Mae Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl yn golygu eich bod yn gwerthu'ch cartref ond yn parhau i fyw yno fel tenant sy'n talu rhent.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw cynllun gwerthu a rhentu yn ôl?
Mewn cynllun gwerthu a rhentu yn ôl, rydych yn gwerthu'ch cartref am bris gostyngedig ac, yn gyfnewid, rydych yn aros yn byw yno fel tenant sy'n talu rhent am gyfnod penodol o amser (tymor penodol).
Gallai hyn ymddangos yn demtasiwn os ydych yn cael trafferth talu'ch morgais neu ddyledion eraill ac mewn perygl o golli'ch cartref.
Ac er y gallai'r opsiwn hwn ganiatáu i chi glirio'ch morgais a dyledion eraill, byddwch yn wynebu risgiau newydd.
Risgiau gyda chynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl
- Ni fyddwch yn berchen ar eich cartref mwyach.
- Efallai y bydd eich rhent yn codi yn ystod ac ar ôl tymor penodol eich tenantiaeth.
- Efallai y bydd rhaid i chi adael eich cartref o hyd ar ôl tymor penodol eich cytundeb tenantiaeth.
- Efallai y cewch eich troi allan o hyd yn ystod y tymor penodol os byddwch yn torri rheolau eich cytundeb tenantiaeth, er enghraifft os ydych ar ei hôl â'ch taliadau rhent.
- Os yw'r unigolyn neu'r cwmni sy'n prynu'ch cartref yn mynd i drafferthion ariannol, mae'n bosibl y bydd yr eiddo'n dal i gael ei adfeddiannu ac efallai y bydd rhaid i chi adael.
- Oherwydd bod y cynlluniau hyn yn cynnwys gwerthu eich cartref am bris gostyngol, mae'n anochel y cewch lai o arian nag y byddech pe byddech yn ei werthu ar y farchnad agored.
- Gallai gwerthu'ch cartref am bris gostyngedig effeithio ar eich cymhwysedd i fethdaliad neu fathau eraill o ansolfedd.
Dewisiadau gwerthu a rhentu yn ôl
Rhybudd
Ystyriwch gynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl fel dewis olaf yn unig. Sicrhewch eich bod wedi edrych ar yr holl opsiynau eraill yn gyntaf.
Siaradwch â'ch benthyciwr morgais. Efallai y gallant eich helpu, er enghraifft trwy wneud trefniant i ad-dalu'ch ôl-ddyledion morgais.
Cewch gymorth dyled annibynnol ac am ddim ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb gan gynghorydd dyled.
Efallai y byddant hefyd yn delio'n uniongyrchol â'ch benthycwyr ar eich rhan.
Siaradwch â'ch credydwyr eraill. Efallai y gallwch drefnu cynllun ad-dalu i'ch helpu i reoli'ch dyledion a chadw'ch cartref.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gan y llywodraeth, gan gynnwys budd-daliadau.
Ystyriwch werthu eich cartref ar y farchnad agored a dod o hyd i rywle arall i'w rentu.
Defnyddiwch werthwr tai lleol neu ewch ar-lein i wirio prisiau gwerthu eiddo yn eich ardal.
Os ydych yn 55 oed neu'n hŷn, edrychwch a yw rhyddhau ecwiti yn opsiwn addas. Mae'n ffordd o godi arian o'ch cartref sy'n caniatáu i chi aros yno.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw rhyddhau ecwiti?
Os mai cynllun gwerthu a rhentu yn ôl yw eich unig opsiwn
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ei fforddio a'ch bod yn deall y cytundeb, fel eich bod yn cael yr ateb iawn i chi.
Sicrhewch eich bod yn delio â chwmni a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) - rheolydd gwasanaethau ariannol y DU.
Gall y cwmni ond rhoi gwasanaeth cynghori i chi, sy’n olygu os cawsoch y cyngor anghywir y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Mae rhaid i'r cwmni sicrhau eich bod yn gallu ei fforddio, gwirio bod y cynllun yn iawn i chi ac yn rhoi cyngor i chi.
Pan gysylltwch â chwmni am y tro cyntaf, dylid rhoi gwybodaeth i chi am eu ffioedd ac a allant gynnig ystod o gynlluniau i chi neu a ydynt yn gysylltiedig ag un neu fwy o ddarparwyr yn unig.
Unwaith y bydd cynllun yn cael ei argymell i chi, bydd y cwmni'n rhoi dogfen i chi â manylion pwysig y cynllun – gelwir hyn yn Darlun Ffeithiau Allweddol.
Gallwch ddefnyddio'r ddogfen hon i gymharu cynlluniau gan wahanol gwmnïau.
Gwiriwch i weld a fyddai defnyddio cynllun yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau gwladol gan gynnwys Budd-dal Tai.
Siaradwch â'r swyddfa budd-daliadau lles yn eich cyngor lleol neu â Chyngor ar Bopeth.
Darllenwch delerau eich tenantiaeth yn ofalus – mae rhaid cynnig tenantiaeth tymor penodol o bum mlynedd o leiaf i chi - a chofiwch gael cyngor fel eich bod yn gwybod beth mae rhaid i chi ei wneud i osgoi cael eich troi allan.
Mynnwch y ffeithiau allweddol
Mae rhaid i gwmnïau roi Darlun Ffeithiau Allweddol i chi sy'n dangos gwybodaeth bwysig am y cynllun, gan gynnwys:
- pryd y gellir cynyddu'r rhent
- y rhent sy'n daladwy o dan y cytundeb
- y pris y bydd y cwmni'n ei dalu am yr eiddo
- beth sy'n digwydd os byddwch ar ei hôl â’ch rhent
- tymor penodol eich cytundeb tenantiaeth, y mae rhaid iddo fod o leiaf bum mlynedd
- gwerth marchnadol yr eiddo yn dilyn prisiad annibynnol gan brisiwr sydd â dyletswydd gofal i chi.
Pan gewch gynnig ysgrifenedig i brynu'ch cartref, bydd gennych 14 diwrnod i'w ystyried cyn y gall y cwmni gysylltu â chi eto.
Gwerthu a rhentu'n ôl – os bydd pethau’n mynd o chwith
Os ydych yn delio â chwmni rheoledig, mae rhaid bod ganddynt weithdrefnau cwyno.
Gwnewch gŵyn i'r cwmni yn gyntaf ac os na chaiff eich cwyn ei datrys yn foddhaol, gallwch fynd â hi i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sydd am ddim i'w defnyddio.
Ar gyfer cwynion am sut rydych yn cael eich trin fel tenant, cysylltwch â Shelter neu'ch swyddfa Cyngor ar Bopeth lleol i gael cyngor ar eich hawliau.
Cysylltiadau defnyddiol
Cyngor ar Bopeth
Cyngor ar ddyled morgais, hawliau budd-daliadau, deall cynlluniau a'u heffeithiau, a'ch hawliau fel tenant.
I ddod o hyd i'ch swyddfa agosaf ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Shelter
Cyngor ar ddyled morgais, deall cynlluniau a'u heffeithiau, a'ch hawliau fel tenant a hawliadau Budd-dal Tai.
Ffôn: 0845 075 5005 - Cymru
Ffôn: 0808 800 4444 – Lloegr a’r Alban
Ewich i: Gwefan Shelter
Elusen dyledion StepChange
Cyngor ar gyllidebu, dyled morgais a methdaliad.
Ffôn: 0800 138 1111
Ewich i: Gwefan elusen dyledion StepChange
Cyngor lleol
I gael gwybodaeth ynghylch a ydynt yn cynnig cynllun ‘achub morgais’ neu a fyddech yn gymwys i gael Budd-dal Tai os ydych yn bwriadu ymrwymo i gynllun gwerthu a rhentu yn ôl.
Chwiliwch am ‘Local Council’ ar-lein neu yn eich llyfr ffôn.
Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
I wirio Cofrestr y FCA neu adrodd hysbyseb cynllun rydych yn meddwl ei fod yn annheg, yn aneglur neu'n gamarweiniol.
Llinell gymorth defnyddwyr: 0800 111 6768
Ffôn testun: 18001 0800 111 6768
Ewich i: Gwefan y FCA