Mae yswiriant car gyrwyr ifanc yn debygol o fod yn ddrud iawn – gall hyd yn oed fod yn ddrutach na’ch car cyntaf. Felly mae’n ddefnyddiol i yrwyr newydd cael syniad o beth sy’n effeithio ar faint rydych yn ei dalu, sut i gael y fargen orau a sut gallech leihau eich premiymau.
Awgrymiadau yswiriant i yrwyr ifanc
Premiymau yswiriant car - cyfrifo’r gost
Gelwir y swm a dalwch am eich yswiriant car yn bremiwm.
Bydd cwmnïau yswiriant yn gofyn am amrywiaeth o wybodaeth gennych er mwyn cyfrifo beth fydd eich premiwm misol neu flynyddol. Bydd hyn yn cynnwys:
- manylion personol, fel oedran a chod post
- gwybodaeth am y car y byddwch yn ei yrru
- lefel yr yswiriant sydd ei angen arnoch
- y milltiroedd rydych yn rhagweld y byddwch yn eu gyrru bob blwyddyn
- hawliadau yswiriant car blaenorol
- collfarnau troseddol
- a oes gennych unrhyw fonws am beidio â hawlio - y nifer o flynyddoedd rydych wedi bod yn gyrru heb wneud hawliad ar eich yswiriant car.
Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i’r cwmni yswiriant ffurfio darlun ynghylch faint o ‘risg’ rydych yn ei chyflwyno, a byddant yn cyfrifo’ch premiwm yn seiliedig ar hyn.
Po uchaf mae’r cwmni yn ystyried yw’r risg, po uchaf fydd y premiwm.
Lefelau o sicrwydd yswiriant car
Gydag yswiriant car, un o’r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei ystyried fydd pa fath o ddiogelwch hoffech chi ei gael.
Mae tair lefel sicrwydd i ddewis o’u plith:
- cynhwysfawr
- trydydd parti
- trydydd parti, tân a lladrad.
Daganfyddwch fwy o fanylion am y rhain yn ein canllaw Yswiriant car – beth rydych angen ei wybod
Pe byddech yn cael trafferth cael car yn lle’ch car a ddifrodir yn llwyr mewn damwain, y peth gorau yw mynd am y lefel uchaf o ddiogelwch – cynhwysfawr.
Efallai mai diogelwch trydydd parti fyddai’r dewis gorau os nad yw gwerth eich car yn fwy nag ychydig o gannoedd o bunnoedd
Fodd bynnag, mae diogelwch cynhwysfawr yn aml yn costio llai na thrydydd parti. Felly gwiriwch bris y ddau.
10 ffordd i yrwyr ifanc cael yswiriant car rhatach
Mae yswiriant car i yrwyr ifanc bob amser yn mynd i fod yn ddrud. Ond mae yna rhai ffyrdd y gallwch gadw’r premiynau i lawr:
Mae eich dewis car yn bwysig
Mae pob car yn cael ei glustnodi i rif grŵp yswiriant rhwng 1 a 50, grŵp 1 yw’r rhatach i’w yswirio a grŵp 50 yw’r drytaf.
Gyrru car mewn grŵp yswiriant isel yw’r ffordd hawsaf i leihau eich premiymau.
Gall ychwanegu ail yrrwr, sydd o risg isel, eich helpu
Mae ychwanegu rhieni’n syniad da, ond ni allant esgus i fod y prif yrrwr – gelwir hwn yn ‘fronting’ ac mae’n anghyfreithlon.
Nifer o filltiroedd a yrrwyd
Wrth wneud cais am yswiriant, cewch eich gofyn am ba mor aml y byddwch yn defnyddio’r cerbyd a’r pellteroedd rydych yn disgwyl teithio.
Gall llai o filltiroedd a llai o ddefnydd golygu premiymau llai.
Chwiliwch am y fargen gorau
Mae safleoedd cymharu yn lle gwych i ddechrau, ond gallwch hefyd chwilio ar-lein am ddarparwyr yswiriant car yn arbennig i bobl ifanc.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am ddod o hyd i’r bargeinion gorau gyda gwefannau cymharu prisiau
Gofynnwch i arbenigwr
Pan fydd gennych gwpl o brisiau da, ffoniwch brocer yswiriant o gofynnwch iddynt guro’r rhain. Mae hwn am ddim – a byddant yn gwneud y gwaith ymchwil i chi â’ch ffonio chi nôl.
Darganfyddwch frocer ar wefan BIBA
Talu ymlaen llaw
Efallai bod taliadau misol yn fwy fforddiadwy, ond mae yswirwyr yn codi llog ar y taliadau hynny. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy drud na taliad un-tro blynyddol.
Talu swm atodol gwirfoddol uwch
Talu swm atodol gwirfoddol uwch ar ben eich swm atodol gorfodol.
Gallai hyn gadw costau i lawr am unrhyw yrrwr. Fodd bynnag, mae’n golygu y byddwch yn talu mwy eich hunain os oes angen i chi hawlio yn erbyn yswiriant.
Byddwch yn wyliadwrus am bethau ‘ychwanegol’ diangen
Er enghraifft, er bod yswiriant torri i lawr wedi'i gynnwys mewn rhai polisïau ac y gall fod yn ddefnyddiol, yn aml mae'n rhatach ei brynu ar wahân.
Gyrrwch yn ofalus
Mae osgoi cael damwain yn golygu y byddwch yn dechrau cronni gostyngiad am beidio hawlio yn erbyn yr yswiriant, sy’n golygu premiymau llai.
Mae hefyd yn eich atal rhag cael pwyntiau ar eich trwydded, sydd gallu gwneud yswiriant yn ddrytach.
Cwrs gyrru uwch
Gall gymryd cwrs gyrru uwch lleihau eich premiymau. Ond gwiriwch gyda’ch yswriwr i sicrhau y byddwch bendant yn cael bargen gwell.
Darganfyddwch fwy am gyrsiau gyrru uwch a Pass Plus ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant car – sut ddylai polisi da edrych?
Yswiriant car blwch du
Mae hyn yn ffurf o dechnoleg sy’n gwobrwyo gyrru diogel gyda chostau yswiriant is.
Fe’i gelwir weithiau’n yswiriant telematics, ac mae’r polisïau hyn yn golygu ffitio teclyn ar eich car i fonitro’r:
- sbarduno
- brecio
- cornelu
- nifer y milltiroedd
- pa adeg o’r dydd rydych yn gyrru.
Yna bydd pris eich yswiriant yn gostwng os profwch eich bod yn yrrwr da a diogel.
Gall fod ochr negyddol os nad yw’ch gyrru’n dda. Mae hyn oherwydd bod lefel eich risg yn cynyddu, felly mae premiynau’n codi – a gall eich yswiriant hyd yn oed cael ei gaslo.
Gwiriwch eich yswiriwr
Peidiwch â chael eich twyllo. Weithiau, mae yswirwyr ffug yn targedu gyrwyr ifanc.
Mae’n rhaid i’ch yswiriwr - a’ch brocer, os ydych yn defnyddio un - fod wedi’i awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae’n bwysig hefyd darllen y polisi cyn i chi brynu. Dyna’r unig ffordd o wybod eich bod wedi cael eich yswirio.