Os yw'ch cyflogwr yn gwneud newidiadau a allai effeithio ar eich pensiwn, dylai TUPE amddiffyn eich hawliau cyflogaeth a'r telerau ac amodau ar eich pensiwn cyfredol.
Beth yw TUPE?
Mae rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth 2006 (a adnabyddir fel TUPE) wedi'u cynllunio i amddiffyn hawliau cyflogaeth gweithwyr y mae newid busnes yn effeithio arnynt, er enghraifft pan fydd cwmnïau'n uno. Yr egwyddor gyffredinol o dan TUPE yw y bydd gan weithwyr yr un hawliau â’r cyflogwr newydd. Nid yw hyn yn gyfraith pensiynau, mae'n gyfraith cyflogaeth.
Os yw'ch cyflogwr yn cael ei gymryd drosodd neu'n uno â chwmni arall neu os yw'ch rôl yn cael ei rhoi ar gontract allanol i gyflogwr arall, a'ch bod yn parhau mewn cyflogaeth, mae'r buddion pensiwn rydych eisoes wedi'u cronni mewn cynllun pensiwn gweithle yn cael eu gwarchod. Mae gwahanol reolau yn berthnasol i drosglwyddiadau sector preifat a chyhoeddus o ran yr hyn y mae rhaid i'ch cyflogwr newydd ei ddarparu yn y dyfodol
Pryd mae rheolau TUPE yn berthnasol?
Yn y bôn, mae TUPE yn berthnasol pan fydd y busnes wedi'i drosglwyddo o un cyflogwr i'r llall. Mae tair elfen allweddol:
- mae ‘trosglwyddiad busnes perthnasol’. Mae hyn yn golygu bod busnes (neu ran ohono) wedi newid dwylo ond wedi cadw ei hunaniaeth. Trosglwyddir hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r hen gyflogwr i'r cyflogwr newydd; ac
- mae'r gweithiwr yn stopio gweithio i'r hen gyflogwr ac yn dechrau gweithio i'r cyflogwr newydd; ac
- yn syth cyn y trosglwyddiad, roedd y gweithiwr yn aelod gweithredol o'r cynllun pensiwn, neu'n gymwys i ymuno ag ef, neu byddant yn gymwys ar ôl cyfnod o amser.
Efallai y bydd TUPE hefyd yn berthnasol pan fydd ‘newid darpariaeth gwasanaeth’. Er enghraifft, mae cyflogwr yn defnyddio contractwr, mae contractwr newydd yn cymryd drosodd gweithgareddau gan gontractwr arall, neu mae cyflogwr yn cymryd gweithgareddau yn ôl yn fewnol gan gontractwr (‘cymryd gwaith i mewn’).
Pryd nad yw TUPE yn berthnasol?
Enghraifft o pan nad yw TUPE yn berthnasol fel rheol yw pan werthwyd cyfranddaliadau mewn cwmni sy'n berchen ar y busnes, gan nad yw hyn yn golygu newid yn hunaniaeth y cyflogwr.
Efallai y bydd rheoliadau TUPE yn amddiffyn y buddion pensiwn rydych eisoes wedi'u cronni os yw'ch cyflogwr yn cael ei gymryd drosodd ac yn uno â chwmni arall
Sut mae hawliau pensiwn yn cael eu heffeithio yn y sector breifat?
Nid oes rhaid i'r cwmni newydd sy'n eich cyflogi gynnig yr un telerau ac amodau ar gyfer eu cynllun pensiwn newydd. Mae'r hyn y mae rhaid iddynt ei gynnig yn dibynnu ar drefniadau pensiwn eich hen gyflogwr:
Hen gyflogwr | Mae rhaid i’r cyflogwr newydd gynnig |
---|---|
Cynllun gweithle cyfraniadau wedi’u diffinio (yn cynnwys llawer o gynlluniau ymrestru awtomatig) |
Cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio lle mae cyfraniadau cyflogwr yn cyfateb i gyfraniadau gweithwyr hyd at 6% o dâl sylfaenol, neu gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio (naill ai pensiwn gweithle neu randdeiliad) lle mae cyfraniadau cyflogwr yn cyfateb i lefel y cyfraniadau a wnaeth yr hen gyflogwr, neu Gynllun buddion wedi’u diffinio sy'n darparu lefel benodol o bensiwn. |
Hawl cytundebol i gyfraniadau cyflogwr i bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid |
Cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio lle mae cyfraniadau cyflogwr yn cyfateb i lefel y cyfraniadau roedd rhaid i'r hen gyflogwr eu talu. |
Mae cyflogwr yn gwneud cyfraniadau at bensiwn personol neu gyfranddeiliaid, ond nid yw hyn yn amod i gytundeb cyflogaeth yr unigolyn. |
Unrhyw gyfraniad wedi’i ddiffinio neu gynllun budd-dal wedi’i ddiffinio sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer cofrestru awtomatig. |
Cynllun buddion wedi’u diffinio |
Cynllun buddion wedi’u diffinio sy'n darparu lefel benodol o bensiwn, neu Gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio (naill ai cynllun gweithle neu randdeiliaid) lle mae cyfraniadau cyflogwr yn cyfateb i gyfraniadau gweithwyr hyd at 6% o'r tâl sylfaenol. |
Ymhob achos, mae rhaid i'r cyflogwr newydd sicrhau, pa bynnag gynllun pensiwn y mae'n ei gynnig, ei fod yn cwrdd â'r safonau ymrestru awtomatig.
Sut mae hawliau pensiwn yn cael eu heffeithio yn y sector gyhoeddus?
Mae'r hyn y mae rhaid i'ch cyflogwr newydd ei gynnig yn dibynnu a ydych yn gweithio i adrannau llywodraeth ganolog/o dan reolaeth gweinidogion y llywodraeth neu a ydych yn gweithio i awdurdod lleol neu ryw wasanaeth cyhoeddus lleol arall.
Hen gyflogwr | Mae rhaid i’r cyflogwr newydd gynnig |
---|---|
Llywodraeth ganolog, GIG neu asiantaeth arall yn ddarostyngedig i delerau ‘Bargen Deg’/‘Bargen Deg Newydd’. |
Cynllun sector cyhoeddus (mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cynnig cynllun galwedigaethol y gellir ei gymharu'n fras â chynllun y sector cyhoeddus yn ei le). |
Awdurdodau lleol a rhai cyrff lleol eraill. |
Naill ai cynllun sector cyhoeddus neu gynllun galwedigaethol y gellir ei gymharu'n fras â chynllun y sector cyhoeddus . |
Beth os wyf eisoes yn derbyn fy mhensiwn?
Os ydych eisoes yn derbyn pensiwn o'ch cynllun, ni ddylai cymryd drosodd, uno neu gontract allanol effeithio ar y rhain.
Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?
Gallwch ddarganfod mwy am TUPE ar GOV.UK neu gysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Llinell gymorth ACAS yw 0300 123 1100 ac mae ar gael dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 6pm.