Mae'r Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF) yn diogelu pobl sydd â phensiwn buddion wedi’u diffinio pan ddaw cyflogwr yn fethdalwr. Os nad oes gan y cyflogwr ddigon o arian i dalu'r pensiwn a addawyd i chi, bydd y PPF yn darparu iawndal yn lle.
Beth fydd yn digwydd os bydd cyflogwr eich cynllun yn mynd yn fethdalwr?
Gelwir cynlluniau buddion wedi’u diffinio hefyd yn bensiynau cyflog terfynol a phensiynau cyfartaledd gyrfa.
Pan fydd cyflogwr sydd â chynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio yn mynd yn fethdalwr, bydd y PPF yn asesu'r cynllun i weld a yw aelodau'n gymwys i gael iawndal. Gelwir hyn yn ‘gyfnod asesu’.
Mae’r PPF yn anelu at gwblhau asesiad ar gyfer y mwyafrif o gynlluniau o fewn dwy flynedd. Yn ystod y cyfnod asesu, bydd y PPF yn penderfynu a all dderbyn y cynllun ai peidio.
Os yw'r cynllun a'i aelodau'n gymwys, bydd yn dechrau asesiad PPF.
Yn ystod yr amser hwnnw, bydd y PPF yn asesu lefel yr asedau o fewn y cynllun pensiwn. Byddant yn gweld a ydynt yn ddigon i alluogi cwmni yswiriant i brynu allan, ac yna talu'r buddion pensiwn ar yr un symiau â'r iawndal PPF.
Yn ystod y cyfnod asesu:
- ni ellir talu unrhyw gyfraniadau pellach ac ni dderbynnir unrhyw aelodau newydd, felly ni ellir cronni unrhyw fuddion pellach
- ni chaniateir trosglwyddo buddion o'r cynllun oni bai bod cais wedi'i wneud cyn y cyfnod asesu a bod yr ymddiriedolwyr yn cytuno i'r trosglwyddiad.
Os oes digon o asedau yn y cynllun i sicrhau prynu’r yswiriant allan, byddai'r cynllun pensiwn yn gadael y cyfnod asesu PFF.
Os nad oes digon o asedau yn y cynllun i sicrhau prynu’r yswiriant allan, byddai'r cynllun yn cael ei dderbyn i'r PPF. Byddai'r PPF yn parhau i dalu'r incwm pensiwn i aelodau ar y lefelau iawndal perthnasol.
Darganfyddwch fwy am bensiynau buddion wedi’u diffinio yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu cyflog terfynol) wedi’u hesbonio
Faint mae'r Gronfa Diogelu Pensiwn yn ei ddiogelu?
Os yw'ch cynllun pensiwn yn gymwys, mae swm yr iawndal a gewch yn dibynnu a oeddech wedi pasio'ch oedran pensiwn arferol pan ddaeth eich cyflogwr yn fethdalwr.
Bydd unrhyw un sy'n derbyn pensiynau goroeswyr, fel gwragedd a gwŷr gweddw, plant, partner sifil hefyd fel arfer yn gymwys i gael 100% o incwm y pensiwn.
Os oeddech dros eich oedran pensiwn arferol neu'n dechrau tynnu'ch pensiwn yn gynnar oherwydd afiechyd, mae gennych hawl i dderbyn pensiwn llawn gan y PPF.
Os oeddech o dan eich oedran pensiwn arferol, mae gennych hawl i dderbyn pensiwn o 90% y swm rydych wedi'i gronni pan ddaeth eich cyflogwr yn fethdalwr. Ers Gorffennaf 2021 nid oes cap uchaf ar y swm hwn.
Bydd unrhyw iawndal a delir yn cael ei gynyddu yn unol â deddfwriaeth ac nid â rheolau blaenorol y cynllun.
Bydd cynnydd mewn iawndal PPF yn gyfyngedig i fuddion a gronnwyd o 6 Ebrill 1997 yn unig. Mae'r cynnydd mewn taliad yn unol â chwyddiant, wedi'i gapio ar uchafswm o 2.5%.
Nid yw'r PPF yn berthnasol i fuddion cynllun pensiwn gweithle cyfraniadau wedi’u diffinio (buddion prynu arian).
Y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS)
Mae’r FAS yn cael ei rhedeg gan y PPF a sefydlwyd er mwyn amddiffyn aelodau oedd gyda budd-daliadau wedi’u diffinio lle:
- daeth y cynllun pensiwn i ben rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005
- ni allai'r cynllun pensiwn fforddio talu'r buddion hynny a addawyd i aelodau.
Mae buddion FAS yn cael eu hystyried fel iawndal ac fe'u telir ar ffurf ychwanegiad. Nod hyn yw darparu 90% o’r pensiwn buddion wedi’u diffinio y byddent wedi’i dderbyn yn eu hoedran pensiwn arferol i aelodau. Mae hyn hyd at gap o £41,888 y flwyddyn ym mlwyddyn dreth 2023/24.
Os na allwch weithio oherwydd afiechyd, gall y FAS wneud taliadau cyn eich oedran ymddeol arferol, ond gallai fod rhai cyfyngiadau. Dim ond iawndal am gynlluniau buddion wedi’u diffinio y gall y FAS eu darparu.