Os ydych yn gweithio allan sut i dalu am ofal hirdymor - i chi neu rywun agos - gall cynghorydd ffioedd gofal annibynnol cynnig cyngor arbenigol diduedd. Darganfyddwch beth allant ei wneud i chi, sut maent yn cael eu talu a sut i ddewis un sy’n addas i chi.
Lle i ddod o hyd i ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol
Mae argymhellion personol gan ffrindiau neu deulu yn un ffordd o ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol. Ond hyd yn oed os ydych chi’n dod ymlaen yn dda gydag ymgynghorydd, mae’n anodd barnu yn y tymor byr pa mor dda yw’r swydd maent wedi’i gwneud.
I ddod o hyd i rywun a all eich helpu i ddeall eich opsiynau wrth dalu am ofal, defnyddiwch ein Cyfeiriadur Ymgynghorydd Ymddeoliad
Am ffyrdd eraill o ddod o hyd i’r person iawn i chi, gwelwch ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Os ydych yn dewis peidio â defnyddio ymgynghorydd ariannol proffesiynol, neu os ydych eisiau ymchwilio trwy’r dewisiadau cyn siarad ag un, bydd angen i chi wneud gwaith ymchwil trylwyr.
Byddwch yn ymwybodol os na fyddwch chi’n cymryd cyngor ariannol a bydd y cynnyrch yr ydych chi’n ei brynu yn anaddas i chi, bydd gennych lai o sail i gwyno a chael iawndal.
Mae’n syniad da siarad ag ychydig o ymgynghorwyr ariannol i weld a ydynt yn addasi chi. Bydd y rhan fwyaf yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol am ddim i chi, sy'n gyfle gwych i ofyn rhai cwestiynau.
Gallwch ddechrau trwy edrych ar beth ddylech fod yn ei drafod wrth ddod o hyd i ymgynghorydd newydd yn ein canllaw Cwestiynau allweddol i'w gofyn i'ch ymgynghorydd ariannol
Rôl ymgynghorydd ariannol annibynnol
Mae yna ymgynghorwyr ariannol annibynnol sy’n canolbwyntio yn benodol ar gyngor ariannu gofal, ac fe’u gelwir yn aml yn gynghorwyr ffioedd gofal arbenigol.
Maent yn cael eu rheoli gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a rhaid iddynt lynu at god ymddygiad a moeseg a chymryd cyfrifoldeb am addasrwydd unrhyw gynnyrch maent yn ei argymell.
Yn wahanol i ymgynghorwyr sy’n gysylltiedig â darparwyr neilltuol, gall ymgynghorwyr ffioedd gofal arbenigol gynnig cyngor ar gynnyrch o’r farchnad gyfan. Mae ganddynt gymwysterau penodol sy’n arwydd o’u dealltwriaeth o’r nifer o faterion y bydd angen i chi eu hystyried efallai pan ddaw’r amser i ariannu gofal hirdymor.
Os yw’r gofal i chi, er enghraifft, bydd ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol yn mynd trwy broses o ddarganfod ffeithiau. Bydd hyn yn eu helpu i asesu a deall eich anghenion a’ch amgylchiadau.
Bydd y cwestiynau y byddant yn eu trafod gyda chi am:
- eich sefyllfa briodasol
- perchnogaeth eich eiddo
- agwedd tuag at risg
- lleoliad eich teulu a’ch ffrindiau
- lefel eich anghenion gofal ac agwedd eich teulu
- eich iechyd
- eich incwm presennol, gan gynnwys incwm heb ei ennill a budd-daliadau
- pa gymorth gan y Wladwriaeth y gallai fod gennych hawl i’w gael
- y gofal sydd ar gael ar hyn o bryd a pha ofal fydd ei angen yn y dyfodol
- cost posib gofal yn y cartref neu’r cartref gofal yr ydych wedi ei ddewis
- eich asedau, er enghraifft cyfranddaliadau a buddsoddiadau eraill sy’n agored i Dreth Enillion Cyfalaf
- rhwymedigaethau neu ddyledion a allai leihau gwerth eich asedau neu eich ystad
- eich galluedd meddyliol a gwneud darpariaethau ar gyfer cymryd penderfyniadau.
Byddant wedyn yn cynnig argymhellion ynglŷn â chynnyrch a gwasanaethau ariannol sy’n addas i chi. Byddant yn rhoi hyn i gyd yn ysgrifenedig.
Pam y gallai fod angen ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol arnoch?
Efallai mai hwn fydd y tro cyntaf i chi ddefnyddio ymgynghorydd ariannol a gall ymddangos yn frawychus.
Ond mae talu am ofal yn gymhleth. Mae’n anodd deall yr holl reolau ac opsiynau heb arweiniaid arbenigol.
Ac mae rhai opsiynau, fel rhyddhau ecwiti, yn cael eu hystyried mor gymhleth y mae’r rheoliadau’n nodi bod yn rhaid i chi gael cyngor yn gyntaf. Nid oes rhaid i chi ddilyn y cyngor – ond dylech feddwl yn ofalus cyn mynd yn ei erbyn.
Dylai ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol roi cymorth i chi ddod o hyd i ffordd i ariannu eich gofal hirdymor sydd:
- yn addas i’ch anghenion
- yn fforddiadwy nawr ac yn y dyfodol
- yn cydweddu â’ch agwedd tuag at risg a’ch blaenoriaethau ariannol.
Mae rhai dewisiadau hunangyllido yn eithaf syml, tra bo eraill yn llawer mwy cymhleth.
Gall ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol roi cymorth i chi gymharu’r dewisiadau cyn i chi benderfynu pa un sydd fwyaf addas i chi.
Byddant yn medru egluro’r holl gostau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob cynnyrch hefyd.
Dylent allu rhoi cymorth ar bethau eraill hefyd. Gall hyn gynnwys trefnu eich ewyllys neu bŵer atwrnai a’ch cynghori ar y budd-daliadau a’r cymorth gan y GIG neu’r awdurdod lleol sydd ar gael er mwyn eich helpu gyda’ch costau gofal.
Dewis yr ymgynghorydd cywir i chi
Mae rhaid i ymgynghorwyr ariannol fod yn glir o ran y math o gyngor maent yn ei roi i chi, a dilyn rheolau ar sut mae nhw’n codi tâl.
Mae rhaid iddynt hefyd ei gwneud yn glir a yw’r cyngor maent yn ei ddarparu yn annibynnol neu wedi’i gyfyngu mewn unrhyw ffordd.
Efallai bydd yr ymgynghorwyr ariannol cyfyngedig naill ai’n gyfyngedig yn y math o gynhyrchion maent yn eu cynnig neu nifer y darparwyr maent yn dewis ohonynt.
Gall ymgynghorwyr ariannol annibynnol argymell pob math o gynhyrchion buddsoddi manwerthu a chynhyrchion pensiwn gan gwmniau ar draws y farchnad heb gyfyngiad.
Efallai yr hoffech ystyried dewis un a all ddelio ag ystod eang o ddarparwyr ar gyfer y cynnyrch maent yn ei argymell – ac nid dim ond un neu ddau. Yna, byddwch yn gwybod y cewch y dewis ehangaf. Er hynny, ni ddylai p’un y byddwch yn ei ddewis effeithio ar ansawdd ac addasrwydd y cyngor a gewch.
Sicrhewch eich bod yn deall y math o wasanaeth y maent yn ei gynnig cyn i chi benderfynu a ddylech gael cyngor ganddynt.
Faint fydd hynny’n ei gostio?
Gall ffioedd am gyngor ariannol amrywio’n sylweddol. Maent yn dibynnu ar ble rydych yn byw, cymhlethdod eich sefyllfa, a’r lefel o gyngor a’r mathau o gynnyrch maent yn eu hargymell.
Mae llawer o ymgynghorwyr ariannol yn cynnig cyfarfod cychwynnol am ddim. Nid yw hyn wedi'i gynllunio i roi cyngor penodol i chi am eich sefyllfa. Mae’n fwy o gyfle i weld sut maent yn gweithio, faint maent yn ei godi ac i gael syniad a ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda nhw.
Gall ffioedd amrywio o gannoedd o bunnoedd felly mae’n werth cael mwy nag un dyfynbris.
Darganfyddwch fwy am ffioedd ac awgrymiadau i gael y fargen orau yn ein canllaw Ffioedd ymgynghorwyr ariannol
Sut i wneud cwyn
Os cewch gyngor ac yn darganfod yn nes ymlaen nad oedd y cynnyrch yn addas, gallech gael achos dros gam-werthu a chael iawndal. Er enghraifft, os gwerthwyd bond buddsoddiad i chi pan oeddech yn debygol o fod angen mynediad at eich arian yn fuan.
Bydd gan bob ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol weithdrefn gwyno ffurfiol. Mae’n debygol y byddwch yn dod o hyd iddo yn eu Telerau Busnes pan fyddwch yn cofrestru gyda nhw yn gyntaf. Bydd hefyd gennych yr hawl i wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.