Gyda chynllun dychweliad cartref byddwch yn gwerthu rhan o’ch cartref neu’ch cartref cyfan am gyfandaliad arian parod, incwm rheolaidd, neu’r ddau. Bydd eich cartref, neu’r rhan ohono yr ydych yn ei werthu, yn perthyn i rywun arall. Serch hynny, fe ganiateir i chi barhau i fyw yno hyd nes i chi farw neu symud allan, heb dalu rhent. Gan ddibynnu ar eich oed a chyflyrau meddygol, efallai y gallech chi gael mynediad at fwy o arian.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae’n gweithio?
Mae cynllun dychweliad cartref yn golygu y bydd cwmni yn prynu eich cartref neu ran ohono.
Byddwch chi yn cael cyfandaliad arian parod neu incwm.
Os byddwch yn cael cyfandaliad arian parod efallai y byddwch yn penderfynu buddsoddi hwn eich hun er mwyn cael incwm.
Fel arfer cewch rhwng 20% a 60% o werth eich cartref ar y farchnad yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, oherwydd:
- bod y prynwr yn caniatáu i chi barhau i fyw yno yn ddi-rent
- nad yw’r prynwr yn gallu ei werthu hyd nes y byddwch wedi marw neu wedi symud i ofal.
Yr hynaf ydych chi pan fyddwch yn dechrau cynllun dychweliad cartref, yr uchaf fydd y ganran y byddwch yn ei gael o werth eich cartref ar y farchnad.
Cewch yr hawl i barhau i fyw yn y cartref o dan brydles gydol oes.
Bydd telerau’r les yn amrywio yn dibynnu ar pa gynllun dychweliad yr ydych yn ei ddewis.
A yw hyn yn addas ar eich cyfer?
Mae cynlluniau ôl-feddiannu cartref yn gynnyrch â risg uchel.
Gallent gael effaith sylweddol ar dreth, budd-daliadau, etifeddiaeth a’ch cynllunio ariannol hirdymor.
Dylech bob amser gael cyngor ariannol cyn cymryd cynllun ôl-feddiannu cartref neu unrhyw fath arall o gynllun rhyddhau ecwiti.
Bydd hyn o gymorth i chi weld a yw’n addas i chi.
Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o ryddhau ecwiti o’ch cartref ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r risgiau cyn i chi arwyddo.
Os ydych eisiau cyfandaliad neu incwm yn awr ac eisiau aros yn eich cartref, ac os nad ydych angen i unrhyw un arall (e.e. plant neu aelodau eraill o’r teulu) fanteisio ar werth llawn eich cartref, gall fod yn werth ystyried dychweliad cartref.
Ond ni fyddwch wedyn yn perchen ar eich cartref ei hun (neu ddim ond rhan ohono).
Bydd rhaid i chi gynnal a chadw’r cartref tra byddwch yn byw ynddo, felly efallai y bydd angen i chi roi arian o’r neilltu ar gyfer hyn.
Bydd rhaid i chi hefyd ddilyn telerau’r brydles a gallech fod yn atebol o hyd am gostau eraill fel rhent daear (neu brif rent) p’un bynnag faint o’ch cartref a werthwyd.
Mae hwn yn swm blynyddol i’w dalu ar rai mathau o eiddo rhydd-ddaliadol.
Os gallai hyn fod yn broblem, yna efallai nad yw cynllun dychweliad cartref yn addas ar eich cyfer.
Mae’n hollbwysig eich bod yn penodi eich cyfreithiwr eich hun i wirio’r les a rhoi cyngor i chi.
Mae cynlluniau dychweliad cartref fel arfer yn fwy addas ar gyfer pobl hŷn, dros 70 neu 75 oed efallai.
Faint mae’n ei gostio?
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu:
- am gynnal a chadw’r eiddo
- ffi i’r darparwr am drefnu’r cynllun
- ffi i’r ymgynghorydd am eu cyngor ac am eich helpu chi i sefydlu’r cynllun.
- ffioedd prisio – y prisiad fydd yn penderfynu am faint y byddwch yn gwerthu eich cartref, felly sicrhewch eich bod yn talu am brisiad annibynnol a pheidiwch byth â derbyn prisiad y bydd y cwmni dychweliad yn ei gynnig
- ffioedd cyfreithiol – sicrhewch eich bod yn talu am gyngor annibynnol; mae’n bwysig mai cyfreithiwr a benodwyd gennych sy’n gwirio telerau’r les, nid cyfreithiwr a benodwyd gan ddarparwr y cynllun dychweliad.
Cwestiynau i’w gofyn i’ch ymgynghorydd
Cofiwch wastad ofyn cwestiynau os oes unrhyw beth yn aneglur.
Dyma rai cwestiynau pwysig.
- A allwch drosglwyddo cynllun dychweliad cartref os ydych eisiau symud tŷ.
- Sut fydd bod yn rhan o gynllun dychweliad cartref yn effeithio ar eich sefyllfa o ran treth incwm a’ch hawl i fudd-daliadau.
- Pa amodau mae’r cynllun dychweliad cartref yn eu rhoi arnoch o ran parhau i fyw yn eich cartref?
- Os ydych eisiau incwm rheolaidd, sut byddwch yn ei gael? A fydd yr incwm wedi’i warantu? A fydd yn sefydlog neu’r amrywiol? Pa mor aml ac am ba hyd y bydd yn cael ei dalu?