Os oes gennych arian mewn rhyw fath o fuddsoddiad neu drefniant pensiwn, bydd bron yn sicr o gael ei fuddsoddi yn y farchnad stoc. Pan welwch werth eich buddsoddiadau yn cwympo – neu os ydych yn poeni bydd hynny yn digwydd – efallai y cewch eich temtio i roi'r cyfan yn rhywle rydych yn meddwl y byddai'n fwy diogel.
Ond gallai hynny fod yn gamgymeriad drud – byddai'n golygu gwerthu'ch buddsoddiadau ar golled a cholli'r cyfle i adfer y colledion hynny pan fydd y farchnad yn dechrau codi eto. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei ystyried.
Pryd i gael cyngor ariannol
Os nad oes angen yr arian arnoch ar hyn o bryd – neu o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf – meddyliwch yn ofalus iawn cyn ei dynnu allan.
Mynnwch gyngor gan ymgynghorydd ariannol rheoledig cyn gwneud unrhyw beth. Bydd rhaid i chi dalu am y cyngor hwn, ond gallai arbed llawer o arian i chi a rhoi tawelwch meddwl i chi yn y tymor hir.
Os oes angen yr arian arnoch nawr a bod gennych gynilion arian parod hawdd ei gyrraedd y gellid eu defnyddio yn lle, ystyriwch y llwybr hwnnw yn gyntaf. Ai dyma’r ‘diwrnod glawog’ rydych wedi bod yn cadw’r arian hwnnw amdano? Os nad yw, edrychwch ar opsiynau eraill yn gyntaf.
Os oes angen yr arian arnoch i dalu dyledion neu i’ch cadw i fynd oherwydd bod eich incwm wedi gostwng (er enghraifft, oherwydd y pandemig coronafeirws), mae gan y llywodraeth ystod o fesurau i gynnig cefnogaeth i bobl yn ystod yr amser anodd hwn. Gallwn eich helpu i lywio'r gwahanol gynlluniau.
Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau buddsoddi
Os penderfynwch adael eich buddsoddiadau lle maent, mae'n dal yn syniad da adolygu'r cronfeydd y buddsoddir eich arian ynddynt. A ydynt yn cyfateb â maint y risg rydych yn gyffyrddus â hi? A ydych hyd yn oed yn gwybod ble maent wedi buddsoddi a pha mor beryglus yw'r cronfeydd? Os mai ‘na’ yw’r ateb i’r naill neu’r llall o’r cwestiynau hynny, mae’n bwysig cael rhywfaint o help proffesiynol.
Byddwch yn ofalus iawn rhag sgamiau. Er enghraifft, os ydych o dan 55 oed a bod unrhyw un yn dweud wrthych y gallwch gymryd benthyciad o’ch pensiwn i’w ddefnyddio at eich anghenion personol, peidiwch â’u credu – ni allwch.
Os cymerwch arian o'ch pensiwn cyn 55 oed, byddwch yn talu ffioedd enfawr i'r cwmni a'i awgrymodd ac yn wynebu bil treth mawr. Efallai y byddwch hyd yn oed yn colli'r hyn sydd ar ôl.
Hyd yn oed os ydych dros 55 oed, peidiwch â meddwl yn awtomatig mai defnyddio arian o'ch pensiwn i dalu dyledion neu filiau yw'r peth iawn i'w wneud. Mae rhywbeth arall y gallwch ei wneud a allai weithio'n well i chi yn y tymor hir. Unwaith eto, mae'r rhain yn benderfyniadau y gellir eu gwneud orau â chymorth ymgynghorydd ariannol.
Beth i’w wneud nesaf os ydych yn poeni am eich buddsoddiadau neu'ch pensiynau
Os ydych yn poeni, peidiwch â dioddef yn dawel. Mynnwch ychydig o help.
Ystyriwch gael cyngor ariannol rheoledig. Gall ymgynghorwyr ariannol rheoledig roi cyngor i chi ar beth i'w wneud. Ond gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu rheoleiddio, gan fod hynny'n rhoi mwy o ddiogelwch i chi os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Adolygwch y cronfeydd rydych wedi buddsoddi ynddynt. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gyfateb â faint o risg rydych yn gyffyrddus â hi, eich amcanion buddsoddi a hyd yr amser sydd gennych cyn y bydd angen mynediad at eich arian .
Mae'n bwysig peidio â rhyngweithio ag unrhyw un sy'n cysylltu â chi yn ddirybudd ac yn gofyn am unrhyw fanylion personol neu fanc. Peidiwch â delio â neb ond cwmnïau neu sefydliadau rydych wedi ymchwilio iddynt ac rydych yn ymddiried ynddynt. Nid yw cwmnïau parchus yn galw pobl yn ddiwahoddiad.