Cawsant eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 1956, a bellach mae tua 21 miliwn o bobl yn y DU yn berchen ar Fondiau Premiwm. Darganfyddwch yma beth yw Bondiau Premiwm, pa bryd gallant fod yn fuddsoddiad da a sut i’w prynu a’u gwerthu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Bondiau Premiwm
- Sut mae Bondiau Premiwm yn gweithio?
- A yw Bondiau Premiwm yn iawn i chi?
- A yw Bondiau Premiwm yn werth da am arian?
- Sut i brynu Bondiau Premiwm
- Sut i werthu Bondiau Premiwm
- Faint o amser mae’n ei gymryd i godi arian o’ch Bondiau Premiwm?
- Treth
- A yw Bondiau Premiwm yn ddiogel a sicr?
- Camau nesaf
Beth yw Bondiau Premiwm
Mae Bondiau Premiwm yn gynnyrch buddsoddi a gyflwynir gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I). Yn wahanol i fuddsoddiadau eraill, lle enillwch log neu incwm difidend rheolaidd, cewch eich rhoi mewn raffl fisol i ennill gwobr lle gallwch ennill rhwng £25 ac £1 miliwn yn ddi-dreth.
Sut mae Bondiau Premiwm yn gweithio?
- Bydd angen i chi fuddsoddi o leiaf £25.
- Gallwch barhau i brynu bondiau hyd nes y byddwch yn cyrraedd yr uchafswm o £50,000.
- Byddwch yn cael rhif bond unigryw ar gyfer pob £1 a gaiff ei buddsoddi. Felly os byddwch yn cynilo £100, byddwch yn cael 100 o rifau bond (a bydd gan bob un ohonynt gyfle i ennill gwobr).
- Ar ôl i chi ddal eich bondiau am fis llawn, fe’u cynhwysir mewn raffl fawr fisol ac mae gennych gyfle i ennill gwobr arian parod.
- Gallwch eu prynu i chi eich hun neu ar ran eich plentyn, ŵyr neu wyres neu or-ŵyr neu or-wyres. Mae rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf i brynu Bondiau Premiwm i chi’ch hun.
A yw Bondiau Premiwm yn iawn i chi?
Gallai Bondiau Premiwm fod yn addas ar eich cyfer os:
- ydych am gael cyfle i ennill gwobrau arian parod di-dreth mewn raffl fawr fisol
- ydych yn rhiant, gwarcheidwad, taid neu nain, hendaid neu hen-nain sydd am brynu ar gyfer plentyn dan 16 oed
- oes gennych £25 neu fwy i’w fuddsoddi.
Efallai ni fydd Bondiau Premiwm yn addas ar eich cyfer os hoffech gael:
- incwm rheolaidd
- elw a warantir
- os ydych yn pryderu am effaith chwyddiant ar eich cynilion.
A yw Bondiau Premiwm yn werth da am arian?
Mae’r tebygolrwydd y byddwch yn ennill y brif wobr yn isel iawn – bydd y rhan fwyaf o bobl yn ennill gwobrau llai neu ddim byd o gwbl.
- Mae’r holl arian y byddwch yn ei fuddsoddi mewn Bondiau Premiwm yn ddiogel.
- Mae tebygolrwydd isel iawn y gallech ennill elw di-dreth uchel iawn.
- Ni fyddwch yn ennill incwm rheolaidd ar eich bondiau. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n prynu Bondiau Premiwm yn ennill swm bach yn unig fel canran o’r arian maent yn ei gyfrannu.
- Oni fyddwch yn ennill un o’r gwobrau uwch, nid yw’r elw a wnewch yn debygol o guro chwyddiant. Hynny yw, fwy na thebyg ni fydd eich arian yn tyfu’n ddigon cyflym i gadw i fyny â chostau cynyddol a chael yr un pŵer prynu dros gyfnod o amser oherwydd caiff ei leihau gan chwyddiant.
Darganfyddwch fwy am sut mae chwyddiant yn effeithio ar eich cynilion yn ein canllaw Chwyddiant – beth sydd angen i gynilwyr ei wybod
Sut i brynu Bondiau Premiwm
Gallwch brynu Bondiau Premiwm yn uniongyrchol gan NS&I ar-lein gan gofrestru ar eu gwefan neu trwy ffonio 0808 500 7007
Sut i werthu Bondiau Premiwm
Gallwch godi arian o’ch Bondiau Premiwm ar unrhyw adeg heb gosb.
Os ydych wedi cofrestru â chyfrif ar-lein, gallwch ei wneud ar unwaith.
Gallwch hefyd gyfnewid arian ar-lein heb orfod creu cyfrif. Llenwch a chyflwynwch y ffurflen ar-lein hon ar wefan NS&I
Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen Codi arian o'ch Bondiau Premiwm NS&I neu ofyn amdani dros y ffôn ar 0808 500 7007 yna ei llenwi a'i phostio i'r cyfeiriad sydd wedi'i argraffu ar y ffurflen
Faint o amser mae’n ei gymryd i godi arian o’ch Bondiau Premiwm?
Yn ôl yr NS&I, mae’n cymryd hyd at wyth diwrnod gwaith i’r arian gyrraedd eich cyfrif, oni bai eich bod wedi dewis codi’r arian parod ar ôl y raffl nesaf.
Gallwch wirio a ydych wedi ennill gwobr yn y raffl fisol Bondiau Premiwm ar wefan NS&I
Treth
Ni chodir Treth Incwm na Threth Enillion Cyfalaf y DU ar unrhyw wobrau y byddwch yn eu hennill ar Fond Premiwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
A yw Bondiau Premiwm yn ddiogel a sicr?
Mae eich arian yn ddiogel, gan fod Bondiau Premiwm wedi’u cefnogi’n llawn gan y llywodraeth.
Ar gyfer banciau a chymdeithasau adeiladu eraill y DU, mae eich cynilion fel arfer yn cael eu gwarchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) Darganfyddwch fwy ar wefan FSCS