Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Gwerthu tai'n gyflym

Beth yw cwmnïau sy’n gwerthu tai’n gyflym?

Gall gwerthu eich cartref gymryd rhwng tri a 12 mis, ond gall cwmnïau gwerthu tai’n gyflym gynnig gwerthu'ch cartref mewn wythnos.

Maen nhw'n gwneud hyn trwy brynu'ch tŷ gennych chi neu ddod o hyd i brynwr trydydd parti yn gyflym iawn.

Maen nhw'n talu arian parod am eich eiddo ac fel arfer yn prynu am bris gostyngedig

Manteision ac anfanteision defnyddio cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym

Manteision

Gall cwmnïau gwerthu tai’n gyflym ddarparu gwasanaeth defnyddiol ar gyfer perchnogion tai sydd angen datgloi arian parod ar frys. Gall rhai cwmnïau brynu eich tŷ o fewn dyddiau a thalu yr holl ffioedd (fel cyfreithwyr a chwiliadau) ar eich rhan.

Gall cwmnïau gwerthu tai’n gyflym helpu i:

  • osgoi ailfeddiannu, clirio dyledion neu ddatrys materion ariannol
  • cael gwared ar eiddo a etifeddir
  • symud oherwydd rhesymau cysylltiedig ag oedran neu iechyd
  • gwerthu o ganlyniad i ysgariad neu berthynas yn chwalu
  • adleoli oherwydd newid swydd neu i allfudo
  • ceisio llwybr gwahanol os nad yw’n bosibl gwerthu trwy asiant tai traddodiadol – I osgoi problemau sydd wedi golygu bod eiddo’n anodd i’w werthu, er enghraifft un gyda phrydles fer neu os oes gan eiddo berygl uchel o lifogydd.

Anfanteision

  • mae problemau eraill roedd pobl wedi eu cael yn cynnwys strwythurau ffioedd ddim yn cael eu gwneud yn glir
  • mae rhai cwmnïau’n gwneud prisiadau ffug ar eiddo
  • mae rhai contractau’n clymu cwsmeriaid i mewn, gan eu hatal rhag gwerthu i rywun arall a allai gyflwyno cynnig gwell.

Pa ddiogeliad sydd gan berchnogion tai wrth werthu i gwmni gwerthu tai cyflym?

Nid yw’r farchnad gwerthu tai cyflym wedi’i rheoleiddio felly nid yw defnyddwyr wedi’u diogelu wrth werthu eiddo i un o’r cwmnïau hyn.

Serch hynny, mae Cymdeithas Genedlaethol Prynwyr Eiddo (NAPB) yn sicrhau bod yn rhaid i’r holl aelodau gofrestru gyda’r Ombwdsmon Eiddo (TPOS) a chadw at ei God Ymarfer i drin gwerthwyr yn deg. Trwy ddefnyddio cwmni sy'n rhan o'r NAPB neu TPOS, gall perchnogion tai gwyno i'r ombwdsmon a chael iawndal os canfyddant fod y cwmni wedi torri Cod Ymarfer TPOS

A yw defnyddio cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym yn gywir i chi?

I ateb y cwestiwn hwn, mae angen i chi feddwl pam eich bod chi'n gwerthu a beth sy'n bwysig i chi.

Cyn penderfynu bwrw ymlaen, gwnewch yn siŵr eich bod wedi meddwl am eich opsiynau eraill.

Dewisiadau eraill yn lle gwerthu tŷ’n gyflym

Defnyddiwch asiant tai traddodiadol

Cyn penderfynu ar symud ymlaen gyda chwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym, gofynnwch i rai asiantwyr tai lleol pa bris fyddai’n cael gwerthiant cyflym i chi.

Efallai y byddwch yn canfod bod y swm y bydd angen ichi leihau’r pris yn llai na’r gostyngiad nodweddiadol o 25% y byddai cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym yn gofyn amdano.

Trafodwch gyda’ch cwmni morgais

Os mai brwydro i gadw i fyny â’ch taliadau morgais yw’r rheswm rydych yn gwerthu, cysylltwch â’ch darparwr benthyciad er mwyn trafod eich opsiynau.

 Mae’n rhaid i gwmnïau morgais ystyried cais i newid y ffordd rydych yn talu’ch morgais.

Un o’r pethau y gallent ei awgrymu yw ymestyn cyfnod eich morgais (faint o amser sydd ar ôl ar y morgais) er mwyn lleihau eich taliadau misol.

Ystyriwch ffyrdd eraill i ariannu eich gofal hirdymor

Os mai talu am eich gofal hirdymor yw’r rheswm rydych yn gwerthu’ch cartref, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr holl bosibiliadau eraill a’ch bod wedi siarad â chynghorydd ariannol annibynnol sy’n arbenigo mewn ariannu gofal hirdymor.

Rhestr wirio os ydych yn mynd ymlaen i werthu’ch tŷ’n gyflym

Os penderfynwch eich bod eisiau gwerthu’ch eiddo trwy gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym, sicrhewch eich bod:

  • Gwnewch eich prisiad eich hunan: cewch brisiad gan dri asiant tai gwahanol fel y gallwch benderfynu a yw unrhyw gynnig a wneir gan gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym yn deg.
  • Siopwch o gwmpas: nid yw pob gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym yr un peth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried beth y gall gwahanol gwmnïau ei gynnig.
  • Ystyriwch ddefnyddio cwmni gwerthu cyflym sy’n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Prynwyr Eiddo.
  • Gwiriwch fanylion y cwmni:  os yw’r darparwr yn frocer (rhywun sy’n eich cyflwyno i brynwr posibl), gwiriwch eu bod wedi’u cofrestru gyda naill ai Yr Ombwdsmon Eiddo. Os dywed y darparwr eu bod wedi cytuno i god ymarfer, neu eu bod wedi’u rheoleiddio gan gorff swyddogol, gwiriwch drostoch eich hunan.
  • Peidiwch â bod yn swil: bob amser mae’n werth trafod y telerau ac/neu’r pris.
  • Sicrhewch fod popeth yn ysgrifenedig: gofynnwch iddynt ebostio’r manylion atoch, gallai eich helpu pe baent yn newid eu cynnig yn nes ymlaen.
  • Cymerwch eich amser: peidiwch â brysio na bod dan bwysau i benderfynu.
  • Trefnwch eich cynghorydd ariannol annibynnol eich hunan: ni all y cwmni rydych yn ei ddefnyddio’ch gorfodi i ddefnyddio’r cynrychiolydd cyfreithiol maent yn ei argymell. Gweler isod ynghylch ble i ddod o hyd i gyfreithiwr.
  • Darllenwch y cytundeb yn ofalus: peidiwch â llofnodi cytundeb oni bai eich bod yn deall yn llawn yr hyn rydych yn cytuno iddo. Gofynnwch i’ch cynghorydd ariannol egluro unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.
  • Osgowch gytundebau hir: peidiwch â llofnodi unrhyw gytundeb sydd yn eich clymu chi i’r cwmni gwerthu cyflym am gyfnod hir. Mae contract arferol gydag asiantaeth tai’n para am 8-12 wythnos. Dylai cytundeb gwerthu cyflym fod yn fyrrach na hynny ac mae yna gwmnïau nad ydynt yn mynnu ar unrhyw fath o gytundeb cyn gwerthu.
  • Byddwch yn onest: gallai rhoi gwybodaeth anghywir neu adael pethau pwysig allan achosi oedi nes ymlaen a hyd yn oed gallent olygu gostyngiad yn y pris a gynigir ichi.
  • Gofynnwch am weld yr arolwg: os yw’r cwmni rydych yn ei ddefnyddio’n gostwng pris y cynnig, gofynnwch pam. Os yw casgliadau’r arolwg ar fai, gofynnwch am eu gweld. Ni fydd cwmni sy’n masnachu’n deg yn eu cuddio rhagoch.
  • Peidiwch ag ymrwymo’n rhy gynnar yn y broses: peidiwch â llofnodi’r cytundeb nes bod yr holl arolygon a gwiriadau cyfreithiol wedi’u gwneud ac mae gennych gynnig terf ynol mewn ysgrifen.

Dod o hyd i gyfreithiwr

 

Cwestiynau i’w gofyn i gwmni prynu cyflym

Ar bob cam o’r broses, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a’ch bod yn deall popeth.

Dyma rai cwestiynau i ofyn i’r cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym.

  • Pwy sy’n prisio’r eiddo a sut?
  • A yw’r cwmni’n prynu’r eiddo eu hunain neu a yw rhywun arall yn ei brynu?
  • Beth yw’r amserlenni ar gyfer y gwerthiant? Beth yw’r gwahanol gamau a phryd fydd pob un yn digwydd? Beth allai achosi oedi i’r amserlenni?
  • Os mai nhw sy’n ei brynu, sut fyddant yn talu amdano? Os dywed y cwmni fod ganddo arian ar gael ar unwaith, gofynnwch am dystiolaeth. Bydd prynwr dilys ag arian parod yn gallu ei darparu.
  • Os yw rhywun arall yn prynu'r tŷ, pwy ydyn nhw ?, A allan nhw fforddio prynu'r eiddo? Ac a allant warantu y bydd y gwerthiant yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen sydd ei hangen arnoch?
  • Pa ffioedd a chostau fydd rhaid i chi eu talu (er enghraifft arolygon a ffioedd cyfreithwyr)?. Beth yw’r ffioedd a’r costau os na chwblhewch y gwerthiant
  • Beth allai achosi i bris y cynnig newid a phryd fyddai hyn yn digwydd? A yw’r cynnig yn amodol, er enghraifft a yw’n ‘amodol ar arolwg a chontract’ neu rywbeth arall?
  • A ydynt yn aelod o’r Gymdeithas Genedlaethol Prynwyr Eiddo neu wedi’u cofrestru gyda’r Ombwdsmon Eiddo?

A oes gennych broblem gyda’ch cwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym?

Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a ddarperir gan gwmni sy’n gwerthu tai’n gyflym, rhowch wybod iddynt a rhoi cyfle iddynt archwilio a datrys eich cwyn.

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd yr ymdrinnir â’ch cwyn, a’u bod yn aelod o’r NAPB neu wedi’u cofrestru gyda’r Ombwdsmon Eiddo (TPO) gallwch gyfeirio’r mater at TPO. Serch hynny, os nad ydynt, yn anffodus ni allwch fynd â’ch cwyn ymhellach ac eithrio llys sifil.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.