Ecwiti negyddol yw pan fydd tŷ neu fflat werth llai na'r morgais y gwnaethoch ei gymryd arno. Os ydych mewn ecwiti negyddol gallech ei chael hi'n anodd symud tŷ neu ailforgeisio.
What is negative equity?
Pwysig
Os oes gennych chi forgais llog yn unig mae mwy o risg i chi fod mewn ecwiti negyddol nag os oes gennych chi forgais ad-dalu. Y rheswm am hyn yw nad yw’ch taliadau misol yn mynd tuag at leihau cyfanswm eich dyled, mae’n mynd tuag at y llog yn unig.
Mae eiddo mewn ecwiti negyddol os yw ei werth yn llai na’r morgais sydd gennych arno, a’r rheswm am hyn fel arfer yw cwymp mewn prisiau eiddo.
Er enghraifft, petaech chi’n prynu eiddo am £150,000, gyda morgais o £120,000 ac mae’r eiddo yn werth £100,000, byddech chi mewn ecwiti negyddol.
Fodd bynnag, petaech chi’n prynu eiddo am £150,000, gyda morgais o £120,000 ac mae’r eiddo yn werth £130,000 erbyn hyn, ni fyddech chi mewn ecwiti negyddol.
Amcangyfrifir bod tua hanner miliwn o eiddo mewn ecwiti negyddol yn y DU, er mae rhai ardaloedd wedi eu heffeithio’n waeth na’i gilydd.
Mae’n achosi cryn broblem yng Ngogledd Iwerddon, lle mae hyd at ddau o bob pump o eiddo a brynwyd ar ôl 2005 mewn ecwiti negyddol.
Sut ydw i’n gwybod a ydw i mewn ecwiti negyddol?
Efallai na wyddoch chi a ydych chi mewn ecwiti negyddol neu beidio.
Yn gyntaf, ffoniwch eich darparwr morgais i gael gwybod faint sy’n ddyledus gennych.
Nesaf, gofynnwch i werthwr eiddo lleol brisio’ch cartref neu gofynnwch i syrfëwr i’w brisio (byddant yn codi ffi am y gwasanaeth hwn).
Os yw gwerth eich eiddo yn llai na’r hyn sy’n ddyledus gennych, yna rydych mewn ecwiti negyddol.
Problemau sy’n codi yn sgil ecwiti negyddol
Mae’n broblem ar unwaith os yw’n fwriad gennych chi werthu’ch cartref.
Oni bai bod gennych chi gynilion y gallwch eu defnyddio i ad-dalu’r gwahaniaeth rhwng gwerth eich cartref a’r morgais, gallech ei chael hi’n anodd llwyddo i symud.
Gall fod yn anodd hefyd os dymunwch ailforgeisio; i gyfradd sefydlog neu i gael bargen well efallai.
Ni fydd y rhan fwyaf o ddarparwyr morgais yn caniatáu i bobl sydd ag ecwiti negyddol gyfnewid i fargen forgais newydd hyd nes i’r un gyfredol ddod i ben.
Yn hytrach, cânt eu symud fel arfer i gyfradd amrywiol safonol y darparwr (SVR).
Symud tŷ os ydych chi mewn ecwiti negyddol
Bydd rhwyddineb symud yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel:
- faint o ecwiti negyddol sydd gennych chi
- gwerth yr eiddo y dymunwch symud iddo
- a ydych yn llwyddo i ad-dalu’ch morgais presennol
- faint o flaendal allwch chi ei godi ar gyfer yr eiddo newydd.
Siaradwch â’ch darparwr i ddechrau i weld sut fath o gymorth sydd ar gael ganddynt.
Mae nifer fach o ddarparwyr yn cynnig ‘morgais ecwiti negyddol’.
Bydd hyn yn caniatáu i chi symud eich ecwiti negyddol i’ch eiddo newydd, ond byddai disgwyl i chi dalu blaendal o hyd.
Manteision ac anfanteision morgeisi ecwiti negyddol
Manteision:
- gallwch symud tŷ heb orfod clirio’r ecwiti negyddol ar eich morgais. Mae hyn yn neilltuol o ddefnyddiol os bydd angen i chi symud am resymau teuluol neu oherwydd eich gwaith ac nid oes modd oedi.
Anfanteision:
- mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ad-dalu’n gynnar ar eich morgais presennol.
- efallai y bydd ffioedd a thaliadau ychwanegol, ac efallai y bydd cyfradd llog uwch ynghlwm â’ch morgais newydd o’i gymharu â’r un presennol.
- prin iawn yw’r darparwyr sy’n eu cynnig.
Lleihau eich ecwiti negyddol
Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i lunio cyllideb ac i ddechrau tyfu eich arbedion.
Os yw’n bosib, mae’n syniad da ceisio lleihau eich ecwiti negyddol drwy ordalu eich morgais.
Yn gyntaf, gwiriwch a yw’ch morgais presennol yn caniatáu i chi ordalu, ac os felly, faint allwch chi ordalu cyn gorfod wynebu tâl ad-dalu’n gynnar.
Nesaf, cyfrifwch faint yn ychwanegol allwch chi fforddio ei dalu bob mis neu fel un cyfandaliad yn unig.
Gwiriwch gyfrifiannell gordaliad morgais fel yr un hwn gan Money Saving Expert
Bydd hyn yn dweud wrthych faint o wahaniaeth y gallai eich taliadau ychwanegol ei wneud.
Mae gan sawl brocer morgeisi a benthyciwr yr offeryn hwn hefyd.
Rhentu'ch cartref os ydych mewn ecwiti negyddol
Opsiwn arall fyddai rhentu'ch cartref os bydd eich benthyciwr yn cytuno i hyn.
Byddai hyn yn golygu eich bod chi'n cadw'r morgais presennol, er mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd llog uwch.
Rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich yswiriwr eich bod chi'n rhentu'ch cartref.
Darganfyddwch fwy am rentu a chyfrifoldebau ariannol
Sut i baratoi ar gyfer codiad mewn cyfraddau llog
Os bydd cyfraddau llog yn cynyddu, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn dal yn gallu fforddio eich taliadau morgais.
Mae’n arbennig o bwysig os ydych mewn ecwiti negyddol gan y gallech fod yn fwy agored i’ch cartref gael ei adfeddiannu.
Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud drwy ddarllen Cyfraddau llog – pam eu bod nhw’n bwysig
Beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n cael trafferth talu’ch morgais
Darganfyddwch ble i gael cymorth am ddim drwy ddefnyddio ein Teclyn canfod cyngor ar ddyledion
Os ydych eisoes wedi methu talu’ch morgais yn brydlon, siaradwch â’ch darparwr a chael cyngor gan un o’r elusennau cyngor ar ddyledion.
Dolenni defnyddiol:
- Yng Nghymru a Lloegr, siaradwch â Cyngor ar Bopeth neu Shelter
- Yn yr Alban: siaradwch â Cyngor ar Bopeth yr Alban neu Shelter Scotland
- Yng Ngogledd Iwerddon, siaradwch â’r Gwasanaeth Hawliau Tai