Mae nifer o wahanol gynhyrchion yswiriant ar gael, pob un wedi ei ddylunio ar gyfer pobl gwahanol mewn amgylchiadau gwahanol. Gweithiwch allan pa fath o ddiogelwch sy’n addas i chi, beth i’w ystyried wrth i chi bwyso a mesur yr opsiynau a beth sy’n effeithio ar gost eich yswiriant.
Pa gynnyrch yswiriant sy’n iawn i mi?
Mae llawer iawn o wahanol gynhyrchion yswiriant ar gael ac mae pob un yn diogelu rhag gwahanol ddigwyddiadau ac yn cynnig lefelau gwahanol o yswiriant
Er enghraifft, mae polisïau yswiriant bywyd yn talu arian i’ch dibynyddion fel cyfandaliad neu fel taliadau rheolaidd os byddwch farw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A oes angen yswiriant bywyd arnoch?
Ond bydd angen math gwahanol o yswiriant amddiffyn arnoch i'ch gwarchod os bydd rhaid i chi stopio gweithio oherwydd damwain neu salwch difrifol.
Dyma'r ddau brif opsiwn yw:
* Yswiriant amddiffyn incwm. Mae hyn yn cynnwys peth o'r incwm rydych yn ei golli os na allwch weithio oherwydd eich bod yn sâl neu wedi'ch anafu. Mae'n sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn incwm rheolaidd nes i chi ymddeol neu allu dychwelyd i'r gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw diogelu incwm.
* Yswiriant salwch critigol. Mae hyn yn talu allan os ydych yn cael un o'r cyflyrau meddygol neu'r anafiadau penodol a restrir yn y polisi. Y rhai mwyaf cyffredin yw strôc, trawiad ar y galon a rhai mathau o ganser. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A oes angen yswiriant salwch difrifol arnoch?
Yn ddelfrydol, dylech geisio cynilo digon o arian i dalu am dri mis o gostau byw. Fodd bynnag, gall gymryd amser i arbed y swm hwn o arian. A gallai yswiriant amddiffyn fod yn ffordd gost-effeithiol i ddiogelu'ch hun
Dylai’r cynhyrchion yswiriant y byddwch yn eu cymryd adlewyrchu eich amgylchiadau personol a beth rydych am ei ddiogelu.
Er enghraifft, mae cynnyrch yswiriant bywyd fel arfer yn gwneud synnwyr i gyplau neu rieni. Ond ni fydd yn addas i rywun heb ddibynyddion, gan mai dim ond pan fyddwch farw y mae’r polisi yn talu allan.
Gall rhywun heb unrhyw ddibynyddion, fodd bynnag, fod â diddordeb mewn yswiriant diogelu incwm. Mae hyn yn rhoi yswiriant os byddwch yn colli eich cyflog oherwydd salwch neu anaf.
Os na fedrwch fforddio cael yswiriant ar gyfer popeth rydych am ei ddiogelu, meddyliwch am eich blaenoriaethau neu ystyriwch lefel is o yswiriant. Gall ychydig o yswiriant fod yn well na dim.
Gallech, er enghraifft, benderfynu diogelu eich taliadau morgais neu rent os byddwch yn colli incwm.
Beth sy’n cael effaith ar gostau?
Pan ddaw yn fater o yswiriant diogelu, nid mater o ddewis y polisi rhataf yw hi.
Nid oes un peth i weddu i bawb a bydd eich taliadau misol - a elwir yn bremiymau hefyd - yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- yr yswiriant rydych yn ei brynu
- am ba mor hir rydych yn cymryd yr yswiriant
- oedran
- statws priodasol
- p’un ai ydych yn ysmygu neu wedi ysmygu
- ffordd o fyw – er enghraifft, a ydych yn cymryd rhan mewn chwaraeon peryglus?
- iechyd – eich iechyd presennol, pwysau, hanes feddygol eich teulu
- swydd – mae rhai gweithwyr proffesiynol o dan risg uwch nag eraill
- unrhyw bethau hoffech ei hychwanegu
- p’un ai ydych yn prynu polisi sengl neu bolisi ar y cyd.
Bydd faint o yswiriant fydd ei angen arnoch yn dibynnu ar:
- eich incwm ar ôl talu treth
- costau byw o ddydd i ddydd
- dyledion
- morgais/rhent.
Mae’n ddefnyddiol cymharu costau polisi â’r risgiau bod heb yswiriant. Er enghraifft:
- faint byddwch yn ei golli petaech yn mynd yn sâl ac na fyddwch yn gallu gweithio?
- sut byddwch yn talu eich costau hanfodol, fel morgeisi neu rent?
- sut byddwch chi a’ch teulu yn ymdopi’n ariannol ar ôl i chi farw os nad oes yswiriant bywyd mewn lle?
Gweithredwch - penderfynu beth yw eich dewisiadau
Yr allwedd i benderfynu pa yswiriant sydd arnoch ei angen yw pwyso a mesur risgiau a buddion yswiriant diogelu mewn cymhariaeth â’i gost a’r yswiriant.
Chi ddylai benderfynu beth sy’n bwysig i chi a sut y byddwch yn ei ddiogelu.
Y cam cyntaf yw gosod nod i chi eich hun. Beth sydd angen i chi ei ddiogelu fwyaf?
Gall hyn fod yn:
- darparu ar gyfer eich plant
- talu eich taliadau morgais
- sicrhau bod gennych incwm, waeth beth sy’n digwydd.
Yn ail, ystyriwch pa yswiriant sydd eisoes gennych. Er enghraifft, os ydych yn gyflogedig efallai bod gennych:
- pecyn buddion sy’n cynnwys rhywfaint o yswiriant bywyd, neu
- diogelu incwm am gyfnod penodol petaech yn methu gweithio oherwydd salwch neu anaf.
Yn yr un modd, gall cyfrifon pecyn banc penodol gynnwys rhai ffurfiau o yswiriant.
Yn drydydd, ac yn olaf, penderfynwch pa yswiriant diogelu sydd arnoch ei eisiau ar sail yr yswiriant sydd gennych yn barod a beth rydych am ei ddiogelu.
Er enghraifft, os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych blant efallai y byddwch yn penderfynu cael yswiriant diogelu incwm, rhag ofn i chi fynd i fethu gweithio. Efallai byddwch hefyd am gael yswiriant bywyd i sicrhau bod gan eich dibynyddion arian os byddwch farw yn annisgwyl.
Ond os oes gennych blant a’ch bod wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd â ‘lwfans tâl salwch’ yn ei becyn buddion, efallai y byddwch yn teimlo mai dim ond yswiriant bywyd sydd ei angen arnoch.