Mae llawer o bethau y mae rhaid i ddarparwyr eu gwneud yn ystod oes eich pensiwn. Weithiau gallant gymryd mwy o amser nag y dylent. Yn aml gellir ystyried y rhain yn oedi ‘rhesymol’. Ond os ydych yn meddwl eich bod ar eich colled yn ariannol oherwydd bod rhywbeth wedi cymryd gormod o amser, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pan fydd oedi yn achosi problemau
Gall fod yn anodd darganfod pwy allai fod yn gyfrifol am oedi.
Yn nodweddiadol, mae oedi'n dod yn broblem pan fydd darparwr yn cymryd gormod o amser i:
- dalu eich pensiwn i chi
- rhoi dyfynbris i chi
- trosglwyddo'ch pensiwn o un darparwr i'r llall
- buddsoddi eich cyfraniadau.
Weithiau, mae angen gwneud y pethau hyn o fewn terfynau amser cyfreithiol.
Ond yn amlach, mae’n achos o’r hyn sy’n ‘rhesymol’. A gall hyn amrywio o achos i achos. Bydd hefyd yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Beth gallwch ei wneud
A ydych yn meddwl bod darparwr wedi cymryd gormod o amser i wneud rhywbeth, a'ch bod yn waeth eich byd o ganlyniad? Yna mae'n well siarad â'ch darparwr pensiwn yn gyntaf. Gofynnwch iddynt fynd i'r afael â'ch pryderon.
Os yw'r oedi wedi achosi colled ariannol i chi, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych yn waeth eich byd o ganlyniad i'r oedi. Mewn rhai achosion, er enghraifft, efallai y byddwch hefyd yn derbyn llog ar daliadau hwyr i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael iawndal am broblem pensiwn
Os ydych yn anhapus â'u hateb, ffoniwch ni ar 0800 011 3797 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). Efallai y bydd un o'n harbenigwyr pensiwn yn gallu egluro ymateb eich darparwr, a beth mae'n ei olygu i chi.