Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Gyrru yn yr UE ar ôl Brexit

Fydd fy mholisi yswiriant modur yn parhau i fod yn ddilys yn yr UE/EEA?

Byddwch chi’n parhau i allu defnyddio’ch trwydded yrru o’r DU i yrru mewn gwledydd yn yr Ardal Economiadd Ewropeaidd (EEA). Mae hyn yn holl aelod-wladwriaethau’r UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Ond bydd angen gwaith papur ychwanegol yn awr i yrru yn yr UE.

Gall rhai polisïau yswiriant modur gynnig parhad o’ch polisi yswiriant modur cynhwysfawr yn yr UE neu EEA.

Rydym yn cynghori gwirio telerau eich gwarchodaeth gyda’ch darparwr yswiriant cyn teithio.

Dylai cerdyn gwyrdd gael ei ddarparu i chi gan eich darparwr yswiriant i brofi eich bod wedi’ch yswirio i’w yrru dramor.

Os ydych chi’n mynd â’ch cerbyd eich hun, mae angen i chi hefyd fynd â’ch V5C (llyfr log) a bod gennych sticer GB ar eich car.

Ydw i angen cerdyn gwyrdd yswiriant a sut ydw i'n cael un?

Bydd angen i chi gario cerdyn yswiriant gwyrdd wrth yrru yn yr UE, EEA a phob gwlad arall sy’n cydnabod cardiau gwyrdd.

Mae’r rhain yn gallu cymryd o wythnos i fis i’w prosesu ac yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim fel arfer gan eich yswiriwr. Gwiriwch gyda’ch darparwr pa mor hir bydd hi’n cymryd ac os oes cost.

Mae cardiau gwyrdd yn parhau fel arfer hyd at 90 diwrnod. Os byddwch chi’n gyrru ar daith ar wahân mewn gwlad sy’n cydnabod cardiau gwyrdd, bydd angen i chi gael un arall gan eich yswiriwr.

Os byddwch chi’n gyrru cerbyd sydd wedi’i gofrestru a’i yswirio yn y wlad fydd yn eich croesawu, fel car rhent lleol, ni fydd angen cerdyn gwyrdd arnoch chi.

Gallai fod angen ichi hefyd roi sticer GB ar eich cerbyd, hyd yn oed os oes ganddo blât Ewro eisoes, sy’n blât rhif sy’n dangos baner yr UE ac arwydd GB.

Ni fydd angen sticer GB i yrru y tu allan i’r DU os byddwch chi’n cyfnewid plât Ewro a phlât rhif sydd ag arwydd GB yn unig a dim baner yr UE.

Fydd fy nhrwydded yrru’n parhau’n ddilys ar gyfer gyrru yn yr UE ac EEA ac a fydd angen unrhyw drwyddedau eraill arnaf i?

Byddwch chi’n parhau i allu defnyddio’ch trwydded yrru o’r DU i yrru mewn gwledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Mae hyn yn holl aelod-wladwriaethau’r UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Bydd angen i chi gario’ch trwydded DU gyda chi o hyd.

Nid oes angen trwydded yrru ryngwladol arnoch chi (IDP) i ymweld na gyrru yn yr UE, y Swistir, Gwlad yr Iâ na Liechtenstein.

Fodd bynnag, gallai fod angen IDP arnoch chi i yrru mewn rhai gwledydd yn yr UE a Norwy os oes gennych chi:

  • drwydded yrru bapur
  • trwydded wedi’i dosbarthu yn Gibraltar, Guernsey, Jersey neu Ynys Manaw

Ynghyd â’r uchod, gallai fod angen i chi roi sticer GB ar eich cerbyd, hyd yn oed os oes ganddo blât Ewro eisoes. Plât rhif sy’n dangos baner yr UE yn ogystal â’r arwydd GB .

Ni fydd angen sticer GB arnoch chi i yrru y tu allan i’r DU os ydych chi’n cyfnewid plât Ewro â phlat rhif sydd ag arwydd GB yn unig ac nid baner yr UE.

Sut ydw i’n cael Trwydded Yrru Ryngwladol (IDP)?

Gallwch brynu trwydded yrru ryngwladol (IDP) mewn You can buy an International driving permit (IDP) mewn swyddfeydd Post.

Mae’r drwydded sydd ei hangen arnoch chi’n dibynnu ar:

  • ba wlad rydych chi’n ymweld â hi
  • pa mor hir rydych chi’n aros.

Gallai fod angen trwydded yrru rhynglwadol (IDP) arnoch chi o hyd os ydych chi’n mynd i yrru y tu allan i’r UE.

Mae IDP yn costio £5.50 ar hyn o bryd. Bydd angen i chi gael gwybod os oes angen IDP ar gyfer y wlad rydych chi’n dymuno ymweld â hi.

Os ydych chi’n teithio trwy fwy nac un wlad, gallai fod angen mwy nac un math o IDP.

Gallai fod angen IDP arnoch chi hefyd os ydych chi’n bwriadu llogi car. Mae’n well i chi wirio hyn gyda’ch cwmni llogi car.

Mae dau wahanol fath o IDP y gallai fod eu hangen arnoch chi yn Ewrop, sy’n cael eu hadnabod fel IDPau 1949 a 1968.

Trwydded 1949

Mae hwn yn cwmpasu unrhyw ymweliadau â Cyprus ac Andorra a theithiau hirach i Iwerddon, Sbaen, Gwlad yr Iâ, a Malta

Trwydded 1968

Mae hwn yn cwmpasu gyrru ym mhob gwlad arall yn yr UE sy’n gofyn am IDPs, a Norwy a’r Swistir.

Gwiriwch pa fath o IDP sydd ei hangen arnoch chi i sicrhau bod gennych chi’r ddogfennaeth gywir ar gyfer eich teithiau.

Os byddwch chi’n gyrru trwy wahanol wledydd sy’n gofyn am wahanol fathau o IDP – er enghraifft, os byddwch chi’n ymweld â Ffrainc yn ogystal â Sbaen – bydd angen i chi gael y ddau fath o drwydded, sy’n golygu y byddech chi’n talu cyfanswm o £11.

Peidiwch â cheisio am IDP os ydych chi’n symud dramor.

Bydd angen i chi naill ai gyfnewid eich trwydded DU am un leol neu geisio am un newydd yn y wlad rydych chi’n symud iddi.

Ydw i’n dal i allu llogi neu lesio cerbyd i’w yrru yn yr UE?

Ydych ond bydd angen VE103 arnoch chi i ddangos eich bod yn cael defnyddio’ch cerbyd a logwyd neu a lesiwyd dramor.

Darganfyddwch fwy am fynd a’ch cerbyd allan o’r DU yn GOV.UK website

Rwy’n ddinesydd o’r DU sy’n byw mewn gwlad UE, beth sy’n digwydd i fy nhrwydded yrru o’r DU?

Os ydych chi’n breswylydd mewn gwlad UE bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru am un leol.

Mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud hyn yn dibynnu ar ba wlad rydych chi’n byw ynddi.

Gallai hyn olygu bod angen ailsefyll eich prawf gyrru yn y wlad UE rydych chi’n byw ynddi i allu parhau i yrru yno .

Darganfyddwch fwy am yrru yn y DU os ydych yn ddinesydd ar wefan GOV.UK

Os ydw i’n tynnu trelar neu garafan, fydd angen cerdyn gwyrdd ar wahân arnaf i ar gyfer y trelar?

Bydd, mae rhai gwledydd EEA ac UE yn gofyn am gerdyn gwyrdd ar wahân fel prawf o yswiriant ar gyfer eich trelar, gan gynnwys carafanau.

Os byddwch chi’n teithio gyda threlar, cysylltwch â’ch darparwr yswiriant i gael dau gerdyn gwyrdd: un ar gyfer y cerbyd sy’n tynnu, ac un ar gyfer y trelar.

Rwy’n ddinesydd UE sy’n byw yn y DU, beth sy’n digwydd i fy nhrwydded yrru UE?

Bydd trwyddedau gyrru wedi’u dosbarthu yn yr UE yn parhau’n ddilys yn y DU.

Mae’r DU yn disgwyl i yrwyr sy’n dod o’r UE i mewn i’r DU gario cerdyn gwyrdd yswiriant, neu dystiolaeth o’u gwarchodaeth yswiriant.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.