Wrth ichi nesáu at ymddeol, gallech ei chael yn anodd adnewyddu eich morgais llog yn unig, hyd yn oed os ydych bob amser yn talu’ch taliadau misol yn brydlon. Er hynny, efallai yr hoffech ryddhau ychydig o’r ecwiti sydd yn eich cartref.
Beth yw morgais ymddeol llog yn unig?
Mae morgais ymddeol llog yn unig ond ar gael ar eich prif breswylfan ac yn debyg iawn i forgais llog yn unig safonol, ond gyda dau brif wahaniaeth.
- Fel arfer, caiff y benthyciad ei glirio ar ôl i chi farw, symud i gartref gofal hirdymor, neu pan werthwch y tŷ.
- Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw profi y gallwch fforddio’r ad-daliadau llog misol.
Er nad oes gofyniad oedran lleiaf, fel arfer mae morgeisi ymddeol llog yn unig wedi eu targedu at fenthycwyr hŷn, er enghraifft rhai dros 55 oed, dros 60 a phensiynwyr a all ei chael yn haws bod yn gymwys ar gyfer morgeisi o’r fath yn hytrach na morgais llog yn unig safonol.
O ganlyniad, maent yn debyg i fathau o gynlluniau rhyddhau ecwiti fel morgais gydol oes, lle gallwch glirio’r cyfalaf gwreiddiol ac o bosibl unrhyw log pan fyddwch farw neu’n mynd i gartref gofal hirdymor.
Sut fyddaf yn ad-dalu morgais ymddeol llog yn unig?
Mae dwy ran i’w had-dalu gyda morgais ymddeol llog yn unig. Y llog a’r cyfalaf sy’n weddill.
Yn ystod cyfnod y morgais, byddwch yn gwneud ad-daliadau misol i ysgwyddo cost llog eich benthyciad.
Bydd y cyfalaf sy’n weddill ac sy’n ddyledus gennych yn cael ei glirio pan werthir y tŷ, pan fyddwch farw, neu pan ewch i gartref gofal hirdymor.
Manteision ac anfanteision morgais ymddeol llog yn unig
Mae ambell i reswm pam gallai morgais ymddeol llog yn unig fod yn ddewis da i chi:
- nid oes angen dangos cynllun addas ar gyfer ad-dalu’r morgais.
- byddwch yn fwy tebygol o fedru cynnig rhywbeth i’w drosglwyddo fel etifeddiaeth.
- nid oes perygl o gael llog yn cronni – sef pan fydd llog yn cynyddu ac yn cynyddu - fel gyda rhyddhau ecwiti.
- byddwch yn osgoi gorfod symud i gartref llai.
- nid yw cyfnod y benthyciad yn un penodol.
- mae fel arfer yn rhatach o’i gymharu â’r rhan fwyaf o Forgeisi Gydol Oes.
- gallwch ryddhau ychydig o’r ecwiti sydd yn eich cartref i dalu unrhyw ddyledion.
Ond mae rhai pethau allai olygu bod rhaid i chi edrych ar dewisiadau eraill:
- bydd angen i chi fodloni gwiriadau yn ymwneud â fforddiadwyedd morgais i brofi y gallwch fforddio’r ad-daliadau llog yn unig.
- gwerthir eich cartref i ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch farw, yn mynd i gartref gofal hirdymor neu pan werthwch eich cartref.
- os na fyddwch yn llwyddo i ad-dalu’n brydlon, gallech fod mewn perygl o golli’ch cartref.
- mae’r swm y caniateir ichi ei fenthyca’n seiliedig ar eich incwm ymddeol a’ch cymhareb benthyciad yn erbyn gwerth.
A ddylwn ddewis morgais ymddeol llog yn unig
Os ydych yn dod tuag at ddiwedd cyfnod eich morgais llog yn unig presennol, siaradwch â’ch benthyciwr i weld a all ymestyn cyfnod eich morgais i’ch ymddeoliad.
Gallwch siarad â brocer morgeisi annibynnol hefyd ynglŷn â’r camau nesaf y gallech eu cymryd. Nid oes rhaid i’r brocer gael cymhwyster rhyddhau ecwiti i’ch helpu i ddod o hyd i morgais ymddeol llog yn unig.
Os ydych yn ystyried cynllun rhyddhau ecwiti, bydd angen ichi siarad â chynghorydd annibynnol er mwyn pwyso a mesur eich opsiynau.
Darganfyddwch fwy am Dewis cynghorydd ariannol
Ble allaf gael morgais ymddeol llog yn unig
Gall darparwyr morgeisi traddodiadol, gan gynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu’r stryd fawr, gynnig morgeisi ymddeol llog yn unig.
A allaf ailforgeisio?
Gallwch, mae’n bosibl i ailforgeisio morgais ymddeol llog yn unig. Fodd bynnag, gallech orfod cwblhau asesiad fforddiadwyedd arall os ydych yn newid eich darparwr neu’n dymuno cynyddu maint eich morgais, a gallai hyn fod yn anodd i rai pobl.