Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Dewis pensiwn eich hun

Os ydych am ddechrau cynilo mewn i bensiwn, neu gynilo mwy nag y mae eich cynllun cyfredol yn ei ganiatáu, gallwch gynilo i mewn i bensiwn preifat eich hun.

Beth i edrych amdano wrth ddewis pensiwn

 Mae gan wahanol gynlluniau pensiwn delerau ac amodau gwahanol.

Dyma rai pethau y mae rhaid i chi feddwl amdanynt wrth ddewis eich pensiwn a'ch darparwr:

  • A oes isafswm neu lefel uchaf o gyfraniad y gallaf ei wneud?
  • A fydd gennyf yr opsiwn i stopio a dechrau fy nghyfraniadau, heb gosb?
  • A allaf dalu cyfandaliadau, yn ogystal â chyfraniadau rheolaidd?
  • A oes gwybodaeth glir o ran ble y gallaf fuddsoddi fy nghyfraniadau?
  • A yw’r cynllun yn cynnig yr amrywiaeth cywir o fuddsoddiadau i mi?
  • Beth yw'r ffioedd?
  • Pa gymorth a chefnogaeth y mae'r darparwr yn ei gynnig i'm helpu i gynllunio ar gyfer fy ymddeoliad a monitro fy opsiynau buddsoddi (gan gynnwys mynediad ar-lein)?

Cynigir y rhain gan gwmnïau yswiriant, banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr pensiwn eraill, gan gynnwys cwmnïau ar-lein.

Gallwch ymuno â'r rhain hyd yn oed os ydych eisoes yn aelod o bensiwn gweithle.

Beth i'w wneud pan fyddwch wedi penderfynu ar bensiwn

Pan fyddwch wedi penderfynu ar bensiwn preifat sy’n addas i chi:

  • Gallwch fynd yn uniongyrchol at y cwmnïau sy'n eu gwerthu - cymharwch eu cynhyrchion a gwnewch benderfyniad eich hun ynghylch pa un i'w ddewis. Fodd bynnag, â'r llwybr hwn - os gwnewch y penderfyniad anghywir a bod y cynnyrch a ddewiswch yn anaddas, byddwch yn llai tebygol o allu gwneud cwyn.
  • Neu gallwch ddefnyddio cynghorydd ariannol rheoledig - byddant yn cymharu cynhyrchion ar y farchnad ac yn gwneud argymhelliad yn bersonol i chi.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.