Mae'n bwysig eich bod yn siopa o gwmpas i ddod o hyd i'r cynnig gorau i chi, fel y byddech yn gwneud ag unrhyw bryniant arall. Efallai na fydd eich darparwr pensiwn yn cynnig yr opsiwn rydych ei eisiau, neu efallai y bydd eraill yn gallu rhoi cynnig gwell i chi - felly mae'n werth cymharu'r hyn y gall pob darparwr ei gynnig. Darganfyddwch beth i'w gadw mewn cof wrth siopa o gwmpas, a'r help penodol sydd ar gael ar gyfer gwahanol gynhyrchion.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pam ei fod yn bwysig siopa o gwmpas
- Gwiriwch eich pensiynau presennol a'r opsiynau sydd ar gael
- Siopa o gwmpas am incwm gwarantedig
- Siopa o gwmpas am incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr) neu gynhyrchion sy'n caniatáu i chi gymryd eich cronfa pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
- Adolygu a siopa o gwmpas yn flynyddol am incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr) neu gynhyrchion sy'n caniatáu i chi gymryd eich cronfa pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
Pam ei fod yn bwysig siopa o gwmpas
Nawr bod gennych fwy o ryddid dros sut i ddefnyddio'ch arian, mae'n bwysicach fyth i chi siopa o gwmpas a chymharu pensiynau- p'un a ydych yn edrych i gael incwm gwarantedig (blwydd-dal) neu fath arall o gynnyrch incwm ymddeol.
Yn dibynnu ar yr hyn rydych yn siopa o'i gwmpas amdano, gallai beth mae angen i chi feddwl amdano a sut rydych yn mynd i siopa o gwmpas fod yn wahanol.
Gwiriwch eich pensiynau presennol a'r opsiynau sydd ar gael
Rhybudd
Wrth siopa o gwmpas bob amser byddwch yn effro am sgamiau pensiwn. Darganfyddwch sut i adnabod sgam pensiwn
Cyn i chi siopa o gwmpas am unrhyw gynnyrch incwm ymddeol, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â'ch darparwr cyfredol i weld beth y gallent ei gynnig i chi.
Rhestrir isod y prif bethau i ddarganfod amdanynt:
- Pa opsiynau incwm maent yn eu cynnig? Nid yw pob darparwr yn cynnig yr holl opsiynau, felly darganfyddwch pa rai maent yn eu cynnig a pha rai nad ydynt yn eu cynnig.
- Os oes ganddynt opsiwn y mae gennych ddiddordeb ynddo, darganfyddwch sut y gallech ei gael, pa nodweddion a gwasanaethau maent yn eu cynnig i'ch cefnogi a beth yw'r ffioedd (gan eu bod yn gallu amrywio). Mae'n debyg na fydd y pecyn ‘deffro’ y mae eich darparwr yn ei anfon atoch pan gyrhaeddwch eich ‘oedran ymddeol dewisol’ (yr oedran y gwnaethoch gytuno i ymddeol) ond yn cynnwys gwybodaeth am y cynhyrchion y maent yn eu cynnig. Felly gall hwn fod yn lle da i ddechrau.
- Darganfyddwch a oes gan eich pensiwn unrhyw fuddion gwerthfawr, fel cyfradd blwydd-dal gwarantedig neu delerau ffafriol eraill, y byddech yn eu colli pe byddech yn symud eich pensiwn i ddarparwr arall.
- Gwiriwch a fyddant yn codi tâl arnoch am symud eich cronfa i ddarparwr arall. Ni fydd y rhan fwyaf yn gwneud, ond mae gan rai polisïau ffioedd am adael y cynllun.
Siopa o gwmpas am incwm gwarantedig
Oeddech chi’n gwybod?
Yn ôl adroddiad 2019 Which?, gall siopa o gwmpas am flwydd-dal gynyddu incwm ymddeol unigolyn hyd at 20%.
Pan fyddwch yn prynu blwydd-dal, fel rheol ni allwch newid eich meddwl, felly mae'n bwysig cael help a chyngor cyn ymrwymo i un.
Nid yw pob cynllun pensiwn a darparwr yn cynnig cynhyrchion incwm gwarantedig. Efallai na fydd y rhai sy'n gwneud yn cynnig bob math, neu'n cynnig y gyfradd orau i chi.
Mae'n ofynnol i'ch darparwr roi dyfynbris cymharol i chi a gofyn rhai cwestiynau ychwanegol i chi i ddarganfod a allech fod yn gymwys i gael incwm uwch.
Mae tair ffordd y gallwch siopa o gwmpas i weld a allwch gael incwm uwch:
1. Defnyddio cynghorydd ariannol rheoledig
Bydd cynghorwyr ariannol yn ymchwilio'r farchnad flwydd-daliadau i chi ac yn argymell y cynnyrch mwyaf addas sy'n cwrdd â'ch anghenion a'ch amgylchiadau penodol.
Byddant yn cysylltu â'ch darparwr pensiwn cyfredol i gael gwybodaeth eich polisi, yn trin yr holl waith papur ac yn delio â'r darparwyr fel bod popeth yn cael ei sefydlu'n gyflym.
Bydd rhaid i chi dalu am y cyngor, er y gellir cymryd hwn fel arfer o'r pensiwn a gallwch ddarganfod faint bydd cost y cyngor cyn ymrwymo.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio iawndal os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Darganfyddwch fwy am fuddion cael cyngor, a beth i wirio amdano, yn ein canllaw Ymddeoliad – pam dylwn gael cyngor?
Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr ariannol rheoledig sy'n arbenigo mewn cynllunio ymddeol yn ein Cyfeirlyfr ymgynghorwyr ymddeoliad
2. Defnyddio brocer
Bydd broceriaid yn cynnig gwasanaeth di-gyngor i chi. Mae hyn yn golygu y byddant yn esbonio'r holl opsiynau sydd ar gael, yn chwilio'r farchnad blwydd-daliadau a'ch helpu chi i gymharu.
Fodd bynnag, byddwch yn ofalus. Gall hwn fod yn opsiwn rhatach, ond nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig cyngor nac yn dweud wrthych pa flwydd-dal yw'r un gorau i chi.
Eich penderfyniad chi ydyw ac os dewiswch yr un anghywir ni allwch wneud cwyn na chael iawndal.
Bydd llawer o froceriaid yn dal i gysylltu â'ch darparwr pensiwn i gael eich gwybodaeth bolisi, yn trin yr holl waith papur ac yn delio â'r darparwyr ar eich rhan. Gellir cymryd eu ffi o'r pensiwn hefyd.
3. Siopa o gwmpas eich hunan
Mae'n bosibl siopa o gwmpas eich hun, a gallwch ddefnyddio ein teclyn cymharu blwydd-dal i chwilio'r farchnad blwydd-daliadau i'ch helpu i weld faint o incwm y gallech ei gael o wahanol opsiynau. Bydd yn dangos i chi sut mae'r holl ddarparwyr blwydd-dal ar y farchnad yn cymharu. Fodd bynnag, nid yw pob un ohonynt yn caniatáu i chi brynu blwydd-dal â hwy yn uniongyrchol.
Hefyd, efallai y byddant yn dal i godi tâl arnoch i sefydlu blwydd-dal â hwy, oherwydd efallai y bydd angen i chi fynd trwy ryw fath o wasanaeth heb gynghori
Efallai y bydd yn bosibl cael cynnig gwell fel hyn. Fodd bynnag, yn aml gall llawer o gynghorwyr a broceriaid gael cyfraddau ychydig yn well na mynd yn uniongyrchol eich hun. Gofynnwch i ddarparwyr bob amser a yw'ch dyfynbris blwydd-dal yn cynnwys unrhyw gomisiwn neu ffioedd
Mae'n bwysig cael cyngor
Gall defnyddio cynghorydd neu frocer roi mwy dawelwch meddwl eich bod wedi gwneud y penderfyniad cywir, arbed llawer o amser i chi a'ch helpu i gael y gorau am eich arian
Waeth pa lwybr yr ewch i lawr, mae’n bwysig gwirio i weld a ydych yn gymwys i gael ‘blwydd-dal gwell’. Gall y math hwn o flwydd-dal ddarparu incwm uwch i bobl â chyflyrau meddygol neu ffactorau ffordd o fyw sy'n lleihau eu disgwyliad oes (er enghraifft, ysmygu).
Yn gyffredinol, bydd cyflyrau meddygol a ffactorau ffordd o fyw sy'n cael eu hystyried yr un peth ar draws darparwyr. Mae'n debygol y bydd pob darparwr yn cymryd agwedd wahanol at gyflyrau iechyd, a gallai hyn arwain at iddynt gynnig incwm uwch neu is.
Siopa o gwmpas am incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr) neu gynhyrchion sy'n caniatáu i chi gymryd eich cronfa pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
Gall cynhyrchion incwm ymddeol hyblyg fod yn anodd cymharu eich hun. Mae hyn oherwydd bod llawer o ddewis a bydd beth sydd orau i chi yn dibynnu ar lawer o ffactorau.
Os ydych yn ystyried tynnu pensiwn i lawr, mae'n bwysig meddwl am y ffactorau a restrir isod:
Nodweddion cynnyrch sydd ar gael
Efallai y bydd gwahanol gynhyrchion yn cynnig gwahanol opsiynau, fel pa mor aml y gallwch gymryd incwm.
Efallai y bydd darparwyr yn gosod isafswm ar faint mae rhaid bod gennych yn eich cronfa i sefydlu cynnyrch â hwy, a chynnig gwahanol lefelau o wasanaeth (fel gwybodaeth ac offer i'ch helpu yn ogystal â nodweddion eraill).
Y dewisiadau buddsoddi sydd ar gael
Mae rhai darparwyr yn cynnig ystod eang o fuddsoddiadau, tra bod eraill yn cynnig ystod llai. Mae rhai yn cynnig opsiynau buddsoddi parod - fel llwybrau buddsoddi (gwelwch isod am fanylion) - ac mae eraill yn cynnig buddsoddiadau mwy arbenigol.
Meddyliwch am eich anghenion, eich profiad a chymaint rydych eisiau gwneud â buddsoddi'ch pensiwn a'i gadw dan adolygiad.
Y ffioedd y byddwch yn eu talu am y cynnyrch a'r buddsoddiadau
Mae gan wahanol gynhyrchion ffioedd gwahanol. Gall hyn gynnwys:
- ffioedd sefydlu cychwynnol
- taliadau gweinyddol
- taliadau platform
- taliadau buddsoddi
- ffioedd masnachu.
Gall hyn ei gwneud yn anodd cymharu, oherwydd gall y cyfuniad o ffioedd amrywio. Mae rhai hefyd yn cynnig gostyngiadau ar gyfer rhai pethau, a all ei gwneud yn anos fyth eu cymharu.
Darganfyddwch fwy am ffioedd yn ein canllaw Ffioedd cynllun pensiwn
Dyna pam rydym yn argymell yn gryf cael cyngor ariannol rheoledig. Os penderfynwch fynd ar eich pen eich hun a'ch bod yn dewis cynnyrch sy'n anaddas, nid oes gennych lawer o ddiogelwch os bydd pethau'n mynd o chwith.
Gall cynghorydd edrych ar eich sefyllfa ariannol, gan gynnwys eich agwedd at risg a'ch gallu i drin anfanteision cadw'ch arian wedi’i fuddsoddi mewn ymddeoliad. Yna byddant yn gallu creu cynllun ariannol, a fydd yn cynnwys asesu pa gynhyrchion sydd orau i ddiwallu'ch anghenion penodol.
Os yw cynnyrch incwm ymddeol hyblyg yn addas, gallant edrych ar faint o arian y byddai'n briodol ei dynnu o'ch cronfa – yn seiliedig ar sut y gallai dyfu a pha mor hir y gallai fod angen iddo barhau.
Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr ariannol rheoledig sy'n arbenigo mewn cynllunio ymddeol yn ein Cyfeirlyfr cynghorydd ymddeoliad
Neu gallech ddewis sefydlu a defnyddio tynnu pensiwn heb gyngor.
Os ydych am gymryd arian o'ch pensiwn fel hyn, bydd angen i chi wneud penderfyniadau am:
- faint o arian i'w gymryd a pha mor aml
- pa gronfeydd a marchnadoedd i fuddsoddi ynddynt.
Bydd angen i chi eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod eich arian yn para cyhyd ag y mae ei angen arnoch, gan gofio effaith chwyddiant.
Os ydych yn ystyried mynd ar eich pen eich hun, dylech wirio'r hyn y mae eich darparwyr presennol yn ei gynnig. Er nad yw pob darparwr pensiwn neu gynllun yn cynnig y gallu i gymryd incwm ymddeol hyblyg o'ch cronfa bensiwn. Os yw hyn yn wir, cymharwch hyn ag opsiynau eraill ar y farchnad.
Gallwch fynd at ddarparwyr pensiwn eraill yn uniongyrchol i ofyn iddynt pa opsiynau talu y maent yn eu cynnig ac i gymharu ffioedd, gwasanaethau a hyblygrwydd.
Bydd rhai darparwyr yn cynnig dewis i chi rhwng opsiynau buddsoddi parod syml, sy'n gysylltiedig â'ch cynlluniau ymddeol (gelwir y rhain yn llwybrau buddsoddi).
Mae llwybr buddsoddi yn opsiwn buddsoddi parod. Mae hyn yn symleiddio'r penderfyniad o sut i fuddsoddi'ch cronfa bensiwn sy'n weddill ar ôl i chi gymryd eich cyfandaliad di-dreth. Fel â phob buddsoddiad, gall gwerth eich cronfa fynd i fyny neu i lawr.
Os siaradwch yn uniongyrchol â darparwyr cynnyrch eraill, gofynnwch a ydynt yn cynnig cyngor ac argymhelliad i chi neu ddim ond gwybodaeth.
Os ydynt ond yn cynnig gwybodaeth, mae rhaid i chi fod yn hyderus bod yr opsiwn hwn yn iawn i chi gan nad oes gennych unrhyw amddiffyniad os yw dewis cymryd cyfandaliadau yn anaddas.
Os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor. Efallai y bydd y darparwr rydych yn siarad â hwy yn gallu argymell rhestr o gynghorwyr ariannol rheoledig neu gynnig eu gwasanaeth cynghori eu hunain.
Fodd bynnag, os yw darparwr yn cynnig cyngor, mae fel arfer wedi'i gyfyngu i argymell eu cynhyrchion eu hunain yn unig. Os ydych eisiau dewis ehangach, ymgynghorwch â chynghorydd ariannol annibynnol.
I gael mwy o wybodaeth am gyngor, a beth i edrych amdano, gwelwch ein canllaw Ymddeoliad – pam dylwn gael cyngor?
Adolygu a siopa o gwmpas yn flynyddol am incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr) neu gynhyrchion sy'n caniatáu i chi gymryd eich cronfa pensiwn fel nifer o gyfandaliadau
Mae tynnu pensiwn neu gymryd eich cronfa bensiwn fel nifer o gyfandaliadau yn wahanol i brynu incwm gwarantedig (blwydd-dal). Mae hyn oherwydd y gallwch newid darparwr neu newid eich symiau incwm ar unrhyw adeg.
Felly yn hytrach na siopa o gwmpas dim ond ar yr adeg rydych yn mynd i mewn i dynnu pensiwn neu'n dechrau cymryd cyfandaliadau o'ch pensiwn, dylech fod yn adolygu'ch dewis o ddarparwr, yr arian rydych yn ei dynnu allan a'ch strategaeth fuddsoddi yn rheolaidd – o leiaf unwaith y flwyddyn.