Os bydd problem gyda’ch pensiwn, mae yna sefydliadau a all eich helpu. Darganfyddwch wrth bwy y gallwch gwyno a’r hyn i’w ddisgwyl.
Eich Pensiwn y Wladwriaeth
Yn y rhan fwyaf o achosion, eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd gennych gŵyn yn gysylltiedig â’ch Pensiwn y Wladwriaeth yw’r Gwasanaeth Pensiwn (ffôn: 0800 731 0453).
Fodd bynnag, os yw eich cwyn yn ymwneud â chofnod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Cewch fanylion am weithdrefnau cwynion CThEM ar wefan GOV.UK
Os ydych yn dymuno mynd â’ch cwyn ymhellach yn dilyn hynny, gallwch wneud hynny drwy’r tribiwnlys perthnasol:
- Y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant sy’n delio â’r rhan fwyaf o faterion yn gysylltiedig â phensiynau
- Y Tribiwnlys Treth sy’n ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau HMRC.
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae’r sefydliad cywir i gysylltu ag ef gyda’ch cwyn yn dibynnu ar natur y broblem – gweler isod.
Cwynion ynglŷn â’r ffordd y mae eich cynllun pensiwn yn cael ei redeg
Yn y lle cyntaf dylech gysylltu â’r cwmni yr ymunoch â’r cynllun pensiwn drwyddo.
Efallai mai darparwr y pensiwn ei hun fydd hyn, neu fe allai fod yn ymgynghorydd ariannol proffesiynol.
Os na allwch ddatrys y broblem fel hyn, y peth nesaf y dylech ei wneud yw cysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau yn delio â chwynion ac anghydfodau ynghylch gweinyddu a/neu reoli cynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol.
Mae angen i chi gysylltu â'r Ombwdsmon Pensiynau ynghylch cwyn o fewn tair blynedd i'r digwyddiad(au) rydych chi'n cwyno am ddigwydd. Os yw'n hwyrach, mae angen iddo fod o fewn tair blynedd i'r adeg y gwyddoch amdano gyntaf (neu y dylech fod wedi gwybod amdano). Mae disgresiwn i'r terfynau amser hynny gael eu hymestyn.
Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau yn:
10 South Colonnade, Canary Wharf
London, E14 4PU
Ffôn: 0800 917 4487
E-bost: [email protected]
Gallwch hefyd anfon ffurflen cwyno ar-lein
Am help i wneud eich cwyn, mae Resolver yn wasanaeth ac ap ar-lein am ddim sy'n cynnig cyngor i ddefnyddwyr ac yn symleiddio'r broses o gwyno.
Cwynion ynglŷn â gwerthu a marchnata pensiynau
Ydych chi o’r farn y cawsoch eich cynghori’n anghywir pan brynoch eich pensiwn? Neu a gawsoch wybodaeth a brofodd i fod yn anghywir? Yna dylech gwyno yn gyntaf wrth y cwmni lle prynoch y pensiwn (y darparwr neu’r cynghorydd ariannol).
Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd maen nhw'n delio â'ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ffoniwch nhw ar 0800 023 4567 neu ewch i wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Enghraifft o un o’r math o gŵyn y mae’r Ombwdsman yn mynd i’r afael â nhw yw lle cynghorwyd unigolyn i gymryd pensiwn personol pan y dylent wedi ymuno â’u cynllun gweithle.
Os yw’ch darparwr pensiwn yn mynd i’r wal
Os yw'ch darparwr pensiwn yn mynd allan o fusnes neu'n mynd i ansolfedd, gan ei adael yn methu â thalu arian sy'n ddyledus i chi, cysylltwch â'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Ffoniwch nhw ar 0800 678 1100 neu ewch i wefan FSCS
Gallwch ddarganfod mwy am y mesurau sydd ar waith i gadw'ch pensiwn yn ddiogel yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw eich pensiwn?
Pensiynau buddion wedi'u diffinio
Os yw'ch cyflogwr yn gweithredu pensiwn buddion wedi’u diffinio (fel pensiwn cyflog terfynol neu bensiwn cyfartalog gyrfa), yn ôl y gyfraith mae'n rhaid iddo gael gweithdrefn gwynion ffurfiol.
Os nad ydych yn hapus gydag agwedd o’ch cynllun pensiwn, dylech godi’ch mater gyda gweinyddwr y cynllun.
Gweinyddwyr sy’n rhedeg y cynllun a byddant yn gwybod yr holl reolau a sut mae’r rhain yn berthnasol i chi.
Os na allent ddatrys y broblem ac maent wedi methu egluro pam mae rhywbeth fel y mae, neu os ydych yn teimlo nad ydynt yn delio ag ef yn iawn, yna gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach trwy Broses Datrys Anghydfod Mewnol eich cynllun (IDRP).
- Os na allwch ddatrys y mater fel hyn, cysylltwch â ni – mae’r manylion isod.
- Os nad yw hynny’n datrys y broblem, cysylltwch â’r Ombwdsmon Pensiynau ar 0800 917 4487.
Os yw’ch cyflogwr yn mynd i’r wal
Ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio a bod eich cyflogwr yn mynd i’r wal? Os nad oes digon o arian yn ei gynllun i dalu’ch pensiwn, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael cymorth trwy sefydliad o’r enw y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF).
Mae'r PPF yn atebol i'r senedd a'u dyletswydd yw diogelu pobl sydd â phensiwn buddion wedi’u diffinio cymwys pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y Gronfa Diogelu Pensiynau
Wedi trosglwyddo pensiwn buddion wedi’u diffinio?
Mae trosglwyddiadau allan o gynlluniau buddion wedi’u ddiffinio yn y gweithle yn gymhleth ac mae'n hanfodol eich bod yn hyderus eich bod wedi derbyn cyngor da. Os oes gennych unrhyw bryderon - ni waeth pa mor ddibwys ydych chi'n teimlo y gallent fod - dylech ddarllen y wybodaeth hon.
Mae'r rheolydd ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), wedi canfod bod llawer o bobl a drosglwyddodd allan o gynlluniau buddion wedi’u diffinio wedi derbyn cyngor ariannol anaddas. Os cawsoch gyngor anaddas i drosglwyddo, fe allech fod â hawl i gael iawndal.
Mae cynllun buddion wedi’u diffinio yn darparu gwarantau gwerthfawr. Efallai y bydd amgylchiadau lle mae'n addas trosglwyddo. Canllawiau'r FCA i ymgynghorwyr yw y dylent gychwyn pob adolygiad o drosglwyddiad posibl gan dybio nad yw trosglwyddiad er budd gorau'r cwsmer.
Dylech ystyried a oedd eich cyngor yn addas ai peidio yn seiliedig ar eich anghenion. Defnyddiwch Gwiriwr Cyngor yr FCA i ddeall a oedd y cyngor a gawsoch yn iawn i chi.
Os ydych chi'n anhapus ag unrhyw agwedd ar y cyngor ariannol a gawsoch ynghylch trosglwyddo, dylech ddilyn y camau a amlinellir isod.
Os oes gennych gŵyn am ymgynghorydd ariannol
Oes gennych gŵyn yn ymwneud ag ymgynghorydd ariannol ynghylch y cyngor a gawsoch?
Os ydych yn meddwl ei fod, eich cam cyntaf ddylai fod i geisio ei ddatrys gyda’r ymgynghorydd. Dylent fod â gweithdrefnau ar waith i ddelio â’r materion hyn.
Rhaid i gwmni ariannol rheoledig ymateb i'ch cwyn yn ysgrifenedig cyn pen wyth wythnos, gan ddweud wrthych a yw'r gŵyn wedi bod yn llwyddiannus neu pam maent angen mwy o amser i ymchwilio iddi.
Os nad ydych yn hapus â’u hymateb, gallwch weld a yw’n dod o dan cwynion sy’n cael eu edrych arnynt gan Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch hefyd ffonio nhw ar 0800 023 4567.
Mae defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoledig yn rhoi mynediad i chi i'r FOS. Mae'r gwasanaeth hwn yn annibynnol ac yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. Gall ddyfarnu iawndal lle mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Mae'r broses ar gyfer gwneud cwyn yn hawdd i'w gwneud ond, os ydych angen help, bydd y FOS yn gallu eich arwain trwyddo os gwnewch ffonio 0800 023 4567.
Os nad yw'ch ymgynghorydd ariannol mewn busnes mwyach, gallwch wneud cais i'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd, sydd hefyd yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.
Nid oes angen i chi ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau (CMC) na chyfreithiwr i wneud cwyn. Os gwnewch chi bydd yn rhaid i chi rannu unrhyw iawndal a gewch gyda nhw.
Os ydych angen help, gallwch hefyd gysylltu â ni i drafod eich sefyllfa. Yn seiliedig ar yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym, byddwn bob amser yn ceisio'ch helpu i gael yr atebion rydych eu hangen neu nodi'r bobl y mae angen i chi siarad â nhw