried blwydd-dal tymor penodol, mae'n bwysig edrych o gwmpas i sicrhau eich bod yn cael y cynnig gorau. Gallwch hefyd ychwanegu ystod o nodweddion eraill sy'n addas i'ch amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
Blwydd-daliadau uwch
A ydych wedi cael diagnosis o salwch, neu oes gennych broblemau iechyd eraill a allai leihau eich disgwyliad oes? Yna efallai y gallwch gael incwm ymddeol uwch. Gelwir hyn hefyd yn flwydd-dal ‘bywyd â nam’.
Ymhlith y problemau iechyd sy'n golygu y gallech gael incwm ymddeol uwch mae:
- Strôc
- Canser
- Diabetes
- Trawiad ar y galon
- Methiant yr arennau
- Asthma cronig
- Sglerosis ymledol
- Pwysau gwaed uchel
- Colesterol uchel.
Mae rhai cyflyrau iechyd eraill a allai hefyd olygu eich bod yn cael incwm uwch. Er enghraifft, os ydych dros bwysau neu os ydych yn ysmygu'n rheolaidd.
Mae rhai cwmnïau hefyd yn cynnig cyfraddau blwydd-dal uwch i bobl sydd wedi gweithio mewn rhai swyddi. Er enghraifft, y rhai sy'n cynnwys llawer o lafur â llaw, neu sy'n byw mewn rhai ardaloedd o'r wlad sydd, er enghraifft, â disgwyliadau oes is.
Gofynnir cwestiynau meddygol i chi cyn i chi gael cynnig cyfradd blwydd-dal uwch. Efallai y bydd y darparwr blwydd-dal yn gofyn i'ch meddyg am fwy o wybodaeth neu'n gofyn i chi fynd am archwiliad meddygol.
Mae'r gyfradd blwydd-dal a gynigir i chi yn seiliedig ar amcangyfrif o'ch disgwyliad oes personol. Cyfrifir hyn gan ddefnyddio'r wybodaeth feddygol a ddarperir.
Blwydd-daliadau cysylltiedig i fuddsoddiad
Mae hwn yn fath o flwydd-dal gydol oes lle mae rhan o'ch incwm wedi'i warantu, ac mae rhan yn gysylltiedig â pherfformiad buddsoddiad.
Rydych yn dewis y lefel incwm gwarantedig rydych ei eisiau. A defnyddir rhan o'ch cronfa bensiwn i ddarparu hyn.
Buddsoddir balans y gronfa, ac mae'n talu incwm ychwanegol yn seiliedig ar enillion y buddsoddiad.
Byddech yn cael lefelau incwm uwch os yw marchnadoedd buddsoddi'n perfformio'n dda. Ond efallai byddwch ond yn cael yr isafswm gwarantedig os yw marchnadoedd yn gostwng.
Blwydd-dal bywyd wedi'i brynu
Gallwch brynu'r math hwn o flwydd-dal ag arian sydd ddim yn eich cronfa bensiwn.
Gallech hefyd ei brynu â'r cyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fyddwch yn dechrau cymryd arian o'ch pensiwn.
Mae gan y blwydd-dal hwn yr un opsiynau â blwydd-daliadau pensiwn, er eu bod yn cael eu trin ychydig yn wahanol at ddibenion treth.
Mae pob taliad blwydd-dal yn cynnwys dychweliad o ran o'r swm a fuddsoddwyd (y cyfalaf) ynghyd â'r rhan sy'n llog. Nid ydych yn talu treth incwm ar y cyfalaf. Dim ond ar ran llog eich incwm blwydd-dal y byddwch yn talu treth.
Gellir eu hysgrifennu ar sail cyfalaf a ddiogelir. Mae hyn yn golygu y byddant bob amser yn talu o leiaf cymaint o incwm cyn treth â'r swm a ddefnyddwyd i brynu'r blwydd-dal.
Os byddwch yn dewis ‘dim math o amddiffyniad’ pan fyddwch yn ei brynu, yna ni ddychwelir unrhyw gyfalaf pan fyddwch farw.
Faint o incwm ymddeol a gaf o flwydd-dal?
Bydd eich incwm ymddeol ac a ddylech brynu blwydd-dal ai peidio yn dibynnu ar:
- maint eich cronfa bensiwn
- pa mor hen rydych pan fyddwch yn prynu'ch blwydd-dal
- pa mor hir rydych am i'r blwydd-dal bara - am dymor penodol neu am eich oes
- cyfraddau blwydd-dal ar yr adeg rydych yn prynu
- lle rydych yn disgwyl byw pan fyddwch yn ymddeol
- eich iechyd a'ch ffordd o fyw
- pa fath blwydd-dal, opsiynau incwm a nodweddion rydych yn eu dewis.
Budd-daliadau a dyledion sy'n dibynnu ar brawf modd
Gall cymryd arian o'ch pensiwn effeithio ar eich cymhwysedd i gael budd-daliadau y wladwriaeth sy'n dibynnu ar brawf modd.
Darganfyddwch fwy am sut y gall budd-daliadau effeithio ar bensiynau yn GOV.UK
Fel rheol ni all cwmni neu berson rydych mewn dyled iddynt wneud cais yn erbyn eich pensiynau os nad ydych wedi dechrau cymryd arian oddi wrthynt eto. Mae hyn hefyd yn berthnasol i Ddyfarniadau Llys Sirol a Threfniadau Gwirfoddol Unigol. Ar ôl i chi dynnu arian o'ch pensiwn, fodd bynnag, efallai y bydd disgwyl i chi dalu.
Os oes angen i chi gael gwared ar ddyledion, mae'n bwysig cael cymorth arbenigol cyn cyrchu'ch pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Defnyddio'ch pensiwn i dalu dyledion
Sut i ddewis y math gorau o flwydd-dal
Beth yw’r math gorau o flwydd-dal? Mae llawer yn dibynu ar eich amgylchiadau.
Darganfyddwch pa nodweddion ac opsiynau blwydd-dal gydol oes a allai fod yn iawn i chi - a faint o incwm ymddeol y gallech ei gael yn y farchnad gyfredol - yn ein canllaw Opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
Mae llawer o wahanol nodweddion y gallwch eu dewis wrth brynu blwydd-dal. Felly mae'n bwysig siopa o gwmpas i ddod o hyd i un sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
Beth yw'r dewisiadau amgen i brynu blwydd-dal?
Mae pedwar opsiwn arall ar gyfer defnyddio'ch cronfa bensiwn heblaw blwydd-dal:
- cadwch eich cronfa bensiwn lle mae ac oedi cyn cymryd arian ohono
- defnyddio'ch cronfa i ddarparu incwm ymddeol hyblyg - tynnu pensiwn i lawr
- cymryd sawl cyfandaliad o'ch cronfa
- cymryd eich cronfa gyfan fel cyfandaliad.
Gallwch hefyd gymysgu'ch opsiynau i roi mwy o hyblygrwydd i chi.
Darganfyddwch fwy am y dewisiadau amgen i brynu blwydd-dal yn ein canllaw Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Allwch chi barhau i gyfranu i bensiwn os ydych yn prynu blwydd-dal?
Os ydych chi'n bwriadu cymryd eich cyfandaliad di-dreth, sefydlu incwm gwarantiedig o flwydd-dal a gwneud cyfraniadau pellach i'r un pensiwn neu un arall, rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r rheolau ‘ailgylchu pensiwn’.
Mae'r rhain wedi'u cynllunio i atal pobl rhag cael rhyddhad treth pellach ar gyfraniadau lle maent eisoes wedi elwa o ryddhad treth.
Gallai'r rheolau ailgylchu pensiwn effeithio arnoch chi os ydych yn bwriadu defnyddio peth neu'r cyfan o'ch cyfandaliad di-dreth i gynyddu cyfraniadau i bensiwn yn sylweddol.
Darganfyddwch fwy am ailgylchu pensiwn gan CThEM
Os ydych yn ystyried ail-fuddsoddi'ch cyfandaliad di-dreth i mewn i bensiwn, ystyriwch siarad ag ymgynghorydd ariannol. Gallant eich helpu i edrych ai rhoi'r arian yn ôl mewn pensiwn yw'r opsiwn gorau i chi a'ch helpu i osgoi unrhyw beryglon.