Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Ail forgeisi

Mae ail forgeisi yn fenthyciadau wedi’u gwarantu ar eich eiddo o ffynhonnell ar wahân i'ch benthyciwr. Mae llawer o bobl yn eu defnyddio fel ffordd amgen o godi arian yn aml ar welliannau i'r cartref, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol o rai pethau cyn gwneud cais.

Sut mae cael ail forgais yn gweithio?

Dyma le rhoddir benthyciad wedi'i warantu ar yr eiddo o ffynhonnell ar wahân i'r benthyciwr gwreiddiol.

Mae'r ail fenthyciwr yn cymryd yr ail flaenoriaeth i'r benthyciwr cyntaf. Mae hyn yn golygu os oes angen gwerthu'r eiddo erioed, bydd y benthyciwr cyntaf yn galw am ecwiti yn yr eiddo yn gyntaf.

Yn yr un modd ag unrhyw forgais a sicrhawyd ar eich eiddo, gallai methu ag ad-dalu olygu y byddwch yn colli'ch eiddo.

Faint caf ei fenthyg ar ail forgais?

Mae'r ail forgais uchaf y gallwch ei gael yn dibynnu ar faint o ecwiti rydych wedi'i gronni yn eich cartref.

Mae ail forgais yn caniatáu i chi ddefnyddio unrhyw ecwiti sydd gennych yn eich eiddo fel gwarant yn erbyn benthyciad arall.

Mae'n golygu y bydd gennych ddau forgais ar eich eiddo.

Ecwiti yw'r ganran o'ch eiddo sy'n eiddo i chi yn llwyr, sef gwerth y cartref heb unrhyw forgais/morgeisi sy'n ddyledus arno. Bydd y swm y bydd benthyciwr yn caniatáu i chi ei fenthyg yn amrywio. Fodd bynnag, bydd hyd at 75% o'r ecwiti yn eich eiddo yn rhoi syniad i chi.

A allaf gael ail forgais?

Mae rhaid i fenthycwyr gydymffurfio â rheolau sy'n ymwneud â benthyca fforddiadwy.

Mae hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwyr wneud yr un gwiriadau fforddiadwyedd a chynnal ‘prawf straen’ ar amgylchiadau ariannol y benthyciwr yn union yr un fath ag ymgeisydd am brif forgais neu forgais arwystl cyntaf.

Pam cael ail forgais?

Mae sawl rheswm pam byddai rhywun yn cymryd ail forgais:

  • Os ydych yn cael trafferth cael gafael ar ryw fath o fenthyciad heb ei warantu - fel benthyciad personol, efallai am eich bod yn hunangyflogedig.
  • Os yw’ch statws credyd wedi gwaethygu ers cael eich morgais cyntaf, gallai ailforgeisio i forgais newydd ar gyfer eich benthyciad tŷ ynghyd â benthyciad pellach olygu y byddwch yn y pen draw yn talu cyfradd llog uwch ar y morgais newydd cyfan felly byddwch yn talu mwy o log yn gyffredinol. Mae cymryd ail forgais yn golygu mai dim ond y gyfradd uwch a’r llog ychwanegol y byddech chi’n ei dalu ar y swm newydd rydych chi am ei fenthyg.
  • Os yw ffi ad-dalu cynnar eich morgais presennol yn uchel, efallai y bydd yn rhatach cymryd ail forgais yn hytrach nag ailforgeisio i ryddhau ecwiti o’ch eiddo.

Bydd addasrwydd yr enghreifftiau uchod yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Ar yr amod eich bod yn gyfredol ar eich taliadau morgais, mae'n werth ystyried blaenswm pellach gan eich benthyciwr presennol ar delerau gwell - oherwydd gallai fod yn opsiwn gwell.

Beth os byddwch yn symud tŷ?

Os byddwch yn gwerthu’ch cartref bydd angen i chi dalu gweddill eich morgais ail arwystl. Neu, os yw'ch benyciwr yn caniatáu, trosglwyddo'r ail forgais i eiddo newydd.

Pryd i beidio â defnyddio morgais ail arwystl

Er y gall ail forgeisi fod yn ddefnyddiol, mae’n gam mawr a gall y cyfraddau llog fod llawer uwch nag ar gyfer morgeisi cyntaf. Felly, mae angen i chi ystyried y manteision a’r anfanteision.

Rhai pethau i’w hystyried cyn cymryd ail forgais

Cyn i chi gymryd ail forgais, gwiriwch a allwch gael taliad ymlaen llaw arall ar eich morgais cyfredol yn gyntaf a chael cyngor gan gynghorydd sydd â chymwysterau priodol.

Bydd yn medru rhoi help i chi ddod o hyd i fenthyciad sy’n gweddu orau â’ch anghenion a’ch sefyllfa ariannol.

Bydd angen iddo ddilyn y rheolau a osodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wrth ddelio â chi. Nod y rheolau hyn yw eich diogelu.

Os dewiswch beidio â chael cyngor ffurfiol, rydych mewn perygl o gael benthyciad sy’n anaddas i chi. Os digwydd hyn, gallech gael anhawster cyflwyno cwyn llwyddiannus.

Wrth ystyried ail forgais, cofiwch:

  • chwilio am y cynnig gorau – gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y gyfradd orau drwy gymharu APRC (cyfradd codi tâl ganrannol flynyddol) y gwahanol ddarparwyr benthyciadau, hyd y benthyciad a’r cyfanswm y byddai rhaid i chi ei dalu’n ôl
  • mynnu gwybod beth yw union delerau’r morgais, y ffioedd, y ffioedd ad-dalu’n gynnar a’r gyfradd llog.

Cynnig rhwym

Pan gewch gynnig gan ddarparwr, bydd angen iddo roi eglurhad digonol i chi o nodweddion hanfodol y benthyciad.

Byddant hefyd yn rhoi dogfen bersonol i chi, o bosibl o’r enw Dalen Wybodaeth Safonol Ewrop neu ddogfen Ffeithiau Allweddol. Mae’r dogfen hon:

  • yn darparu cyfnod ystyried, neu ‘ailfeddwl’
  • yn esbonio telerau’r cynnig
  • ailadrodd rhai o fanylion eich cais am fenthyciad
  • crynhoi nodweddion – gan gynnwys unrhyw ffioedd, yr APRC a newidiadau i’ch ad-daliadau misol os bydd y cyfraddau llog yn codi tu hwnt i bwynt penodol.

Mae gennych yr hawl i aros saith niwrnod o’r amser pan wneir y cynnig i ystyried os ydych eisiau ei dderbyn.

Efallai y bydd rhai darparwyr benthyciadau yn rhoi mwy na saith diwrnod i chi.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae cynnig y darparwr benthyciadau yn rhwymol a bydd yn cadw at yr amodau a gynigiwyd i chi.

Ond mae ambell i eithriad - er enghraifft, os canfyddir bod yr wybodaeth a roesoch yn y cais yn ffug gallai’r amodau fod yn annilys.

Mae’n syniad da i fanteisio ar y cyfnod hwn i nid yn unig ystyried y cynnig a wnaethoch ei dderbyn, ond hefyd i’w gymharu i fenthyciadau eraill.

Nid oes rhaid i chi aros tan ddiwedd y cyfnod myfyrio i roi gwybod i’r darparwr benthyciadau y byddwch yn derbyn y morgais os ydych yn sicr eich bod eisiau derbyn morgais.

Y risgiau a’r opsiynau eraill

Gan fod ail forgais yn ddigon tebyg i’ch morgais cyntaf, mae’ch cartref mewn perygl os na fyddwch yn gwneud yr ad-daliadau. Fel unrhyw forgais, os ewch i ôl-ddyledion a pheidiwch â'i dalu'n ôl, gall llog ychwanegol gynyddu. 

Os byddwch yn gwerthu’ch cartref, bydd y morgais cyntaf yn cael ei glirio’n llawn cyn y bydd unrhyw arian yn mynd tuag at ad-dalu’r ail forgais, er y bydd benthyciwr yr ail forgais yn gallu dod ar eich ôl am y diffyg.

Taliadau ymlaen llaw ychwanegol

Mae taliad ymlaen llaw ychwanegol yn cynnwys cymryd mwy o fenthyca gan eich benthyciwr cyfredol. Yn aml, bydd y gyfradd yn wahanol i gyfradd eich prif forgais ac fel rheol gall fod ar delerau gwell o'i chymharu ag ail forgais.

Benthyciadau personol ac ailforgeisio

Os oes angen i chi fenthyg swm bach o arian, mae’n well i chi ddewis cynnyrch sydd heb ei ddiogelu, fel benthyciad personol.

Os nad oes gennych ffi ad-dalu cynnar mawr ar eich morgais, mae gennych rywfaint o ecwiti yn eich cartref a’ch amgylchiadau heb newid, mae’n debygol y byddai’n well i chi ailforgeisio.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.