Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pa mor ddiogel yw eich pensiwn?

Rydych chi’n gweithio’n galed i adeiladu’ch pensiwn, felly mae’n bwysig sicrhau bod eich arian yn ddiogel. Cewch wybod mwy am sut y gall eich sefyllfa ddibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych, a lle gallwch gael mwy o help os bydd ei angen arnoch.

A ddylwn fod yn bryderus am fy mhensiwn?

Gyda llawer o gyflogwyr a chwmnïau yn mynd allan o fusnes, gall cyflogeion presennol a’r rhai sydd wedi ymddeol gael eu gadael yn teimlo’n ansicr am eu sefyllfa ynghylch eu pensiwn.

Mae’r sefyllfa’n dibynnu a oes gennych gynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio neu gynllun cyfraniadau wedi'u diffinio.

A yw fy nghynllun buddion wedi'u diffinio yn ddiogel?

Mae hwn yn fath o bensiwn a fydd yn talu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr.

Mae pensiynau buddion wedi'u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn “cyflog terfynol” a chynlluniau pensiwn “chyfartaledd gyrfa”. Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn yn y sector cyhoeddus neu gynlluniau pensiwn y gweithle hŷn y mae rhain ar gael erbyn hyn.

Diogelir y math hwn o gynllun gan y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF). 

Efallai y bydd y PPF yn camu i mewn ac yn talu incwm ymddeol aelodau fel iawndal os aiff cyflogwyr yn fethdalwyr a phan nad oes gan y cynllun ddigon o arian i dalu eu buddion.

Efallai na fydd yr iawndal yr un fath â phe na bai’r cyflogwr wedi mynd allan o fusnes.  Bydd lefel yr amddiffyniad yn dibynnu a oeddech wedi pasio’ch oedran pensiwn arferol pan ddaeth eich cyflogwr yn fethdalwr. 

Os oeddech chi dros eich oedran pensiwn arferol neu os oeddech wedi dechrau derbyn eich pensiwn yn gynnar oherwydd afiechyd, mae gennych hawl i dderbyn pensiwn llawn gan y PPF. Mae unrhyw un sy’n derbyn pensiwn goroeswr, fel pensiwn gweddwon wedi’i ddiogelu’n llawn hefyd.

Os oeddech chi o dan eich oedran pensiwn arferol, mae gennych hawl i dderbyn pensiwn o 90% y swm oeddech wedi’i gronni pan ddaeth eich cyflogwr yn fethdalwr. Ers mis Gorffennaf 2021, ni fu unrhyw gap uchaf ar y swm hwn.

A yw fy nghynllun cyfraniadau wedi'u diffinio wedi’i ddiogelu?

Gyda’r math hwn o bensiwn, rydych chi’n cronni cronfa bensiwn i dalu incwm ymddeol i chi. Mae’n seiliedig ar faint rydych chi a/neu’ch cyflogwr yn cyfrannu ato a faint mae hyn yn tyfu.

Fe’i gelwir hefyd yn gynllun ‘prynu arian’ ac mae’n cynnwys pensiynau’r gweithle a phensiynau personol.

Nid yw’r math hwn o gynllun wedi ei ddiogelu gan y Gronfa Diogelu Pensiwn. Ond mae yna sawl haen sy’n helpu cadw’ch arian mor ddiogel â phosib.

Yn gyntaf, bydd pob cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU yn cael ei reoleiddio gan naill ai’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) neu’r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR)

Mae’r ddau yn gyrff annibynnol sy’n ceisio amddiffyn aeoldau, gan leihau’r posibilrwydd y bydd pethau’n mynd o’u chwith.

Mae’r sefydliadau hyn yn nodi’r rheolau y mae’n rhaid i gynlluniau pensiwn weithredu oddi tanynt a sut y mae’n rhaid iddynt reoli buddsoddiadau cynlluniau pensiwn.

Er mwyn amddiffyn arian buddsoddwyr, mae yna reolau llym sy’n llywodraethu cryfder ariannol y cwmnïau, yn ogystal â’r systemau a’r rheolaethau y mae’n rhaid iddynt fod ar waith i amddiffyn eich buddsoddiadau.

Mae gan y sefydliadau hyn lawer o bwerau, gan gynnwys y gallu i archwilio’r gweithrediadau a’r rheolaethau risg sydd gan eich darparwr pensiwn ar waith. Mae’n rhaid i ddarparwyr adrodd yn rheolaidd ar eu cryfder ariannol.

Pensiynau a reoleiddir gan yr FCA

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn gyfrifol am reoleiddio ymddygiad pensiynau manwerthu. Mae hyn yn cynnwys pensiynau personol y gallech chi eu sefydlu eich hun a phensiynau personol grŵp wedi’u sefydlu yn eich gweithle.

Mae hyn yn cynnwys pensiynau rhanddeiliaid, pensiynau personol hunanfuddsoddedig, Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) a blwydd-daliadau. Cynlluniau ‘seiliedig ar gontract’ yw’r rhain lle mae contract yn bodoli rhyngoch chi a’r darparwr.

Y sefyllfa os bydd cyflogwr sy’n noddi yn mynd allan o fusnes

Os ydych chi yn un o’r pensiynau hyn a’i fod wedi’i sefydlu gan eich cyflogwr sydd wedi mynd allan o fusnes ers hynny, bydd eich arian yn ddiogel. Mae hyn oherwydd bod yr asedau pensiwn yn cael eu dal mewn cadwraeth ar eich cyfer, gan ddarparwr y pensiwn. 

Y sefyllfa o ran buddsoddi eich arian

Gall newidiadau yn y marchnadoedd buddsoddi barhau i effeithio ar werth eich cynilion pensiwn ar unrhyw adeg, oherwydd gallant fynd i fyny ac i lawr yn ddyddiol. Felly gall gwerth eich pensiwn fynd i fyny ac i lawr hefyd. Mae hyn yn risg buddsoddi, yn rhan arferol o fuddsoddi.

Mae risg o hyd y gallai'r cwmnïau buddsoddi y buddsoddir eich arian gyda nhw fynd allan o fusnes. Yn y math hwn o bensiwn, dylai'r darparwr fod â phwyllgorau ar waith i fonitro a llywodraethu'r opsiynau buddsoddi a gall y darparwr weithredu i newid, stopio a dileu buddsoddiadau yn y pensiwn os oes angen.

Fodd bynnag, ni allant warantu diogelwch eich cyfrif. Ac nid yw'r mesurau hyn yn amddiffyn eich pensiwn yn llawn yn erbyn pob digwyddiad.

Pe bai rhywbeth yn digwydd i ddarparwr buddsoddi, byddech fel arfer yn gallu gwneud cais am iawndal o'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu eich diogelu hyd at £85,000 ar gyfer pob sefydliad y buddsoddir eich arian gyda hwy. Mae hyn yn cynnwys arian rydych chi wedi'i fuddsoddi yn eich pensiwn yn ogystal ag unrhyw gyfrifon cynilo eraill. Mae hefyd yn cynnwys arian sydd gennych mewn arian parod gyda'r sefydliad hwnnw fel cyfrif banc.

Yn gyffredinol, nid yw'r FSCS yn ymdrin â cholledion perfformiad, megis os yw'r cyfranddaliadau rydych chi'n buddsoddi ynddynt yn mynd allan o fusnes. Er y gallant gwmpasu rheolaeth fuddsoddi wael. 

Y sefyllfa os bydd y darparwr pensiwn sydd yn cynnal a goruchwilio eich arian yn mynd allan o fusnes

Pe bai rhywbeth yn digwydd i'r darparwr pensiwn s’yn goruchwylio'ch arian, yn gyffredinol byddech chi'n gallu hawlio iawndal gan yr FSCS.

Nod yr FSCS yw sicrhau eich bod yn cael 100% o unrhyw golled yn ôl.

Pensiynau a reoleiddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau

Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn gyfrifol am reoleiddio pensiynau gweithle sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae hyn yn golygu bod y cynllun pensiwn yn cael ei lywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr.

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am redeg y cynllun pensiwn er budd ei aelodau a sicrhau buddion aelodau. Mae rôl a dyletswyddau ymddiriedolwyr yn cael eu gosod gan amrywiol ddeddfau.

Y sefyllfa os yw cyflogwr sy'n noddi yn mynd allan o fusnes

Os ydych chi yn un o'r pensiynau gweithle hyn a bod eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes, bydd y pensiwn rydych chi wedi'i adeiladu yn dal i fod yn ddiogel. Mae hyn oherwydd bod yr asedau pensiwn yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth ar wahân a oruchwylir gan gwmni ymddiriedolwyr sy’n gofalu am fuddiannau yr aelodau.

Y sefyllfa ynglŷn â buddsoddi eich arian

Gall newidiadau yn y marchnadoedd buddsoddi barhau i effeithio ar werth eich cynilion pensiwn ar unrhyw adeg, oherwydd gallant fynd i fyny ac i lawr yn ddyddiol. Felly gallai gwerth eich pensiwn fynd i fyny ac i lawr hefyd. Mae hyn yn risg buddsoddi, yn rhan arferol o fuddsoddi.

Mae risg o hyd y gallai'r cwmnïau buddsoddi y buddsoddir eich arian gyda nhw fynd allan o fusnes. Mae'n ddyletswydd ar ymddiriedolwyr i fonitro a llywodraethu'r opsiynau buddsoddi a gallant weithredu i newid, stopio a dileu buddsoddiadau yn y pensiwn os oes angen.

Fodd bynnag, ni allant warantu diogelwch eich cyfrif. Ac nid yw'r mesurau hyn yn amddiffyn eich pensiwn yn llawn yn erbyn pob digwyddiad.

Yn y math hwn o bensiwn, pe bai rhywbeth yn digwydd i ddarparwr buddsoddi, ni fyddech yn gallu hawlio iawndal gan yr FSCS.

Ni fyddech yn gymwys i gael iawndal gan mai cleient y darparwr buddsoddi yw'r cynllun pensiwn yn hytrach na chi fel unigolyn.

Yn gyffredinol, nid yw'r FSCS yn ymdrin â cholledion perfformiad, megis os yw'r cyfranddaliadau rydych chi'n buddsoddi ynddynt yn mynd allan o fusnes. Er y gallant gwmpasu rheolaeth fuddsoddi wael.

Y sefyllfa os yw'r darparwr pensiwn y mae eich arian yn cael ei ddal gyda, a'i oruchwylio ganddo, yn mynd allan o fusnes

Pe bai rhywbeth yn digwydd i ddarparwr pensiwn yn goruchwylio'ch arian, yn gyffredinol byddech chi'n gallu hawlio iawndal gan yr FSCS.

Nod yr FSCS yw sicrhau eich bod yn cael 100% o unrhyw golled yn ôl.

Ble i fynd i gael rhagor o help

Os oes gennych bensiwn y gweithle, dylech bob amser gysylltu â’ch cyflogwr yn gyntaf os oes gennych bryderon am eich cynllun pensiwn y gweithle.

Gallwch siarad hefyd â darparwr neu weinyddwr eich pensiwn. Dylai hwn fod y man galw cyntaf am bensiynau rydych chi wedi’u sefydlu eich hun.

Fodd bynnag, os hoffech siarad â thrydydd parti annibynnol hefyd, neu ond yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, gallwch ni.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.