Os byddwch yn mynd yn sâl, yn methu â gweithio ac mae'n debygol na fyddwch yn gallu dychwelyd i'r gwaith, efallai y gallwch gael mynediad i'ch pensiwn yn gynnar.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw ymddeoliad iechyd gwael?
- Iechyd gwael a chynlluniau buddion wedi’u diffinio
- Cronfeydd pensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio
- Allai gael fy Mhensiwn y Wladwriaeth yn gynnar oherwydd iechyd gwael?
- Ystyriwch eich holl opsiynau
- Sut mae ymddeoliad iechyd gwael yn cael ei gyfrifo?
- Darganfyddwch pryd y gallwch gasglu eich Pensiwn y Wladwriaeth
- Ydy eich incwm yn cwmpasu eich treuliau?
- Cael mwy o arweiniad a chyngor
Beth yw ymddeoliad iechyd gwael?
Ymddeoliad iechyd gwael yw pan fyddwch yn gallu cael mynediad i'ch pensiwn yn gynnar oherwydd iechyd gwael. Weithiau fe welwch y cyfeirir at hyn fel ymddeoliad meddygol neu ymddeoliad am resymau meddygol.
Os oes gennych bensiwn preifat neu bensiwn gweithle, efallai y gallwch ddechrau cymryd incwm a/neu gyfandaliadau o'ch pensiwn ar unrhyw oedran oherwydd afiechyd. Nid yw'r isafswm oedran ymddeol arferol o 55 oed yn berthnasol.
Mae gan wahanol gynlluniau pensiwn reolau gwahanol, felly gofynnwch i'ch darparwr pensiwn neu weinyddwr eich cynllun am fanylion. Mae rhai yn caniatáu i chi gael mynediad i'ch pensiwn yn gynnar os yw'n edrych fel na fyddech chi'n gallu dychwelyd i'ch swydd oherwydd salwch corfforol neu feddyliol. Efallai y bydd cynlluniau eraill yn gofyn na fyddwch yn gallu gwneud unrhyw swydd, nid dim ond eich swydd eich hun.
Mewn achosion o afiechyd difrifol lle mae eich disgwyliad oes yn llai na blwyddyn, efallai y gallwch chi gymryd eich holl bensiwn fel cyfandaliad di-dreth.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ategol os ydych am gael mynediad i'ch pensiwn oherwydd iechyd gwael.
Os oes gennych gynllun diogelu incwm (a elwir hefyd yn yswiriant iechyd parhaol), mae angen i chi ystyried o ddifrif a ydych yn dewis cael mynediad i'ch pensiwn. Mae hyn oherwydd y gallai unrhyw incwm a gewch o'ch pensiwn leihau'r taliadau o'r cynllun diogelu incwm. Dylech hefyd wirio os ydy cael mynediad at eich pensiwn yn effeithio ar eich gallu i gael budd-daliadau’r wladwriaeth.
Iechyd gwael a chynlluniau buddion wedi’u diffinio
Gall rhai cynlluniau buddion wedi’u diffinio (sy'n cynnwys pensiynau cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa) yn dechrau talu'ch pensiwn yn gynnar os bydd iechyd gwael parhaol.
Fel arfer, mae'r math hwn o bensiwn yn cael ei leihau os caiff ei dalu'n gynnar. Ond ni fydd llawer o gynlluniau yn gwneud y gostyngiad hwn os cymerwch eich pensiwn yn gynnar oherwydd iechyd gwael.
Yr uchafswm sy'n daladwy yw'r hyn y byddech wedi'i gael pe byddech yn parhau i weithio hyd at eich dyddiad ymddeol arferol.
Pan ddisgwylir i'ch disgwyliad oes fod yn llai na blwyddyn, gallai rheolau'r cynllun ganiatáu i chi gymryd gwerth cyfan eich pensiwn fel cyfandaliad parod di-dreth.
Bydd cyfandaliad afiechyd difrifol a delir cyn i chi gyrraedd 75 oed yn cael ei dalu yn ddi-dreth, ar yr amod bod gennych lwfans gydol oes ar gael ac nad ydych wedi cymryd arian o’ch pensiwn yn flaenorol.
Os ydych chi dros 75 oed, bydd y cyfandaliad yn cael ei drethu fel enillion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans oes ar gyfer cynilion pensiwn
Cronfeydd pensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio
Os byddwch angen rhoi'r gorau i weithio oherwydd iechyd gwael, efallai y bydd modd i chi cael mynediad i'ch cronfa bensiwn yn gynnar, waeth beth yw eich oedran.
Mae'r swm y gallech ei gael yn dibynnu ar delerau ac amodau'r polisi. Os ydych yn sâl, gwiriwch eich opsiynau gyda'ch darparwr pensiwn.
Dylai fod gennych yr un opsiynau ar gyfer cymryd eich arian ag y byddai gennych fel arfer yn 55 oed.
Os penderfynwch ddefnyddio rhywfaint neu'r cyfan o'ch cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal i ddarparu incwm gwarantedig, gallai blwydd-dal oes â nam neu flwydd-dal uwch rhoi lefelau incwm uwch i chi.
Mae'r gyfradd blwydd-dal a gynigir i chi yn seiliedig ar amcangyfrif o'ch disgwyliad oes personol. Cyfrifir hyn gan ddefnyddio'r wybodaeth feddygol a ddarperir.
Os yw'ch disgwyliad oes yn cael ei ostwng i lai na blwyddyn oherwydd salwch, efallai y gallwch chi gymryd eich cronfa bensiwn cyfan fel cyfandaliad arian parod. Telir cyfandaliad afiechyd difrifol a delir cyn i chi gyrraedd 75 oed yn ddi-dreth. Mae hyn ar yr amod bod gennych lwfans gydol oes ar gael. Os ydych dros 75 oed, bydd y cyfandaliad yn cael ei drethu fel incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi’i egluro
Allai gael fy Mhensiwn y Wladwriaeth yn gynnar oherwydd iechyd gwael?
Nid yw'n bosibl cael eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, oherwydd iechyd gwael. Ond efallai y bydd gennych hawl i rai budd-daliadau eraill y wladwriaeth, fel:
- Tâl Salwch Statudol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu
- Credyd Cynhwysol.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Ystyriwch eich holl opsiynau
Os ydych yn ystyried ymddeol oherwydd iechyd gwael neu anabledd, cymerwch amser i ystyried eich opsiynau.
Cyfrifwch beth fydd pob un yn ei olygu i chi yn ariannol, yn ogystal ag i'ch iechyd a'ch lles. Ac mae'n bwysig cael cyngor ariannol arbenigol, annibynnol.
A yw gweithio hyblyg neu ran-amser yn bosibilrwydd?
Os ydych yn anabl neu gyda chyflwr iechyd, rhaid i'ch cyflogwr wneud ‘addasiadau rhesymol’ fel nad ydych dan anfantais yn y gwaith.
Os ydych yn credu y gallech chi barhau yn y gwaith pe bai'ch cyflogwr wedi gwneud newidiadau i'ch swydd, eich oriau neu'ch gweithle, gallwch ofyn iddynt wneud hynny.
Rhaid iddynt weithredu ar eich cais cyhyd â'i fod yn rhesymol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cefnogaeth i roi cymorth i chi gadw’ch swydd pan fyddwch yn sâl neu’n anabl
Ystyriwch y buddion o barhau i weithio
Mae'n bwysig ystyried pob agwedd ar waith, nid rhai ariannol yn unig, wrth wneud eich penderfyniad.
Os ydych yn gallu gweithio a'n cael eich cefnogi i wneud hynny, gallai'r effeithiau cadarnhaol i chi gynnwys:
- boddhad swydd
- gwell ansawdd bywyd
- gwell lles emosiynol.
- parhau i fod yn aelod o fuddion a ddarparir gan eich cyflogwr fel yswiriant bywyd, amddiffyn incwm, yswiriant iechyd, neu gytundeb pensiwn.
Diswyddo gwirfoddol yn erbyn ymddeol yn gynnar
Efallai bod eich cyflogwr wedi cynnig diswyddiad i chi fel dewis arall yn lle ymddeol yn gynnar?
Peidiwch â chael eich gwthio i wneud penderfyniad cyflym. Mae deddfau gwrth-wahaniaethu yn golygu eich bod wedi'ch amddiffyn os ydych yn anabl neu os oes gennych rai cyflyrau iechyd.
Er enghraifft, rhaid i'ch cyflogwr gadw'ch swydd ar agor i chi ac ni all roi pwysau arnoch i ymddiswyddo oherwydd eich bod wedi dod yn anabl.
Os ydych yn hapus i ystyried diswyddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso a mesur yr holl fanteision ac anfanteision.
Un fantais o ddiswyddo fyddai'r tâl diswyddo. Darganfyddwch yn union faint fyddech yn ei gael ac a oes angen i chi dalu treth arno.
Os ydych yn bwriadu defnyddio'ch tâl diswyddo fel incwm, gwnewch yn siŵr eich bod yn llunio cyllideb gywir i gyfrifo pa mor hir y bydd yn para.
Defnyddiwch y gyfrifiannell tâl diswyddo statudol ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tâl diswyddo
Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus, efallai y byddai'n well gennych ddiswyddiad yn y gobaith y bydd eich cyflwr yn gwella a'ch bod yn gallu dychwelyd i'r gwaith ar ryw adeg. Efallai na fydd hyn yn bosibl os byddwch yn dewis ymddeol yn gynnar.
Siaradwch â'ch cynrychiolydd undeb i ddarganfod yn union beth yw eich opsiynau, neu gael cyngor gan eich adran iechyd galwedigaethol yn y gweithle.
Sut mae ymddeoliad iechyd gwael yn cael ei gyfrifo?
Eich pensiwn gweithle neu bersonol
I'ch helpu i gyfrifo'ch incwm os ydych wedi ymddeol yn gynnar:
- darganfyddwch gan eich darparwr cynllun pensiwn beth yw eu rheolau ac a allwch chi gymryd y pensiwn yn gynnar oherwydd iechyd gwael
- gofynnwch i'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn pa opsiynau talu sydd ar gael a pha incwm y gallai'r rhain ei ddarparu.
Incwm arall
- Sicrhewch eich bod yn hawlio popeth y gallai fod gennych hawl iddo oherwydd y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â bod yn anabl neu fod â chyflwr iechyd tymor hir - er enghraifft, Taliad Annibyniaeth Personol.
- Edrychwch a oes unrhyw gymorth y gallwch ei hawlio i ddisodli'ch enillion coll os nad oes gennych fawr o incwm pensiwn, os o gwbl - er enghraifft, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
- Gwnewch gais am gymorth gyda chostau hanfodol - er enghraifft, Budd-dal Tai.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
Lle fedra i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
Darganfyddwch pryd y gallwch gasglu eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gwiriwch eich Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK
Ydy eich incwm yn cwmpasu eich treuliau?
Lluniwch gyllideb i ddarganfod faint rydych angen i dalu am eich treuliau rheolaidd.
Mae hwn yn gam hanfodol wrth benderfynu a allwch fforddio ymddeol yn gynnar.
Cael mwy o arweiniad a chyngor
Gall Pension Wise eich helpu i wneud synnwyr o sut a phryd y gallwch gael mynediad i'ch cronfa bensiwn. Mae Pension Wise yn wasanaeth y llywodraeth sy'n cynnig arweiniad diduedd am ddim dros y ffôn.
Ar ôl eich apwyntiad PensionWise, efallai yr hoffech gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol rheoledig. Maent yn weithwyr proffesiynol cymwys a all roi cyngor unigol i chi ar y ffordd orau o droi eich cronfa bensiwn i incwm ymddeol yn seiliedig ar eich amgylchiadau