Os bydd eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes – er enghraifft, bydd yn mynd i law’r gweinyddwyr, y derbynnydd neu’n cael ei ddatod – a ni all dalu ei gyfraniadau pensiwn mwyach, bydd cynllun rydych ynddo ar wahân i asedau'r cwmni. Ni ellir talu arian yn y cynllun i gredydwyr y cyflogwr. Darganfyddwch sut gallai’ch pensiwn gael ei effeithio pe bai'ch cyflogwr yn mynd allan o fusnes.
Mae sut cewch eich effeithio yn dibynnu ar ba fath o gynllun pensiwn rydych ynddo
Mae sut bydd eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes yn cael effaith ar eich pensiwn yn dibynnu ar ba fath o gynllun rydych ynddo.
Mae dau fath o gynllun pensiwn.
Gelwir y cyntaf yn gynllun cyfraniadau diffiniedig (prynu arian). Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- pensiwn personol
- pensiwn personol grŵp
- pensiwn cyfranddeiliaid
- cynllun ‘master trust’.
O dan y cynlluniau hyn, rydych yn cronni cronfa o arian i ddefnyddio wrth ymddeol. Mae'n seiliedig ar faint rydych chi a/neu eich cyflogwr yn cyfrannu a faint mae hyn yn tyfu.
Gelwir yr ail fath o gynllun yn gynllun buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol). Mae hyn yn darparu incwm ymddeoliad yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’. Yn gyffredinol maent bellach ar gael gan gynlluniau pensiwn gweithle hŷn neu’r sector cyhoeddus.
Os ydych yn ansicr, siaradwch â'ch darparwr pensiwn.
Darganfyddwch fwy am fuddion wedi’u diffinio a chynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio yn ein canllawiau:
Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu cyflog terfynol) wedi’u hesbonio
Cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
Os ydych mewn un o'r pensiynau gweithle hyn a bod eich cyflogwr yn mynd i'r wal, bydd y pensiwn rydych wedi'i adeiladu yn dal i fod yn ddiogel. Mae hyn oherwydd bod yr asedau pensiwn yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth ar wahân a oruchwylir gan gwmni ymddiriedolwyr sy’n gofalu am fuddiannau aelodau.
I gael mwy o wybodaeth am y mesurau sydd ar waith i amddiffyn eich pensiynau gwelwch ein canllaw Pa mor ddiogel yw’ch pensiwn?
Fodd bynnag, os bydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr, efallai na fyddwch yn derbyn cyfraniadau pensiwn yn y dyfodol nad ydynt eto wedi eu gwneud.
Mae risg hefyd bod eich cyflogwr wedi methu â phasio rhai o'r cyfraniadau misol rydych eisoes wedi'u talu i'r darparwr cyn mynd yn fethdalwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud os nad ydy fy nghyflogwr yn talu fy nghyfraniadau pensiwn neu’n eu talu’n hwyr
Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi gysylltu â'r cwmni sy'n rheoli'r ansolfedd a gofyn am iawndal gwerth y cyfraniadau misol sydd heb ei wneud.
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellir hawlio iawndal o'r Gronfa Yswiriant Gwladol.
Fel arfer, bydd eich gweinyddwr cynllun pensiwn eich hun neu'r Derbynnydd Swyddogol yn gwneud yr hawliad hwn ar eich rhan.
Cynllun buddion wedi’u diffinio
Os ydych mewn cynllun buddion wedi ei ddiffinio, mae’n debygol ei fod wedi ei ddiogelu gan rhwyd ddiogelwch y lywodraeth, y Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF).
Bydd cynllun yn trosglwyddo i'r PPF dim ond os nad oes ganddo ddigon o asedau neu arian i brynu o leiaf lefelau iawndal PPF gan gwmni yswiriant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Pa mor ddiogel yw fy mhensiwn buddion wedi’u diffinio?
Y Gronfa Diogelu Pensiwn
Ni fydd cynllun yn trosglwyddo i'r PPF os:
- mae wedi'i achub – er enghraifft, mae cyflogwr newydd yn cymryd cyfrifoldeb am y cynllun, neu
- mae ganddo ddigon o asedau neu arian i brynu buddion â chwmni yswiriant, sydd ar lefelau iawndal PPF neu'n uwch.
Os yw'ch cynllun yn mynd i mewn i'r PPF, byddwch yn cael isafswm gwarantedig o iawndal.
Os oeddech dros ddyddiad arferol eich cynllun ymddeol pan aeth eich cyflogwr i’r wal, caiff eich pensiwn ei dalu’n llawn. Mae hyn fel arfer yn berthnasol os ydych wedi ymddeol trwy iechyd gwael neu os ydych yn cael pensiwn mewn perthynas â rhywun sydd wedi marw hefyd.
Os oeddech o dan ddyddiad arferol eich cynllun ymddeol pan aeth eich cyflogwr i’r wal, byddwch yn derbyn pensiwn o tua 90% o werth yr un a addawyd i chi.
Gallai cynnydd blynyddol mewn iawndal fod yn wahanol i'r cynnydd y byddech wedi eu cael o'ch cynllun pensiwn.
Sefydlwyd y PPF gan y llywodraeth fis Ebrill 2005. Os oeddech yn aelod o bensiwn buddion wedi’u diffinio a dechreuodd gael ei ddirwyn i ben rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005, efallai y bydd y Cynllun Cymorth Ariannol yn eich amddiffyn (FAS).