Hyd yn oed â'r cynlluniau pensiwn sy'n cael eu rhedeg orau, gall darparwyr wneud camgymeriadau neu gymryd gormod o amser i gywiro nhw. Os aiff rhywbeth o'i le – gan eich gadael yn waeth eich byd – fe allech fod â hawl i gael iawndal. Os ydych wedi colli allan yn ariannol, fe allech gael iawndal sy'n ceisio'ch rhoi chi'n ôl yn y sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe na bai'r mater wedi digwydd. Gellid talu hwn i'ch pensiwn neu'n uniongyrchol i chi
Iawndal os yw'ch darparwr buddsoddiad pensiwn neu bensiwn wedi methu
Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol
Darganfyddwch fwy, a'r hyn y byddant yn ei dalu ar wefan y FSCS
Os yw'ch arian â darparwr pensiwn neu flwydd-dal a reoleiddir yn y DU neu os yw mewn buddsoddiadau mewn pensiwn sy'n cael ei reoli gan gwmnïau a reoleiddir yn y DU a'u bod yn methu, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal o'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Sefydlwyd yr FSCS gan y senedd i ddarparu gwasanaeth cwbl annibynnol a rhad ac am ddim a all eich amddiffyn pan fydd pethau’n mynd o chwith â chwmnïau ariannol lle rydych yn dal arian.
Mae'r FSCS yn gweithredu gwahanol lefelau o iawndal yn ôl y math o fuddsoddiad dan sylw. Mae cyfyngiadau ar faint allen nhw dalu.
Nid yw'r FSCS yn cwmpasu'r rhan fwyaf o bensiynau gweithle yn seiliedig ar ymddiriedolaeth. Os ydych yn cyfrannu at un o'r cynlluniau hyn neu wedi cyfrannu ato ac yn poeni am ddiogelwch eich pot, cysylltwch â'r cyflogwr neu'r ymddiriedolwyr.
Darganfyddwch fwy o’r adran ‘Pensiynau a reoleiddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau’ yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw'ch pensiwn
Nid yw'r FSCS hefyd yn amddiffyn pensiynau buddion diffiniedig. Mae'r Gronfa Diogelu Pensiwn yn debygol o ddiogelu'r rhain.
Darganfyddwch fwy ar wefan y Gronfa Diogelu Pensiwn
Iawndal os ydych wedi derbyn cyngor gwael ynghylch pensiwn
Os ydych wedi colli arian oherwydd eich bod wedi derbyn cyngor am bensiwn gan gynghorydd ariannol a reoleiddir yn y DU efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal.
Os yw'r cynghorydd a roddodd y cyngor i chi yn dal i fasnachu, bydd angen i chi gysylltu â hwy’n gyntaf i gwyno. Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Os ydych wedi trosglwyddo o bensiwn buddion wedi'i diffinio ac rydych am gwyno am y cyngor gwnaethoch ei dderbyn, gallwch ddarganfod fwy am beth i'w wneud a phwy i gysylltu â hwy yn ein canllaw Delio â phroblemau pensiwn a gwneud cwyn
Iawndal os aeth rhywbeth o'i le â rheolaeth neu weinyddiaeth eich pensiwn
Yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n well bob amser cysylltu â'ch darparwr pensiwn yn gyntaf. Siaradwch â hwy am beth sydd wedi digwydd a rhowch gyfle iddynt unioni pethau.
Y peth gorau bob amser yw cyflwyno'ch cwyn yn ysgrifenedig i'ch darparwr, a gwneud nodyn o bwy wnaethoch siarad â'r dyddiadau. Mae hyn er mwyn i chi gael cofnod o'r hyn rydych wedi gofyn iddynt fynd i'r afael ag ef.
Os ydych yn anhapus â'u hymateb, gallwch gynyddu eich cwyn trwy Broses Datrys Anghydfod Mewnol eich cynllun. Dylai darparwr eich cynllun roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud hyn.
Os na allwch ddatrys y broblem fel hyn, eich cam nesaf yw cysylltu â'r Ombwdsmon Pensiynau
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau yn sefydliad annibynnol a sefydlwyd yn ôl y gyfraith i ymchwilio i gwynion neu anghydfodau ynghylch cynlluniau pensiwn. Maent yn gwbl annibynnol a diduedd. Maent yn edrych ar y ffeithiau heb ochri ac mae eu gwasanaeth am ddim.
Yr Ombwdsmon Pensiynau
Darganfyddwch fwy ar wefan Yr Ombwdsmon Pensiynau
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau yn delio â chwynion ac anghydfodau ynghylch gweinyddu a/neu reoli cynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol
Gallant edrych ar bethau fel:
- cymryd gormod o amser i wneud rhywbeth heb reswm da
- methu â gwneud rhywbeth y dylent fod wedi'i wneud
- peidio â dilyn rheolau'r cynllun pensiwn na'r gyfraith
- torri addewid
- rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol
- peidio â gwneud penderfyniad yn y ffordd iawn.
Os bydd yr ombwdsmon yn penderfynu y dylid cynnal cwyn (wedi cytuno) neu ei chadarnhau'n rhannol, byddant fel arfer yn dweud wrth y parti sydd ar fai i unioni pethau. Gallai hynny gynnwys gwneud iawn am golled ariannol neu gymryd camau eraill i gywiro'r broblem. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn iawndal am unrhyw drallod neu anghyfleustra a achosir.