Gyda phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (a elwir weithiau’n brynu arian) rydych yn casglu cronfa o arian y byddwch yn ei defnyddio i ddarparu incwm ar ôl ymddeol. Yn wahanol i gynlluniau buddion wedi’u diffinio sy’n addo incwm penodol, mae’r incwm gallech ei gael o gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn dibynnu ar ffactorau sy’n cynnwys y swm rydych yn ei dalu i mewn, perfformiad buddsoddi’r gronfa a’r dewisiadau a wnewch wrth ymddeol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw pensiwn cyfraniad wedi’i ddiffinio?
Gall pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio fod yn:
- cynlluniau pensiwn gweithle a sefydlwyd gan eich cyflogwr, neu
- cynlluniau pensiwn preifat a sefydlwyd gennych chi.
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn drwy eich gweithle, yna bydd eich cyflogwr yn didynnu eich cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog cyn ei drethu fel rheol. Os byddwch wedi sefydlu’r cynllun dros eich hun, byddwch yn trefnu’r cyfraniadau eich hun. Mae'r arian yn eich pensiwn yn cael ei roi mewn buddsoddiadau (fel cyfranddaliadau) gan y darparwr pensiwn.
Gall gwerth eich pot pensiwn fynd i fyny neu i lawr yn dibynnu ar berfformiad y buddsoddiadau.
Mae rhai cynlluniau yn symud eich arian i fuddsoddiadau risg is wrth i chi agosáu at oedran ymddeol.
Efallai y gallwch ofyn i'ch darparwr pensiwn am hyn os na fydd yn digwydd yn awtomatig.
Sut mae cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn gweithio
Mae hwn yn fath o bensiwn lle mae'r swm a gewch pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar faint rydych yn ei roi i mewn a faint mae'r arian hwn yn tyfu.
Mae'ch pot pensiwn wedi'i gronni o'ch cyfraniadau a chyfraniadau eich cyflogwr (os yw'n berthnasol) ynghyd ag enillion buddsoddi a rhyddhad treth.
Mae'n helpu i feddwl am bensiynau cyfraniad wedi’u diffinio fel un sydd â dau gam:
Cam 1 – Tra byddwch yn gweithio
Bydd maint eich pot pensiwn pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar:
- am faint rydych yn cynilo
- faint rydych yn ei dalu i'ch pot pensiwn
- faint, os unrhyw beth, y mae eich cyflogwr yn ei dalu
- pa mor dda y mae eich buddsoddiadau wedi perfformio
- pa daliadau a gymerwyd o'ch pot gan eich darparwr pensiwn.
Caiff y gronfa ei buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau fel rheol, ynghyd â buddsoddiadau eraill, gyda’r nod o’i chynyddu yn ystod y blynyddoedd cyn i chi ymddeol.
Gallwch ddewis o amrywiaeth o gronfeydd i fuddsoddi ynddynt fel rheol. Ond cofiwch y gall gwerth buddsoddiadau godi neu ostwng.
Cam 2 – Pan fyddwch yn ymddeol
Nid oes rhaid i chi roi'r gorau i weithio i ddechrau cymryd arian o'ch pot pensiwn, ond fel rheol mae rhaid i chi fod yn 55 oed o leiaf (57 o 2028).
Pan ddechreuwch gymryd arian, gellir cymryd hyd at 25% o'ch pot pensiwn fel cyfandaliad di-dreth unwaith ac am byth. Gellir defnyddio'r gweddill i ddarparu incwm trethadwy, neu un cyfandaliad trethadwy neu fwy.
Mae mwy am eich opsiynau ar gyfer cymryd arian o'ch pensiwn isod.
Os ydych yn 50 oed neu'n hŷn gallwch drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim i ddarganfod mwy am eich opsiynau.
Sut mae’r cyfraniadau’n gweithio mewn cynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio?
Pensiynau gweithle
Os ydych mewn pensiwn gweithle, bydd eich cyflogwr yn penderfynu ar lefelau'r cyfraniadau a delir i'r cynllun.
Mae'r cyfraniadau fel arfer yn ganran o'ch enillion, er y gallai fod yn swm ariannol.
Efallai y bydd y cyflogwr yn nodi'r isafswm symiau cyfraniadau y mae rhaid i chi ac hwy eu talu.
Os yw'r cynllun rydych ynddo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Ymrestru’n awtomatig, mae isafsymiau ar gyfer cyfraniadau.
Darganfyddwch fwy am isafwm symiau cyfraniadau yn ein canllaw Ymrestru’n awtomatig - cyflwyniad
Buddsoddir cyfraniadau a wneir i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio gennych chi a / neu eich cyflogwr yn eich ‘pot’ unigol a gedwir yn eich enw.
Pensiynau personol
Os oes gennych bensiwn rydych wedi'i sefydlu eich hun, chi fydd yn penderfynu faint i'w gyfrannu at eich pensiwn a pha mor aml..
Yn dibynnu ar ba mor gyson yw'ch incwm, gallech sefydlu cyfraniad rheolaidd, bob mis er enghraifft. Neu gallech benderfynu gwneud cyfraniadau sengl pan fydd gennych incwm sbâr ar gael.
Byddwch yn ymwybodol
Meddyliwch faint y gallwch fforddio ei gyfrannu at y cynllun – fel eich bod ar y trywydd iawn ar gyfer yr ymddeoliad rydych ei eisiau.
Rhyddhad treth ar gyfraniadau
Rydych yn cael rhyddhad treth ar y cyfraniadau a delir i'ch pensiwn. Mae hyn yn golygu bod Treth Incwm y byddech fel arfer yn ei thalu i'r llywodraeth yn mynd tuag at eich pensiwn yn lle. Mae hon yn un o'r manteision mae cynilo mewn bensiwn yn cynnig dros gynilo mewn cyfrif cynilo arferol.
Gall rhyddhad treth eich helpu i gronni'ch pot pensiwn yn gyflymach.
Darganfyddwch fwy yn ein cynllun Rhyddhad treth a’ch pensiwn
Sut mae cyfraniadau’n cael eu buddsoddi?
Mae llawer o gynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio yn cynnig dewis i chi o sut mae'ch cyfraniadau, a'r cyfraniadau y mae'ch cyflogwr yn eu gwneud ar eich rhan, yn cael eu buddsoddi.
Gallai'r dewis gynnwys ystod gyfyngedig o gronfeydd neu gallai ganiatáu buddsoddiad mewn ystod eang o wahanol fathau o gronfeydd. Bydd llawer o gynlluniau yn dewis cronfa i fuddsoddi'ch arian ynddi os na fyddwch yn gwneud dewis.
Gallwch benderfynu symud arian rydych wedi'i gronni o un gronfa i'r llall (newid cronfeydd). Neu gallwch ddewis buddsoddi cyfraniadau yn y dyfodol mewn cronfa wahanol.
Dros amser, bydd gwerth eich pot yn newid. Bydd ei werth ar unrhyw adeg yn dibynnu ar:
- faint sydd wedi'i dalu iddo
- faint o amser y mae pob cyfraniad wedi'i fuddsoddi
- twf buddsoddiad dros y cyfnod hwn
- y taliadau a ddidynnwyd o'r cynllun.
Dylid anfon datganiadau rheolaidd atoch yn dangos gwerth eich pot. Ond gallwch ofyn i weinyddwr y cynllun am werth ar unrhyw adeg.
Mae gan rai cynlluniau system ar-lein y gallwch ei gyrchu a fydd yn darparu manylion eich pot a phrisiad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau buddsoddi pensiwn
Cymryd arian o’ch pensiwn
O 55 oed (yn codi i 57 o 2028), mae gennych y dewis o gael mynediad i'ch pot pensiwn trwy un o'r opsiynau isod, neu gyfuniad ohonynt. Yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol, gallai rhai neu'r holl opsiynau hyn fod yn addas i chi.
Rhestrir eich prif opsiynau ar gyfer defnyddio'ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio ar ôl ymddeol yma:
- Cadwch eich cynilion pensiwn lle y maent – a’u cymryd yn nes ymlaen. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymddeol yn ddiweddarach neu ohirio cymryd eich pot pensiwn.
- Defnyddiwch eich cronfa pensiwn i brynu incwm gwarantedig am oes neu am dymor penodol – a elwir hefyd yn flwydd-dal oes neu dymor penodol. Mae'r incwm yn drethadwy, ond gallwch ddewis cymryd hyd at 25% (weithiau mwy â rhai cynlluniau) o'ch pot fel cyfandaliad di-dreth unwaith ac am byth ar y dechrau.
- Defnyddiwch eich pot pensiwn i ddarparu incwm ymddeol hyblyg – a elwir hefyd yn dynnu i lawr pensiwn. Gallwch gymryd y swm y caniateir i chi ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth (hyd at 25% o'r pot fel arfer), yna defnyddio'r gweddill i ddarparu incwm trethadwy rheolaidd.
- Cymerwch nifer o gyfandaliadau – fel arfer bydd y 25% cyntaf o bob arian sy’n gael ei dynnu allan o'ch pot yn ddi-dreth. Bydd y gweddill yn cael ei drethu. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd eich pot pensiwn cyfan fel arian parod.
- Cymryd eich pot pensiwn gyfan – fel arfer bydd y 25% cyntaf yn ddi-dreth ac mae'r gweddill yn drethadwy.
- Cymysgwch eich opsiynau - dewiswch unrhyw gyfuniad o'r uchod, gan ddefnyddio gwahanol rannau o'ch pot neu botiau ar wahân.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau ar gyfer defnyddio eich pot pensiwn
Beth i’w wneud os ydych wedi colli'r manylion cyswllt ar gyfer eich cynllun
Os ydych wedi colli trywydd o’ch manylion pensiwn peidiwch â phoeni. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddod o hyd iddynt.