Gall ariannu gofal hirdymor i chi'ch hun neu i rywun annwyl fod yn fwy cymhleth nag yr ydych yn ei feddwl. Mae llawer o bethau i'w hystyried, p'un ai dyma'r math o ofal hirdymor y bydd ei angen arnoch, cael help gan awdurdod lleol, neu werthu neu ryddhau ecwiti yn eich eiddo i dalu am ofal.
Yn aml mae'n rhywbeth nad ydym yn meddwl amdano ddigon nes ein bod yn wynebu penderfyniad anodd, a gall y rhan hon o'r wefan eich helpu i ddod o hyd i gyngor proffesiynol i wneud dewisiadau am ofal hirdymor.