Gall pensiynau ymddangos yn gymhleth, ond mae'r syniad sylfaenol yn un syml. Mae'n werth deall buddion cynilo i mewn i gynllun pensiwn, oherwydd efallai na fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn ddigon i fyw arno.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam fod pensiynau'n bwysig?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae uchafswm Pensiwn y Wladwriaeth lawer yn llai na'r swm y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod yn gobeithio ymddeol arno. Ar gyfer 2023/24, mae'n £203.85 yr wythnos - neu £10,600 y flwyddyn.
Pam cael pensiwn? Nid yw miliynau o bobl yn cynilo bron yn ddigonol i roi'r safon byw y maent yn gobeithio amdani pan fyddant yn ymddeol.
Os ydych yn perthyn i'r categori hwn, mae gennych dri dewis.
Gallwch:
• ymddeol yn ddiweddarach
• dechrau cynilo mwy
• gostwng eich disgwyliadau o'r hyn y byddwch yn gallu ei fforddio ar ôl ymddeol.
Mae'n bwysig peidio â dibynnu ar Bensiwn y Wladwriaeth i'ch cadw i fynd yn ystod ymddeoliad.
Hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth lawn o £203.85 yr wythnos am y flwyddyn dreth 2023/24, mae hyn ymhell islaw'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod yn gobeithio ymddeol arno.
Manteision cynilo i mewn i bensiwn
Pan fyddwch wedi penderfynu dechrau cynilo ar gyfer ymddeol, mae angen i chi ddewis sut rydych yn mynd i'w wneud.
Mae gan bensiynau lawer o fanteision pwysig a fydd yn gwneud i'ch cynilion dyfu'n gyflymach.
Yn y bôn, cynllun cynilo tymor hir yw pensiwn gyda rhyddhad treth. Mae cael rhyddhad treth ar bensiynau yn golygu bod peth o'ch arian a fyddai wedi mynd i'r Llywodraeth mewn treth yn mynd i'ch pensiwn yn lle hynny.
Darganfyddwch fwy am ryddhad treth yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
Os cynilwch trwy gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, buddsoddir eich cyfraniadau. Mae hyn fel eu bod yn tyfu trwy gydol eich bywyd gwaith ac yna'n darparu incwm i chi ar ôl ymddeol.
Yn gyffredinol, gallwch gael mynediad at yr arian yn eich cronfa bensiwn o 55 oed, ond bydd hyn yn cynyddu i 57 oed o 6 Ebrill 2028.
Sut y gall rhyddhad treth helpu i adeiladu'ch cronfa pensiwn
Pan fydd eich incwm dros lefel benodol, bydd y llywodraeth yn cymryd treth o'ch enillion.
Gallwch weld hyn ar eich slip cyflog. Os ydych yn rhoi arian mewn cynllun pensiwn, mae'n gymwys i gael rhyddhad treth.
Mae hyn yn golygu, yn ogystal â'r arian rydych yn ei roi i mewn, bod peth o'ch arian a fyddai wedi mynd i'r llywodraeth fel treth bellach yn mynd i'ch cronfa pensiwn yn lle.
Dyma un o fuddion pensiwn dros gyfrif cynilo traddodiadol, a dyna pam mae pensiynau mor bwysig.
Hyd yn oed os nad ydych yn ennill digon i dalu treth, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cyfraniadau hyd at £2,880 y flwyddyn gyda rhyddhad treth yn eu gwneud i fyny at £3,600.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
Arian ychwanegol gan eich cyflogwr
Er mwyn helpu pobl i gynilo mwy ar gyfer eu hymddeoliad, mae'n rhaid i gyflogwyr nawr ymrestru eu gweithwyr mewn cynllun pensiwn gweithle. Gelwir hyn yn ‘ymrestru awtomatig’.
Mewn rhai achosion, bydd eich cyflogwr yn cyfrannu at eich pensiwn ni waeth a ydych yn talu i mewn iddo ai peidio. Mewn achosion eraill, bydd angen i chi hefyd dalu i mewn.
Hyd yn oed os ydynt angen i chi gyfrannu hefyd, yna, oni bai na allwch fforddio cyfrannu neu fod eich blaenoriaeth yn delio â dyled na ellir ei rheoli, mae aros allan fel gwrthod y cynnig o godiad cyflog. Mae'n werth talu i mewn i bensiwn i gael yr arian ychwanegol hwnnw i'w ddefnyddio yn nes ymlaen mewn bywyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig: cyflwyniad
Cyfandaliad di-dreth pan fyddwch yn ymddeol
Fel rheol, gallwch gymryd hyd at chwarter (25%) o'ch cynilion pensiwn fel cyfandaliad di-dreth.
Os ydych wedi adeiladu'ch cronfa bensiwn eich hun mewn cynllun cyfraniadau diffiniedig (yn lle cynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio - a elwir hefyd yn gynllun cyflog terfynol) – gallwch ddefnyddio gweddill eich cronfa sut bynnag y byddwch yn dewis pan gyrhaeddwch 55 oed. Bydd hyn yn cynyddu i 57 oed o 6 Ebrill 2028.