Rhyddhau ecwiti yw’r enw a roddir ar ystod o gynnyrch sy’n caniatáu i chi gael mynediad at yr ecwiti (arian parod) sydd ynghlwm yn eich cartref os ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn. Gallwch gymryd yr arian a ryddhewch fel cyfandaliad neu, nifer o symiau llai neu gyfuniad o’r ddau.
Dewisiadau rhyddhau ecwiti
Ceir dau brif fath o opsiynau rhyddhau ecwiti:
- Morgais gydol oes: rydych yn cymryd morgais wedi’i ddiogelu ar eich cartref cyn belled mai hwnnw yw’ch prif le preswyl, tra’ch bod yn parhau â’r berchenogaeth. Gallwch ddewis neilltuo peth o werth eich eiddo fel etifeddiaeth i’ch teulu. Gallwch ddewis gwneud ad-daliadau neu adael i’r llog gronni. Telir swm y benthyciad a’r llog a gronnwyd yn ôl pan fyddwch chi’n marw neu’n symud i ofal hirdymor.
- Ôl-feddiannu cartref: lle rydych yn gwerthu rhan o’ch cartref, neu’r cartref cyfan, i ddarparwr ôl-feddiannu, yn gyfnewid am gyfandaliad neu daliadau rheolaidd. Mae gennych hawl i barhau i fyw yn yr eiddo hyd nes i chi farw, heb dalu rhent, ond rhaid i chi gytuno i’w gynnal a’i yswirio. Gallwch neilltuo canran o’ch eiddo i’w ddefnyddio’n ddiweddarach, ar gyfer etifeddiaeth efallai. Bydd y ganran a gadwch yn aros heb ei newid hyd yn oed os ceir newid mewn gwerth eiddo, oni bai eich bod yn penderfynu rhyddhau rhagor o arian parod. Ar ddiwedd y cynllun gwerthir eich eiddo a bydd elw’r gwerthiant yn cael ei rannu yn unol â chyfrannau’r berchnogaeth sy’n weddill.
Cadwch lygad am farc ardystio'r Cyngor Rhyddhau Ecwiti i sicrhau eich bod yn defnyddio darparwr dibynadwy.
Morgeisi gydol oes
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhyddhau ecwiti yn defnyddio morgais gydol oes.
Fel arfer, nid yw’n ofynnol i chi wneud unrhyw ad-daliadau tra yr ydych chi’n fyw, mae llog yn ‘cronni’, sy’n golygu yr ychwanegir llog sydd heb ei dalu i’r benthyciad. Golyga hyn y gall y ddyled gynyddu’n eithaf cyflym dros amser.
Fodd bynnag, bellach mae rhai morgeisi gydol oes yn cynnig y dewis i chi dalu peth neu’r cyfan o’r llog, ac mae rhai yn caniatáu i chi dalu’r llog a’r cyfalaf.
Mae rhai cynhyrchion hefyd yn darparu amddiffyniad Treth Etifeddiant trwy glustnodi peth o werth eich eiddo fel etifeddiaeth i'ch teulu.
Yn yr un modd mae morgeisi cyffredin yn amrywio o fenthyciwr i fenthyciwr, felly hefyd forgeisi gydol oes.
Os ydych chi'n meddwl am Forgais Oes, yna gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw Morgeisi ymddeol llog yn unig yma
Darganfyddwch yr atebion i'r cwestiynau canlynol pan rydych yn edrych i mewn i gael morgais oes
- Beth yw'r isafswm oedran y gallwch gymryd morgais oes? Fel arfer, mae'n 55. Rydym i gyd yn byw yn hirach felly po gynharaf y byddwch yn dechrau po fwyaf y mae'n debygol o gostio yn y tymor hir.
- Beth yw'r ganran uchaf y gallwch ei benthyg? Fel rheol gallwch fenthyg hyd at 60% o werth eich eiddo. Mae faint y gellir ei ryddhau yn dibynnu ar eich oedran a gwerth eich eiddo. Mae'r ganran fel arfer yn cynyddu yn ôl eich oedran pan fyddwch yn cymryd y morgais gydol oes, tra gallai rhai darparwyr gynnig symiau mwy i'r rheini sydd â chyflyrau meddygol penodol yn y gorffennol neu'r presennol.
- A yw'r cyfraddau llog yn sefydlog? Rhaid iddynt fod, neu os ydynt yn amrywiol, rhaid bod “cap” (terfyn uchaf) sy'n sefydlog am oes y benthyciad (safon y Cyngor Rhyddhau Ecwiti).
- P'un a oes gennych hawl i aros yn eich eiddo am oes neu nes bod angen i chi symud i ofal hirdymor , ar yr amod mai'r eiddo yw eich prif breswylfa a'ch bod yn cadw at delerau ac amodau eich contract. (Safon y Cyngor Rhyddhau Ecwiti).
- Sicrhewch fod gan y cynnyrch “ddim gwarant ecwiti negyddol”. Mae hyn yn golygu pan fydd eich eiddo'n cael ei werthu, a ffioedd asiantau a chyfreithwyr wedi'u talu, hyd yn oed os nad yw'r swm sy'n weddill yn ddigon i ad-dalu'r benthyciad sy'n ddyledus i'ch darparwr, ni fyddwch chi na'ch ystâd yn atebol i dalu mwy (Safon Cyngor Rhyddhau Ecwiti).
- Sicrhewch fod gennych yr hawl i symud i eiddo arall ar yr amod bod yr eiddo newydd yn dderbyniol i'ch darparwr cynnyrch fel sicrwydd parhaus ar gyfer eich benthyciad rhyddhau ecwiti (safon y Cyngor Rhyddhau Ecwiti). Efallai y bydd trothwyon ychydig yn wahanol i ddarparwyr morgeisi oes gwahanol.
- P'un a allwch chi dalu dim, peth neu'r cyfan o'r llog. Os gallwch wneud ad-daliadau, bydd y morgais yn llai costus. Fodd bynnag, gyda morgais oes lle gallwch wneud taliadau misol, gallai'r swm y gallwch ei ad-dalu fod yn seiliedig ar eich incwm. Bydd yn rhaid i ddarparwyr wirio a allwch fforddio'r taliadau rheolaidd hyn.
- P'un a allwch chi dynnu'r ecwiti rydych yn ei ryddhau mewn symiau bach yn ôl yr angen, neu a oes rhaid i chi ei gymryd fel un cyfandaliad. Y fantais o allu tynnu arian allan mewn symiau llai yw eich bod ond yn talu'r llog ar y swm rydych wedi'i dynnu'n ôl. Os gallwch chi gymryd cyfandaliadau llai, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a oes isafswm.
Dychweliad Cartref
Mae Dychweliad Cartref yn eich galluogi i werthu rhywfaint o’ch cartref, neu’ch cartref cyfan, i ddarparwr ôl-feddiannu cartref.
Mae'r darparwr yn gydberchennog eich cartref i bob pwrpas, ond rydych chi'n cadw'r hawl i fyw yno am weddill eich oes.
Yn gyfnewid am hynnny cewch gyfandaliad neu daliadau cyson.
Fel arfer cewch rhwng 20% a 60% o werth eich cartref ar y farchnad (neu’r rhan a werthwch).
Wrth ystyried cynllun ôl-feddiannu cartref, dylech wirio:
- P’un ai allwch ryddhau ecwiti mewn nifer o daliadau neu mewn un cyfandali.
- Yr oed gofynnol y gallwch gymryd cynllun ôl-feddiannu cartref. Mae rhai darparwyr ôl-feddiannu cartref yn mynnu eich bod yn 60 neu 65 oed o leiaf cyn y gallwch wneud cais.
- Canran gwerth y farchnad a gewch. Bydd hyn yn cynyddu po hynaf fyddwch chi pan gymerwch y cynllun ond gall amrywio o un darparwr i’r llall.
Pa lefel o waith cynnal y disgwylir i chi ei gwblhau a pha mor aml yr archwilir eich eiddo (gallai hyn ddigwydd bob rhyw ddwy neu dair blynyedd).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dychweliad Cartref
I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'r Cyngor Rhyddhau Ecwiti
Pethau mae angen i chi eu gwybod am ryddhau ecwiti
Gall rhyddhau ecwiti ymddangos fel dewis da os dymunwch gael ychydig o arian ychwanegol ac nid ydych yn dymuno symud tŷ.
Fodd bynnag, mae rhai pethau pwysig i’w hystyried:
- Gall rhyddhau ecwiti fod yn fwy costus na morgais arferol. Os cymerwch forgais gydol oes fel arfer codir cyfradd uwch o log arnoch na fyddech yn ei thalu ar forgais cyffredin a gall eich dyled gynyddu’n gyflym os cronnir y llog.
- Efallai y bydd gwerth eich tŷ yn cynyddu, sy'n golygu efallai y gallwch chi dynnu mwy o ecwiti allan, neu fod yn gymwys i gael cyfradd fwy cystadleuol
- Bydd angen i’ch darparwr gofio ystyried y mesurau diogelu mae’n ei ddarparu ar eich cyfer (fel y gwarant dim ecwiti negyddol a chyfradd llog sefydlog drwy gydol y cynllun) yn ei gyfrifiadau a gall, o ganlyniad hynny, fenthyca i chi ar gyfradd sy’n wahanol i’r un a geir mewn morgais cyffredin.
- Ar gyfer morgeisi gydol oes, nid oes “cyfnod” penodol neu ddyddiad pryd y disgwylir i chi fod wedi ad-dalu’ch benthyciad. Ni fydd cyfradd llog morgais gydol oes yn newid yn ystod cyfnod eich cytundeb, oni bai y byddwch yn benthyca rhagor a bydd yn berthnasol i’r cylch hwnnw o fenthyca ychwanegol yn unig.
- Nid yw cynlluniau ôl-feddiannu cartref yn rhoi pris unlle’n agos at wir werth eich cartref ar y farchnad fel arfer, o’u cymharu â gwerthu’ch eiddo ar y farchnad agored.
- Os rhyddhewch ecwiti o’ch cartref, efallai na fyddwch yn medru dibynnu ar eich eiddo am arian y byddwch ei angen yn ddiweddarach yn eich ymddeoliad. Er enghraifft, os bydd angen i chi dalu am ofal hirdymor.
- Er gallwch symud cartref a chymryd eich morgais gydol oes gyda chi, os penderfynwch yn ddiweddarach brynu lle llai efallai na fydd gennych chi ddigon o ecwiti yn eich cartref i fedru gwneud hynny. Golyga hyn efallai y bydd angen i chi ad-dalu rhywfaint o’ch morgais.
- Gall yr arian a gewch o ryddhau ecwiti effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau’r wladwriaeth.
- Bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd trefnu a all gyrraedd hyd at gyfanswm o £1,500-£3,000, yn ddibynnol ar y math o gynllun a drefnir.
- Os ydych wedi cymryd cynllun cronni llog, bydd llai o arian i chi drosglwyddo i’ch teulu fel etifeddiaeth.
- Gall y cynlluniau hyn fod yn gymhleth i’w dadansoddi os newidiwch eich meddwl.
- Efallai y bydd costau ad-dalu’n gynnar os newidiwch eich meddwl, a allai fod yn ddrud, er nid ydynt yn daladwy os byddwch yn marw neu’n symud i gael gofal hirdymor.
- Gall y cynlluniau hyn effeithio ar yr etifeddiaeth rydych yn ei throsglwyddo i aelodau'r teulu. Mae'n bwysig trafod eich cynlluniau gyda'ch teulu er mwyn osgoi gwrthdaro a chymhlethdodau posibl yn nes ymlaen.
Ydy rhyddhau ecwiti yr opsiwn cywir i chi?
Mae os yw rhyddhau ecwiti yr opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau fel:
- eich oed
- eich incwm
- faint o arian ydych chi eisiau ei ryddhau
- eich cynlluniau am y dyfodol.
Pan yn rhyddhau ecwiti, mae’n demtasiwn canolbwyntio ar yr hwb y byddwch yn ei gael ar unwaith gan yr arian y byddwch yn ei ddatgloi, ond mae angen i chi edrych ar sut y bydd yn effeithio ar eich dewisiadau a’ch sefyllfa ariannol yn y dyfodol yn ddiweddarach mewn bywyd.
Cael cyngor
Os ydych chi’n ystyried cymryd cynnyrch rhyddhau ecwiti, dylech geisio cyngor ariannol gan gynghorydd ariannol annibynnol.
Rhaid i bob cynghorydd sy’n argymell cynlluniau rhyddhau ecwiti feddu ar gymhwyster arbenigol.
Felly os mai rhyddhau ecwiti yw’r dewis gorau i chi, bydd y cynghorydd yn medru awgrymu pa gynllun sydd fwyaf addas ar eich cyfer drwy ymchwilio’r holl gynnyrch sydd ar y farchnad.
Gwiriwch fod eich cynghorydd
- yn chwilio drwy’r farchnad gyfan, er mwyn iddo ddod o hyd i’r cynllun gorau ar eich cyfer chi
- fod ar gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (dylech chwilio yn ôl enw’r cwmni) – mae cwmni sydd ar gofrestr yr FCA yn cael ei reoleiddio ac yn gorfod tanysgrifio i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, sydd yn wasanaeth cwynion rhad ac am ddim, os byddwch yn anfodlon â’r gwasanaeth a gewch
- yn aelod ac ar gofrestr aelodau’r Cyngor Rhyddhau Ecwiti er mwyn i chi gael sicrwydd ei fod yn cydymffurfio â Rheolau a Safonau llym y corff masnach sydd yn mynd gam ymhellach na’r gofynion rheoleiddiol sylfaenol
Cyn i chi benderfynu a ddylech chi gymryd cynnyrch rhyddhau ecwiti, gofynnwch i’r cynghorydd:
- beth yw eu ffioedd
- pa fath o gynnyrch rhyddhau ecwiti a gynigir ganddo
- pa ffioedd eraill fydd angen i chi eu talu (e.e. cyfreithiol, prisiad, costau sefydlu).