Os ydych yn hunangyflogedig, gall cynilo i mewn i bensiwn fod yn arfer anoddach nac ydyw i bobl mewn cyflogaeth. Nid oes neb i ddewis cynllun pensiwn ar eich rhan, dim cyfraniadau cyflogwr a phatrymau incwm anghyson. Ond mae nifer o fanteision i gael pensiwn.
Cael Pensiwn y Wladwriaeth pan rydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig, mae gennych hawl i Bensiwn y Wladwriaeth yn yr un ffordd ag unrhyw un arall.
Ar gyfer pobl sy'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2016, mae Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i seilio'n llwyr ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
Fel rheol byddwch angen:
- o leiaf deng mlynedd cymwys ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth, a
- o leiaf 35 mlynedd cymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn.
Ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol (2023/24), y Pensiwn y Wladwriaeth llawn yw £203.85 yr wythnos.
Ydych chi wedi gweithio i rywun arall yn hytrach na chi'ch hun yn y gorffennol? Yna efallai eich bod wedi cronni hawl i Bensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol o dan yr hen system - a chael mwy na hyn. Gelwir y swm ychwanegol yn ‘daliad gwarchodedig’.
Mewn rhai achosion, pe baech wedi'ch eithrio allan o Bensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol efallai y cewch lai na £203.85, hyd yn oed os oes gennych gofnod Yswiriant Gwladol llawn.
I ddarganfod faint rydych wedi'i gronni, ac i wirio'ch cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych bartner, gallant hefyd gael eu rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth eu hunain. Mae hyn yn golygu y gallwch weld beth fydd incwm eich cartref o Bensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg
Sut orau i gynilo ar gyfer ymddeoliad
Dywed rhai pobl hunangyflogedig mai eu busnes yw eu pensiwn - a byddant yn ei werthu pan maent eisiau ymddeol. Ond i lawer, NHW yw'r busnes - felly os ydynt yn ymddeol, ni fydd gan y busnes unrhyw werth.
Beth os mae eich busnes yw eich pensiwn a bod eich busnes yn mynd i'r wal? Yna nid yn unig ydych chi wedi colli'ch gwaith, ond ni fydd gennych bensiwn chwaith.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae 67% o bobl hunangyflogedig yn poeni o ddifrif am gynilo ar gyfer bywyd yn ddiweddarach.
Mae yna tua 4.5 miliwn o bobl hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig, sy’n atebol am 15% o weithlu’r DU. Ac eto dim ond 31% o’r hunangyflogedig sy’n cynilo i mewn i bensiwn. Ffynhonnell: IPSE).
Un atyniad mawr o fod yn hunangyflogedig yw nad oes gennych fos. Ond, o ran pensiynau, mae hyn yn anfantais.
Bellach mae’n rhaid i bob cyflogwr ddarparu cynllun pensiwn gweithle ar gyfer gweithwyr cymwys a thalu i mewn iddo. Mae hyn yn hybu faint mae eu gweithwyr yn ei gynilo tuag at eu hymddeoliad.
Os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd gennych gyflogwr yn ychwanegu arian at eich pensiwn fel hyn.
Ond mae yna rai manteision treth y dylech fanteisio arnynt. Er enghraifft, byddwch yn cael gostyngiad yn y dreth ar eich cyfraniadau - hyd at yr isaf o’ch enillion blynyddol neu £60,000 y flwyddyn.
Mae hyn yn golygu os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £25 ychwanegol at bob £100 rydych yn ei dalu i mewn i’ch pensiwn.
Os ydych chi’n talu digon o dreth ar y gyfradd uwch o 40% yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon - gallwch hawlio £25 arall yn ôl trwy’ch ffurflen dreth am bob £100 fyddwch chi’n ei dalu i mewn i’ch pensiwn.
Yn yr Alban gallwch hawlio £1.58 yn ychwanegol yn ôl am bob £100 a dalwyd os byddwch chi’n talu digon o dreth ar Gyfradd Ganolradd yr Alban o 21%. A £26.58 arall os byddwch yn talu digon o dreth ar Gyfradd Uwch yr Alban o 41%.
Efallai y gall eich busnes hefyd gyfrannu at eich pensiwn os ydyw wedi’i sefydlu fel cwmni cyfyngedig.
Gwnewch y mwyaf o’ch cronfa bensiwn
Gorau po gyntaf i chi ddechrau gwneud cyfraniadau i'ch pensiwn.
Mae’n rhoi mwy o amser:
- i chi gyfrannu at eich cynilion cyn ymddeol
- i gael y budd o ryddhad treth
- i’ch cynilion dyfu.
Oed dechrau cynilo | Eich cyfraniad y mis | Llywodraeth yn ychwanegu rhyddhad treth* | Cronfa bensiwn yn 68 |
---|---|---|---|
30 |
£100 |
£25 |
£112,000 |
40 |
£100 |
£25 |
£68,000 |
50 |
£100 |
£25 |
£36,000 |
*Rydym wedi tybio bod rhyddhad treth o 20% yn cael ei hawlio a'i ychwanegu gan y darparwr pensiwn. Gall talwyr treth cyfradd uwch hawlio rhyddhad treth ychwanegol trwy eu ffurflen dreth.
Mae'r ffigurau a ddangosir ym mhrisiau heddiw. Mae hyn yn golygu eu bod wedi'u haddasu i adlewyrchu'r ffordd y mae chwyddiant yn effeithio ar bŵer prynu eich arian. Rydym wedi tybio bod chwyddiant yn 2%.
Rydym hefyd wedi gwneud y rhagdybiaethau canlynol:
- arbedion yn tyfu ar 5% y flwyddyn
- y taliadau yw 0.75% y flwyddyn
- cyfraniadau yn cynyddu bob blwyddyn yn unol ag enillion cyfartalog ar 3.5%.
Pa gynlluniau pensiwn ar gyfer yr hunangyflogedig a allaf eu defnyddio?
Er nad oes pensiynau penodol ar gyfer yr hunangyflogedig yn unig, nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw beth ar gael i chi.
Mae’r rhan fwyaf o bobl hunangyflogedig yn defnyddio pensiwn personol ar gyfer eu cynilion pensiwn.
Gyda phensiwn personol, a elwir weithiau yn bensiwn preifat, chi sy’n dewis ble rydych am i’ch cyfraniadau gael eu buddsoddi o ystod o gronfeydd a gynigir gan y darparwr.
Bydd y darparwr yn hawlio rhyddhad treth ar y gyfradd sylfaenol ar eich rhan ac yn ei ychwanegu at eich cronfa bensiwn.
Mae faint rydych yn ei gael yn ôl yn dibynnu ar faint sy'n cael ei dalu i mewn, pa mor dda mae'ch cynilion yn perfformio, a lefel y taliadau rydych yn eu talu.
Mae tri math o bensiwn personol:
- Pensiynau personol cyffredin - sy'n cael eu cynnig gan y mwyafrif o ddarparwyr mawr.
- Pensiynau cyfranddeiliaid - sy'n destun cap ar eu ffioedd.
- Pensiynau personol hunan-fuddsoddedig - a allai fod ag ystod ehangach o opsiynau buddsoddi.
Darganfyddwch fwy am ein pensiynau personol yn ein canllawiau:
Pensiynau personol
Pensiynau cyfranddeiliaid
Pensiynau buddsoddi personol (SIPPau)
Pensiynau NEST
Neu, gall pobl hunangyflogedig hefyd ddefnyddio NEST (National Employment Savings Trust). Wedi greu gan y llywodraeth, mae’n cael ei redeg gan y NEST Corporation. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gyfranddalwyr neu berchnogion a chaiff ei rhedeg er budd ei haelodau.
Er bod NEST yn bennaf ar gyfer pobl sy’n gyflogedig - maent hefyd yn caniatáu rhai pobl hunangyflogedig i gynilo â nhw.
I ddarganfod os ydych yn gymwys, ewch i wefan NEST
Cyngor ariannol
Mae’r holl gynlluniau gwahanol gyda’u manteision ac anfanteision.
Os nad ydych yn siŵr pa gynllun i gynilo ynddo, dylech ystyried siarad â chynghorydd ariannol rheoledig. Byddant yn rhoi argymhelliad yn seiliedig ar eich anghenion a’ch amgylchiadau penodol.
Mantais cymryd cyngor ariannol rheoledig yw eich bod wedi’ch diogelu:
- petai’r cynnyrch a brynwch yn anaddas wedi’r cwbl, neu
- os digwydd i’r darparwr fynd yn fethdalwr.
Ond yn fwy na dim y fantais yw y gall y cynghorydd ariannol chwilio drwy’r farchnad gyfan ar eich rhan a chynnig argymhelliad ar eich cyfer chi’n bersonol.
Beth yw’r lwfans blynyddol?
Gallwch gynilo cymaint ag y dymunwch tuag at eich pensiwn bob blwyddyn dreth. Ond mae yna derfyn ar y swm a fydd yn cael rhyddhad treth.
Gelwir uchafswm y cynilion pensiwn sy’n elwa o ryddhad treth bob blwyddyn dreth yn ‘lwfans blynyddol’.
Gallwch gael rhyddhad treth ar eich cynilion pensiwn hyd at y lwfans blynyddol is, sydd ar hyn o bryd yn £60,000 i'r mwyafrif o bobl, neu 100% o'ch enillion. Os byddwch yn mynd dros eich lwfans, codir tâl ar dreth sy'n cymryd yn ôl unrhyw ryddhad treth a roddwyd ar y dechrau.
Os ydych yn ennill llai na £3,600, gallwch gyfrannu hyd at £2,880 at bensiwn personol a dal i gael rhyddhad treth.
Os ydych yn enillydd uchel gydag incwm yn uwch na £200,000 y flwyddyn, gall eich lwfans blynyddol ostwng yn raddol i gyn lleied â £4,000. Gelwir hyn yn lwfans blynyddol taprog.
Os ydych wedi cymryd mwy na'r arian parod y mae gennych hawl i'w gymryd yn ddi-dreth trwy incwm ymddeoliad hyblyg, gall eich lwfans blynyddol hefyd fod yn £10,000. Gelwir hyn yn lwfans blynyddol prynu arian.
Efallai y bydd hefyd yn bosibl cyfrannu mwy na'ch lwfans blynyddol a dal i elwa o ryddhad treth trwy ddefnyddio lwfans nas defnyddiwyd o hyd at y tair blynedd dreth flaenorol. Gelwir hyn yn cario ymlaen.