Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sefydliadau sy’n helpu i ddiogelu pensiynau

Y Rheoleiddiwr Pensiynau

Y Rheoleiddiwr Pensiynau yn corff llywodraethol sy'n gyfrifol am reoleiddio cynlluniau pensiwn gweithle yn y DU.

Ei brif nod yw hyrwyddo a gwella dealltwriaeth o weinyddiaeth dda cynlluniau pensiwn gweithle, er mwyn amddiffyn buddion aelodau.

Ond nid ydynt yn gallu helpu ag anghydfodau rhwng unigolion a'u cynlluniau pensiwn. Gall yr Ombwdsmon Pensiynau edrych ar y sefyllfaoedd hyn.

Yr Ombwdsmon Pensiynau

Mae'r Ombwdsmon Pensiynau yn sefydliad annibynnol a sefydlwyd gan y gyfraith.

Gallant helpu os oes gennych gŵyn neu anghydfod ynghylch cynllun pensiwn a ddarperir gan eich cyflogwr, neu bensiwn rydych wedi'i sefydlu eich hun.

Maent yn edrych ar y ffeithiau heb ochri, ac mae eu gwasanaeth am ddim.

Gallant hefyd helpu os ydych am gwyno am benderfyniad gan y Gronfa Diogelu Pensiwn neu'r Cynllun Cymorth Ariannol.

Fodd bynnag, ni allant helpu os oes gennych gŵyn am gyngor neu werthu cynhyrchion pensiwn unigol. Mae hyn oherwydd bod y cwynion hyn yn cael eu trin gan Wasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Mae'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn ymchwilio i gwynion am werthu neu farchnata trefniadau pensiwn unigol.

Os ydych yn anhapus â'r cyngor a roddwyd i chi am gynllun pensiwn, yn gyntaf mae angen i chi roi'r cyfle i'r cwmni a'ch cynghorodd ddatrys materion.

Bydd gan y cwmni wyth wythnos i ddatrys eich cwyn â chi. Os ydych yn dal yn anhapus ar ôl wyth wythnos, gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ddod i mewn.

Gallant hefyd ymchwilio i gwynion am y mwyafrif o broblemau ariannol sy'n ymwneud â phethau fel bancio, yswiriant, morgeisi, buddsoddiadau a chynilion.

Y ‘Prudential Regulation Authority’

Mae’r ‘Prudential Regulation Authority’ yn gyfrifol am sicrhau bod:

  • cwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau ariannol, gan gynnwys banciau, cwmnïau yswiriant a chwmnïau buddsoddi mawr yn cael eu rhedeg yn iawn, a
  • bod gan bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau rywfaint o amddiffyniad rhag colled os yw'r cwmni neu'r unigolyn yn mynd allan o fusnes.

Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn goruchwylio ymddygiad unigolion a chwmnïau sy'n darparu gwasanaethau ariannol.

Os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid, neu wedi defnyddio'ch cronfa bensiwn i brynu incwm, mae'n debygol y bydd eich darparwr yn cael ei oruchwylio gan yr FCA.

Os ydych eisiau cyngor ariannol, dylai eich cynghorydd ariannol fod wedi cael ei awdurdodi gan yr FCA.

Mae'r FCA yn cadw cofrestr o'r cwmnïau a'r unigolion y mae'n eu rheoleiddio, y gallwch ei ddefnyddio.

Os yw'ch cwmni gwasanaethau ariannol neu gynghorydd unigol wedi'i awdurdodi gan yr FCA, efallai gall sefydliadau eraill eich helpu. Maent yn cynnwys Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol a'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.

Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol

Y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yw cronfa iawndal y DU fel y dewis olaf ar gyfer cwsmeriaid cwmnïau gwasanaethau ariannol awdurdodedig.

Mae hyn yn golygu y gallai'r FSCS dalu iawndal os yw cwmni gwasanaethau ariannol (fel cwmni yswiriant) yn methu, neu'n debygol o fethu â thalu ceisiadau yn ei erbyn.

Mae'r FSCS yn gorff annibynnol. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, mae'r FSCS yn gweithredu gwahanol lefelau o iawndal yn ôl y math o fuddsoddiad dan sylw. Maent yn diogelu:

  • adneuon
  • polisïau yswiriant (mae hyn yn cynnwys unrhyw flwydd-dal y gallech fod wedi'i brynu â chronfa o arian o gynllun pensiwn)
  • brocera yswiriant (ar gyfer busnes ar neu ar ôl 14 Ionawr 2005)
  • busnes buddsoddi
  • cyngor a threfnu morgeisi (ar gyfer busnes ar neu ar ôl 31 Hydref 2004).
Efallai y bydd yr FSCS yn eich digolledu os:
  • oeddech yn gwsmer i gwmni neu unigolyn a awdurdodwyd gan yr FCA
  • bod y cwmni neu'r unigolyn wedi mynd allan o fusnes; ac rydych wedi colli arian o ganlyniad.

Mae cyfyngiadau i'r swm y bydd yr FSCS yn ei dalu.

Nid ydynt yn codi tâl ar ddefnyddwyr am ddefnyddio eu gwasanaeth.

Nid yw'r FSCS yn ymdrin â chynlluniau pensiwn galwedigaethol. Os ydych yn cyfrannu at, neu wedi cyfrannu at, gynllun pensiwn galwedigaethol (nad yw'n gynllun sy'n gysylltiedig â chyflog) ac yn poeni am ddiogelwch eich cronfa pensiwn, cysylltwch â'r cyflogwr neu'r ymddiriedolwyr. 

Cronfa Iawndal Twyll

Gall y Gronfa Iawndal Twyll (FCF) helpu os yw asedau cynllun pensiwn gweithle sy'n seiliedig ar ymddiriedolaeth (a elwir weithiau'n cynllun pensiwn galwedigaethol) wedi cael eu lleihau oherwydd trosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd.

Gall ymddiriedolwyr, rheolwyr cynllun, aelodau, buddiolwyr cynllun, gweinyddwyr cynllun a'u cynrychiolwyr i gyd wneud cais am iawndal.

Telir unrhyw iawndal yn uniongyrchol i ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn galwedigaethol.

Gall y FCF, dan rai amgylchiadau, drefnu bod iawndal yn cael ei dalu i gynllun pensiwn lle mae'r holl amodau canlynol wedi'u bodloni:

  • Mae'r cynllun yn bensiwn gweithle (galwedigaethol) nad yw wedi'i eithrio o'r FCF.
  • Mae'r cyflogwr wedi mynd allan o fusnes neu'n annhebygol o barhau mewn busnes.
  • Mae gwerth y cynllun wedi'i leihau oherwydd anonestrwydd.
  • Nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y cynllun yn derbyn unrhyw arian i gwmpasu ei golled ac mae rhaid bod wedi rhoi cynnig ar bob ymgais arall i geisio iawndal am y golled.

Mae rhaid gwneud pob cais i'r FCF o fewn terfynau amser penodol.

Mae'r FCF yn berthnasol ond:

  • pan fydd y cynllun yn gynllun pensiwn gweithle sy'n seiliedig ar ymddiriedolaeth (galwedigaethol)
  • ac nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y cynllun yn derbyn unrhyw arian i gwmpasu ei golled
  • ac mae'r cyflogwr wedi mynd allan o fusnes neu'n annhebygol o barhau mewn busnes
  • ac mae gwerth asedau'r cynllun wedi'i leihau oherwydd anonestrwydd.

Gweithredir y FCF gan y Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF).

Y Gronfa Diogelu Pensiwn

Mae’r Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF) yn diogelu pobl sydd â phensiwn buddion wedi’u diffinio (sy'n cynnwys cynlluniau cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa) pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr. Os nad oes gan y cyflogwr ddigon o arian i dalu’r pensiwn a addawsant, efallai bydd y PPF yn darparu iawndal yn ei le.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.