Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cynlluniau prynu cartref sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia

Mae cynlluniau prynu cartref sy'n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn eich helpu i brynu'ch cartref mewn ffordd nad yw'n golygu talu llog. Maent yn gynhyrchion cymhleth a gall fod gwahaniaeth mawr yn yr hyn y mae cwmnïau'n ei gynnig, felly ystyriwch gael cyngor ariannol proffesiynol i'ch helpu chi i benderfynu. Mae angen i chi hefyd gael cyngor cyfreithiol i sicrhau bod eich hawl i fyw yn yr eiddo yn cael ei gwarchod.

Sut mae cynlluniau prynu cartref yn gweithio

Mae cynlluniau prynu cartref sy'n cydymffurfio â Sharia mewn tair ffurf ychydig yn wahanol:

  • Ijara
  • Murabaha
  • Musharaka lleihaus.

Maent i gyd yn gweithio'n wahanol, felly mae'n bwysig deall y gwahaniaethau cyn dewis.

Ijara

Mae Ijara – neu Ijarah – yn derm sy'n cyfeirio at elfen brydlesu cynllun prynu cartref.

Gyda chynllun Ijara, mae'r taliadau misol a wnewch yn rhannol rent, yn rhannol gyfalaf ac yn rhannol gostau.

Yna fe'u defnyddir i ariannu'r pryniant ar ddiwedd y tymor.

O ganlyniad, mae eich cyfran chi o'r eiddo yn aros yn gyson trwy gydol y trefniant – tan y diwrnod y bydd cyfran y benthyciwr wedi'i brynu allan.

Ar ddiwedd y tymor, cyhyd â'ch bod wedi cadw at delerau'r cytundeb, byddwch wedi prynu'r banc allan a chi fydd unig berchennog yr eiddo. Ond efallai y bydd hyn yn cymryd peth amser.

Murabaha

Gyda'r trefniadau hyn, mae'r benthyciwr yn prynu'r eiddo i chi ac yn ei werthu yn ôl i chi ar unwaith am bris ychydig yn uwch. Maent yn cyfrif am werth yr eiddo, hyd y morgais a'r swm rydych yn ei roi i lawr fel blaendal.

Mae Murabaha yn gofyn am flaendal cychwynnol, fel arfer o leiaf 20% o'r pris prynu - ond mae'r eiddo'n eiddo i chi o'r diwrnod cyntaf.

Mae'r ad-daliadau yn sefydlog am hyd eich morgais, sydd fel arfer yn uchafswm o 15 mlynedd. Gallwch ad-dalu'r benthyciad yn llawn ar unrhyw adeg heb unrhyw gosb.

Musharaka lleihaus

Mae Musharaka lleihaus – neu Musharakah lleihaus – yn gytundeb cydberchnogaeth yn y bôn.

Mae hyn yn golygu eich bod chi a'r banc neu'r gymdeithas adeiladu yn berchen ar yr eiddo gyda'ch gilydd, gyda rhannau ar wahân. Felly defnyddir pob ad-daliad - sy'n rhannol rent, yn rhannol gyfalaf ac yn rhannol gostau - i brynu cyfran y banc yn yr eiddo dros amser.

Wrth i'ch stanc dyfu, mae stanc y banc yn lleihau. Mae hyn yn lleihau faint o rent mae rhaid i chi ei dalu am ddefnyddio cyfran banc yr eiddo.

Blaendal, ffioedd a chostau

Blaendal

Yn nodweddiadol, bydd angen blaendal o leiaf 20% o'r eiddo arnoch i fod yn gymwys ar gyfer cynllun prynu cartref sy'n cydymffurfio â Sharia.

Er enghraifft, os yw'r eiddo rydych am ei brynu yn werth £200,000, efallai y bydd angen i chi roi o leiaf £40,000 i lawr.

Ffioedd a chostau

Wrth weithio allan yr hyn y gallwch ei fforddio, cofiwch gyllidebu ar gyfer y canlynol:

  • arolwg
  • yswiriant adeiladau
  • Treth Stamp - yn daladwy ar y dechrau
  • ffi brisio benthyciwr – bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar werth yr eiddo
  • ffioedd cyfreithiol – bydd angen i chi dalu am ddau gyfreithiwr; un i weithredu ar eich rhan a'r llall i gynrychioli'r benthyciwr.

Dylai'r cwmni ddarparu taflen tariff i chi sy'n rhoi manylion yr holl ffioedd ac ardollau y bydd yn eu codi arnoch – gwelwch yr adran ddiweddarach 'Gwybodaeth y byddwch yn ei chael'.

Cyfrifwch beth gallwch ei fforddio mewn gwirionedd

Mae'n bwysig meddwl yn ofalus ar y dechrau am faint y gallwch ei fforddio – nid yn unig am y costau ymlaen llaw, ond hefyd i dalu bob mis.

Cadwch mewn cof y gallai eich costau godi yn y dyfodol, gan y bydd y rhent fel arfer yn cael ei adolygu bob chwe mis.

Ble gallwch gael cynllun prynu cartref sy’n cydymffurfio â Sharia?

Mae'r banciau canlynol yn cynnig y cynlluniau hyn ar hyn o bryd:

Cael cyngor ar y cynllun iawn i chi

Rhaid i ddarparwyr cynllun prynu cartref gynnig gwasanaeth o gyngor i chi.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ofyn cwestiynau i chi i ddeall eich amgylchiadau ariannol a dim ond argymell cynnyrch sy'n addas ac yn fforddiadwy i chi.

Mae rhaid i ddarparwyr hefyd asesu a fyddai morgais confensiynol yn fwy addas i chi.

Mae gennych hawl i wrthod y cyngor a roddwyd i chi, ond mae prynu ar ôl cael cyngor yn rhoi mwy o hawliau i chi os bydd y cynnyrch yn ddiweddarach yn anaddas.

Gwybodaeth a gewch

Gwybodaeth am wasanaeth y cwmni

Mae rhaid i ddarparwr y cynllun prynu cartref, p'un a yw'n fenthyciwr neu'n gynghorydd, esbonio'r prif negeseuon am y gwasanaeth y byddant yn ei roi i chi.

Mae rhaid i hyn gynnwys:

  • A fydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaeth ac, os felly, y ffioedd y maent yn eu codi.
  • Yr ystod o gynhyrchion a gynigir, gan ei gwneud yn glir a oes unrhyw gyfyngiadau. Mae benthyciwr, er enghraifft, yn cynnig ei gynlluniau ei hun yn unig. Fodd bynnag, gall brocer gynnig ystod ehangach. Byddwch yn cael enwau ysgolheigion Islamaidd y cwmni. Dyma'r bobl sy'n ardystio bod gwasanaethau'r cwmni'n cydymffurfio â chyfraith Islamaidd. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch natur Islamaidd y cynnyrch neu'r gwasanaethau y mae cwmni'n eu cynnig, siaradwch â'ch Imam neu ysgolhaig Islamaidd annibynnol. Mae'n bwysig gofyn am y wybodaeth hon yn ysgrifenedig.

Ffeithiau am y cynllun prynu cartref

Pan argymhellir cynnyrch, mae rhaid iddynt hefyd roi'r dogfennau canlynol i chi:

  • Ffeithiau allweddol – risgiau a nodweddion y cynllun prynu cartref hwn. Mae hyn yn egluro prif risgiau, nodweddion a buddion y cynllun.
  • Ffeithiau allweddol – datganiad gwybodaeth ariannol. Mae hwn yn nodi cost gyffredinol y cynllun a faint y byddwch yn ei dalu bob mis.
  • Llythyr cynnig gan gynnwys datganiad gwybodaeth ariannol ffeithiau allweddol wedi'i ddiweddaru. Cewch hyn pan fydd y cwmni'n cynnig cynllun prynu cartref i chi.

Diogelwch eich hun

Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau sy'n cynnig cynlluniau prynu cartref amddiffyn eich buddiannau. Fodd bynnag, bydd cyfyngiadau i'r hyn y gall y darparwr ei wneud.

Er enghraifft, os yw cwmni'n mynd allan o fusnes, neu'n gwerthu ei gyfran o'r eiddo i rywun arall, gallech fod mewn perygl o golli'ch cyfran o'r eiddo a'ch hawl i fyw yno.

Mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau bod eich buddiannau'n cael eu diogelu'n iawn. Er enghraifft, gall cyfreithiwr ddiogelu’ch hawl i aros yn yr eiddo trwy sicrhau bod y brydles gyda'r cwmni cynllun prynu cartref wedi'i chofrestru gyda Chofrestrfa Tir EM.

I wirio bod eich prydles wedi'i chofrestru, lawrlwythwch brydlesi a dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r eiddo (am ffi fach):

Yng Nghymru a Lloegr, ar wefan y Gofrestrfa Tir

Yn yr Alban ar wefan Registers of Scotland

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.