Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pa wybodaeth mae rhaid i'ch cynllun pensiwn ei darparu?

Mae rhywfaint o wybodaeth mae rhaid i'ch cynllun neu'ch darparwr ei rhoi i chi os gofynnwch amdani – a chyda rhai cynlluniau mae rhaid gofyn yn arbennig am bethau sylfaenol fel datganiadau. Efallai y bydd cost am rai o'r eitemau hyn – felly gwiriwch yn gyntaf beth yw'r taliadau a phryd maent yn berthnasol. 

Datganiadau pensiwn blynyddol – cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio

Os yw'ch pensiwn yn gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, mae rhaid i'ch darparwr anfon datganiad atoch yn dweud wrthych am eich cronfa unwaith y flwyddyn. 

Bydd hyn fel arfer yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • gwerth eich pot pensiwn ar ddechrau a diwedd blwyddyn y datganiad
  • cyfraniadau a dalwyd i'ch pot, gennych chi a'ch cyflogwr, yn ystod y flwyddyn
  • manylion unrhyw ryddhad treth a delir gan Gyllid a Thollau EM
  • swm unrhyw golled neu enillion buddsoddiad yn y flwyddyn ddatganiad
  • gwerth unrhyw arian rydych wedi'i drosglwyddo i mewn neu allan i bensiwn arall
  • manylion unrhyw symiau a ddidynnwyd o gyfraniadau, er enghraifft, ar gyfer ffioedd
  • amcangyfrif o'r incwm y gallech ei gael ar y dyddiad ymddeol a ddewiswyd gennych.

Datganiadau pensiwn blynyddol - cynlluniau buddion wedi’u diffinio

Os ydych mewn pensiwn cyflog terfynol neu bensiwn cyfartalog gyrfa nid oes rhaid i'ch darparwr anfon datganiad blynyddol atoch yn awtomatig, er bod llawer o gynlluniau yn gwneud hynny.

Yn lle, mae gennych hawl i ofyn am ddatganiad, ac mae rhaid i chi ei dderbyn cyn pen dau fis ar ôl eich cais. 

Mae rhaid i'r datganiad gynnwys manylion am:

  • dyddiad y dechreuodd eich gwasanaeth pensiynadwy
  • y gyfradd y mae'ch buddion yn cronni
  • eich cyflog pensiynadwy
  • unrhyw ddidyniadau
  • beth a gewch
  • os ydych yn gweithio hyd at eich dyddiad ymddeol arferol, a
  • os gwnaethoch adael y cynllun o fewn mis o ddyddiad y datganiad. 

Efallai bydd tâl os byddwch yn gofyn am gopi newydd o ddatganiad blynyddol rydych wedi'i gamosod. 

Dyfynbrisiau trosglwyddo

Os ydych eisiau gwybod faint sydd ar gael yn eich pensiwn i symud i ddarparwr arall, bydd angen i chi ofyn am werth trosglwyddo.

Yn gyffredinol, mae gennych hawl i ofyn am werth trosglwyddo – a throsglwyddo, os oes gennych fwy na 12 mis i fynd – i oedran ymddeol arferol yn y cynllun.

Os oes gennych gynllun buddion wedi’u diffinio, fel rheol gallwch ofyn am un gwerth trosglwyddo am ddim bob 12 mis. Fel rheol, gwarantir y gwerth am dri mis. Gall ymddiriedolwyr y cynllun ganiatáu ceisiadau amlach os dymunant ond gallant godi tâl arnoch am hyn. 

Gwybodaeth am y cynllun

Mae gennych hawl i ofyn am wybodaeth am sut mae'ch pensiwn yn cael ei redeg. Mae hyn yn cynnwys:

  • rheolau ymddiriedolaeth a gweithrediadau’r cynllun - os yw'r cynllun yn cael ei redeg gan ymddiriedolwyr
  • yr amodau polisi - os yw'ch cynllun yn bensiwn personol neu'n bensiwn rhanddeiliaid. 

Os yw'ch pensiwn yn gynllun pensiwn gweithle, sy'n cael ei redeg gan ymddiriedolwyr, mae gennych hawl i ofyn am gopi o adroddiad blynyddol y cynllun .

Mae rhaid i'r adroddiad gynnwys :

  • gwybodaeth gyffredinol – er enghraifft, sut i gysylltu os oes gennych ymholiad am y cynllun neu'ch buddion
  • gwybodaeth ariannol – gan gynnwys copi o gyfrifon archwiliedig y cynllun a datganiad yr archwilydd
  • gwybodaeth fuddsoddi - fel rheol, adroddiad buddsoddi yw hwn sy'n rhoi manylion am fuddsoddiadau'r cynllun a'u perfformiad.

Gallai'r adroddiad blynyddol hefyd gynnwys y datganiad o egwyddorion buddsoddi. Os na fydd, gallwch ofyn am gopi.

Mae'n nodi'r canllawiau y mae'r ymddiriedolwyr yn eu dilyn wrth ddewis buddsoddiadau ar gyfer y cynllun. 

Os yw'ch pensiwn yn gynllun buddion wedi’u diffinio, mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r adroddiad actiwaraidd.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am allu'r cynllun i gyflawni'r buddion sydd wedi'u cronni yn y cynllun. Mae'r wybodaeth hon hefyd wedi'i chynnwys yn y datganiad cyllido cryno. Mae rhaid i'ch darparwr cynllun anfon hwn atoch yn awtomatig bob blwyddyn. 

Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn am gopi o :

  • amserlen y cyfraniadau (cynlluniau buddion wedi’u diffinio), neu
  • yr amserlen dalu (cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio).

Mae'r rhain yn cofnodi'r cyfraniadau mae rhaid i'r cyflogwr eu talu i'r cynllun. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.