Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud y gorau o’ch cynilion, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod y gwahaniaeth rhwng ISA Gydol Oes ac ISA Cymorth i Brynu. Mae cyfrifon ISA Gydol Oes ar gael nawr, ond caewyd yr ISA Cymorth i Brynu i ymgeiswyr newydd ar 30 Tachwedd 2019. Yn y canllaw hwn, rydym yn ystyried manteision ac anfanteision cynilo i ISA Gydol Oes ac ISA Cymorth i Brynu.
Beth sydd yn y canllaw hyn
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ISA Cymorth i Brynu ac ISA Gydol Oes?
- Pa un ddylwn ei ddefnyddio?
- A allaf drosglwyddo fy ISA Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes i ddarparwr arall?
- A allaf drosglwyddo fy ISA Arian Parod neu ISA arall i mewn i fy ISA Cymorth i Brynu o hyd?
- Pryd byddaf yn cael fy monws?
- Beth os wyf dros 40?
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ISA Cymorth i Brynu ac ISA Gydol Oes?
ISA Cymorth i Brynu
Ni allwch agor ISA Cymorth i Brynu newydd mwyach. Os oes gennych un eisoes gallwch arbed yn eich ISA Cymorth i Brynu tan 30 Tachwedd 2029, â 12 mis arall i hawlio’ch bonws tan 1 Rhagfyr 2030
- Ar gyfer prynwyr tro cyntaf sydd dros 16 oed ac sy’n gobeithio cynilo i dalu blaendal ar eu cartref cyntaf.
- Mae’r llywodraeth yn ychwanegu 25% at eich cynilion, hyd at fonws o uchafswm o £3,000.
- Gallwch ei ddefnyddio i brynu cartref sy’n werth hyd at £250,000, neu hyd at £450,000 yn Llundain.
- Telir y bonws wrth brynu cartref ac mae’r cyllid ar gael wrth i chi gwblhau.
- Os byddwch yn tynnu’r arian allan am unrhyw reswm ar wahân i brynu eich cartref cyntaf, nid oes unrhyw daliadau i’r llywodraeth ond ni thelir unrhyw fonws ychwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Cymorth i Brynu
ISA Gydol Oes
Mae’r math yma o ISA wedi bod ar gael ers 6 Ebrill 2017.
Ffeithiau cyflym:
- Wedi ei gynllunio i helpu pobl rhwng 18 a 40 oed i gynilo am eu cartref cyntaf, neu ymddeoliad.
- Bydd y llywodraeth yn rhoi bonws gwerth hyd at 25% o’r hyn fyddwch yn ei dalu i mewn, hyd at uchafswm o £4,000 y flwyddyn.
- Gallwch ei ddefnyddio i brynu cartref sy’n werth hyd at £450,000 unrhyw le yn y wlad.
- Telir y bonws yn fisol ac mae’r cyllid ar gael wrth i chi gyfnewid.
- Cesglir tâl o 25% gan y llywodraeth os byddwch yn tynnu arian allan cyn eich bod yn 60 am unrhyw reswm ar wahân i brynu eich cartref cyntaf. Mae hyn wedi ei leihau dros dro i 20%, yn weithredol o 6 Mawrth 2020 tan 5 Ebrill 2021, yn rhan o fesurau coronafeirws y llywodraeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Gydol Oes
Pa un ddylwn ei ddefnyddio?
Os oes gennych gyfrif ISA Cymorth i Brynu ac ISA Gydol Oes, gallwch ddal i gynilo i mewn i’r ddau gyfrif. Dylech nodi mai dim ond un bonws fyddwch yn gallu ei hawlio tuag at brynu eich cartref cyntaf.
Mae’r ddau wedi’u cynllunio i’ch helpu i brynu’ch cartref cyntaf a rhoi bonws o 25% i chi ar eich cynilion yn amodol ar derfynau penodol.
Y prif wahaniaeth yw y gallwch arbed £4,000 y flwyddyn mewn ISA Oes, o’i gymharu â £2,400 (£3,400 ym mlwyddyn un) mewn ISA Cymorth i Brynu. Gallai hyn olygu bonws llawer mwy a chyflym o’i gymharu ag ISA Cymorth i Brynu. Er bod yr ISA Cymorth i Brynu yn darparu dull mwy hyblyg o gynilo.
Un o’r prif wahaniaethau yw sut a phryd y telir y bonws.
Telir bonws yr ISA Gydol Oes yn fisol er mwyn ei ddefnyddio tuag at unrhyw ofynion blaendal ar gyfnewid contractau (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).
Fodd bynnag, mae angen hawlio’r bonws ar yr ISA Cymorth i Brynu rhwng cyfnewid a chwblhau. Mae hyn yn golygu bydd unrhyw fonws yn cyfrannu tuag at eich blaendal cyffredinol neu forgais ac felly ni ellir ei ddefnyddio wrth gyfnewid.
Yn yr Alban, bydd eich cyfreithiwr gweithredol yn gwneud cais am y Bonws Cymorth i Brynu gan y Llywodraeth ar eich rhan pan fyddwch wedi dod o hyd i eiddo.
Prif anfanteision ISA Gydol Oes yw y bydd rhaid i chi aros o leiaf blwyddyn i hawlio eich bonws.
Os byddwch yn tynnu’r arian allan cyn eich bod yn 60 oed ar gyfer unrhyw beth ar wahân i brynu eich eiddo cyntaf, bydd rhaid i chi dalu cosb i’r llywodraeth o 25% - wedi ei leihau i 20% tan 5 Ebrill 2020 - a allai olygu y byddwch yn derbyn llai yn ôl nag a roddwyd i mewn gennych.
A allaf drosglwyddo fy ISA Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes i ddarparwr arall?
Gallwch, gallwch drosglwyddo'ch ISA Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes o'ch darparwr cyfredol. Bydd angen i chi wirio bod y banc, y gymdeithas adeiladu neu'r undeb credyd rydych am symud iddo yn cynnig yr ISA cyfatebol ac yn derbyn trosglwyddiadau i mewn. Gallwch hefyd drosglwyddo'r arian yn eich ISA Cymorth i Brynu i ISA Gydol Oes - er bod hyn yn cyfrif tuag at yr uchafswm o £4,000 y gellir ei roi yn ystod un flwyddyn dreth.
A allaf drosglwyddo fy ISA Arian Parod neu ISA arall i mewn i fy ISA Cymorth i Brynu o hyd?
Byddwch, byddwch yn dal i allu trosglwyddo eich cyllid i’ch ISA Cymorth i Brynu o fath arall o ISA yn amodol ar derfynau taliadau misol eich ISA Cymorth i Brynu ac amodau a thelerau eich ISA arall. Gallai trosglwyddo o ISA Gydol Oes arwain at gosb gan y llywodraeth ar eich cynilion.
Pryd byddaf yn cael fy monws?
Bydd yr ISA Cymorth i Brynu yn talu bonws uchafswm o £400 ar ôl dim ond tri mis wedi i chi gronni cyfanswm o £1,600 - bydd rhaid i chi roi’r uchafswm o £1,200 i mewn ym mis un, a £200 ym mis dau a thri.
Beth os wyf dros 40?
Os ydych dros 40 neu’n iau na 18 oed, nid ydych yn gymwys i gael ISA Oes, hyd yn oed os ydych yn brynwr am y tro cyntaf.