Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cwestiynau allweddol i’w gofyn i’ch ymgynghorydd ariannol

Os ydych eisiau gweld ymgynghorydd ariannol, mae'n syniad da siarad ag ychydig er mwyn i chi allu cymharu'r gwasanaeth maent yn ei gynnig a darganfod a ydynt yn iawn i chi. Bydd y mwyafrif yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol am ddim i chi, lle cewch gyfle i ofyn rhai cwestiynau. Dyma ychydig i'ch rhoi ar ben ffordd.

Beth ydych yn ei godi a faint wyf yn debygol o'i dalu?

Mae rhaid i ymgynghorydd ariannol ddweud wrthych faint y mae'n ei godi cyn i chi gael eich cymryd fel cleient. Mae'n rhan o'r rheolau mae rhaid i bob ymgynghorydd gadw atynt.

Efallai y bydd rhai yn codi tâl fesul awr, efallai y bydd eraill yn codi ffi sefydlog neu ganran o werth eich gronfa bensiwn os ydych eisiau cyngor ymddeol neu os ydych eisiau cyngor cyffredinol ar fuddsoddiadau.

Ond efallai na fyddai hynny'n eich helpu i weithio allan faint y gallech ei dalu yn y pen draw. Mae'n dibynnu ar ffactorau gan gynnwys eich anghenion a'r math o wasanaeth rydych ei eisiau.

Efallai na fydd yr ymgynghorydd yn gallu dweud wrthych yn union beth fyddwch yn ei dalu, ond dylent allu rhoi arwydd i chi ac efallai terfyn uchaf hyd yn oed.

Pa wasanaethau ydych yn eu cynnig? A ydych yn annibynnol?

Mae rhaid i'r ymgynghorydd ddweud wrthych pa wasanaethau maent yn eu cynnig, gan gynnwys a ydynt yn ymgynghorydd annibynnol.

Mae gan yr ymadrodd ‘ymgynghorydd ariannol annibynnol’ ystyr arbennig sydd wedi’i nodi yn y rheolau mae rhaid i ymgynghorwyr ariannol eu dilyn.

Er mwyn cael ei alw'n annibynnol, mae rhaid i ymgynghorydd ariannol allu cynnig ystod o gynhyrchion o bob rhan o'r farchnad gyfan a darparu cyngor diduedd a chyfyngedig yn seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr a theg o'r farchnad honno.

Efallai bydd ymgynghorydd yn cael ei alw’n ‘gyfyngedig’ os bydd ond yn argymell rhai mathau o gynhyrchion buddsoddi a/neu gynhyrchion gan nifer gyfyngedig o ddarparwyr.

Os nad ydych yn annibynnol, a allwch edrych ar gynhyrchion o bob rhan o'r farchnad?

Gallai ymgynghorydd ariannol cyfyngedig sydd ond yn argymell rhai mathau o gynhyrchion fod yn opsiwn da o hyd (er enghraifft, gallent arbenigo mewn cyngor ymddeol yn unig).

Ond mae'n werth gwirio eu bod yn gallu argymell cynhyrchion gan ystod eang o ddarparwyr.

Os mai dim ond un neu nifer gyfyngedig y gallant ei argymell, efallai na chewch y dewis sydd ei angen arnoch.

A ydych chi’n Gynrychiolwr Penodedig?

Mae ‘Cynrychiolwyr Penodedig’ yn gynghorwyr a all rhoi cyngor wedi’i rheoleiddio ar ran cwmni arall, a adnabyddir fel y prif gwmni.

Byddwch yn cael eich amddiffyn os yw pethau’n mynd o’i le gyda’r gweithredoedd mae’r prif gwmni'n caniatáu ei gynrychiolwr i’w wneud - ond ni fyddwch yn cael eich amddiffyn os yw’r cynrychiolwr wedi mynd ymhellach na’r gweithredoedd a ganiateir gan y prif gwmni. Felly mae’n bwysig i ofyn a yw’ch cynrychiolwr yn Gynrychiolwr Penodedig a dod o hyd i fanylion cyswllt ei brif gwmni.

Oes gennych gymwysterau sy'n uwch na'r isafswm y mae'n ofynnol i chi eu cymryd?

Mae rhaid bod gan bob ymgynghorydd ariannol rai cymwysterau, yn ôl y gyfraith. Yr isafswm ar gyfer ymgynghorwyr sy'n darparu cyngor ar bensiynau a buddsoddiadau yw cymhwyster o'r enw QCF Lefel 4.

Mae ychydig o ymgynghorwyr wedi sefyll arholiadau ychwanegol, felly mae'n werth gofyn pa gymwysterau sydd gan yr ymgynghorydd a beth mae'r rhain yn ei ddangos.

Mae rhai mathau o gyngor yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgynghorydd feddu ar gymwysterau arbenigol - er enghraifft, trosglwyddiadau pensiwn a rhyddhau ecwiti. 

Oes gennych lawer o gleientiaid sydd mewn sefyllfa debyg i mi?

Bydd rhai ymgynghorwyr ariannol yn delio dim ond gyda phobl sydd â chronfa bensiwn o faint penodol, neu swm penodol o arian i'w fuddsoddi (er enghraifft, £50,000 neu £100,000).

Mae ymgynghorwyr eraill yn hapus i gynghori cwsmeriaid ni waeth beth yw maint eu cronfa bensiwn.

Mae bob amser yn werth darganfod a oes gan ymgynghorydd lawer o brofiad o gynghori cleientiaid mewn sefyllfa debyg i'ch un chi.

A roddwch gyngor parhaus imi a beth fydd cost hyn?

Efallai na fydd angen cyngor parhaus arnoch chi, ond os yw hynny'n rhywbeth y credwch a allai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol, mae'n werth gofyn amdano a darganfod y costau tebygol.

Sut wyf yn cael fy amddiffyn pe bai pethau'n mynd o chwith?

Pan gymerwch gyngor rheoledig, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn rhoi argymhelliad wedi'i bersonoli i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi iddynt.

Mae hyn yn golygu y gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os credwch i gynnyrch gael ei gam-werthu neu rhywbeth anaddas gael ei argymell i chi. A byddwch yn cael eich diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.