Trwy ddechrau cynilo’n gynnar, gallwch roi eich plant ar ben ffordd a sicrhau dyfodol ariannol cadarn iddynt. Mae ISAs i Bobl Iau yn eich galluogi i gynilo a buddsoddi ar ran plentyn o dan 18 oed. A heb unrhyw dreth ar yr enillion, gall yr arian y byddwch yn ei gynilo tyfu hyd yn oed yn gynt.
Pwy all gael ISA i Bobl Iau ?
Gallwch agor ISA i Bobl Iau ar gyfer eich plentyn os ydynt:
- dan 18 oed
- yn byw yn y DU.
Os ganed plentyn rhwng 2002 a 2011, mae’n bosib bod ganddo ef neu hi Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF). Gellir trosgwlyddo’r rhain i ISA i Bobl Iau.
Os na chaiff y CTF ei drosglwyddo, pan fydd plentyn yn cyrraedd 18 oed, bydd yn dal i allu cyrchu'r arian. Neu gallant ddewis ei drosglwyddo i ISA arian parod arferol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Sut y mae ISAs i Bobl Iau yn gweithio?
- Mae rhaid i riant neu warcheidwad plentyn agor y cyfrif ISA i Bobl Iau ar ei ran.
- Mae’r arian yn y cyfrif yn eiddo i’r plentyn, ond ni all ei godi nes ei fod yn 18 oed, heblaw bod amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag, gall ddechrau rheoli ei gyfrif ei hun pan fydd yn 16 oed.
- Trothwy’r ISA Iau yw £9,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2023-24. Os caiff mwy na hyn ei roi i mewn i ISA i Bobl Iau, caiff y gweddill ei ddal mewn cyfrif cynilo mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn – ni ellir ei ddychwelyd at y rhoddwr. Gall rhieni, ffrindiau a theulu gynilo ar ran y plentyn ar yr amod bod y cyfanswm yn parhau yn llai na’r terfyn blynyddol.
- Nid oes treth yn daladwy ar log nac enillion buddsoddiad.
- Pan fydd eich plentyn yn troi’n 18 oed, mae ei gyfrif yn cael ei drosi’n awtomatig yn ISA oedolyn. Gallant hefyd ddewis codi’r arian a’i wario fel y mynnant – er enghraifft, ar wersi gyrru, addysg bellach neu hyfforddiant swydd.
Mathau o ISAs i Bobl Iau
ISAs Arian Parod i Bobl Iau
Mae ISA Arian Iau yn debyg i gyfrif cynilo banc neu gymdeithas adeiladu er bod yr arian wedi'i gloi i mewn ac na ellir ei dynnu'n ôl tan 18 oed.
Ond mae ISAs Arian Parod i Bobl Iau yn cynnig un fantais fawr – ni fydd rhaid i’ch plentyn dalu treth ar y llog y bydd yn ei ennill ar ei gynilion, ac ni fydd rhaid i chi wneud hynny chwaith.
Fel rhiant, mae cyfyngiad ar faint o'ch arian y gallwch ei roi yn ISA Iau eich plentyn cyn bod rhaid i chi dalu treth. I ddarganfod mwy, gwelwch wefan MoneySavingExpert
ISAs Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau
Gyda chyfrif ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau, gallwch roi cynilion eich plentyn i mewn i fuddsoddiadau fel cyfranddaliadau a bondiau.
Nid oes treth yn daladwy ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud drwy fasnachu cyfranddaliadau neu fondiau.
Mae buddsoddiadau yn peri mwy o risg nag arian parod ond gallent roi mwy o elw i’ch plentyn, a gall gwerth ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau ostwng yn ogystal â chynyddu.
Pa ISA i Bobl Iau sy’n addas i’ch plentyn?
Gall eich plentyn gael ISA Arian Parod i Bobl Iau, ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau neu'r ddau.
Os oes ganddynt y ddau, mae'r uchafswm y gallant ei gynilo yn dal i fod yn destun terfyn o £9,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24.
Gall rhai 16 ac 17 oed hefyd gyfrannu at ISA Arian Parod i Bobl Iau sy’n cyfateb i’r un oedolyn (nid ISA stociau a chyfranddaliadau oedolion), hyd at y cyfyngiad £20,000 yn y flwyddyn dreth 2023-24. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw arian a dalwyd i’w ISA i Bobl Iau.
Os nad ydych yn siŵr a yw ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau yn addas i’ch plentyn, gall siarad â chynghorydd ariannol annibynnol eich helpu i benderfynu.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Dewis cynghorydd ariannol
Diogel a sicr ?
Pa mor ddiogel yw ISAs Arian Parod i Bobl Iau?
Mae'r arian a roddwch i fanciau neu gymdeithasau adeiladu awdurdodedig y DU yn cael ei warchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Bydd hyd at £85,000 fesul person mewn unrhyw gwmni awdurdodedig yn ddiogel hyd yn oed os bydd y cwmni yn methu.
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig.
Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Darganfyddwch pa fanciau sy’n rhan o ba gwmniau awdurdodedig ar wefan Which?
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy manc neu gymdeithas adeiladu yn mynd yn fethdalwr
Ymunwch â'n grŵp Facebook
Ymunwch â'n grŵp Facebook Cyllidebu ac Arbed preifat i gael awgrymiadau a chefnogaeth i arbed arian gan gymuned o gynilwyr.
Pa mor ddiogel yw ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau?
Mae asedau'r gronfa fuddsoddi yn cael eu cadw'n ddiogel gan geidwad ar ran buddsoddwyr.
Os bydd cwmni buddsoddi awdurdodedig yn methu, sy'n golygu na all dalu hawliau yn ei erbyn, bydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn talu iawndal hyd at £50,000 y pen, fesul sefydliad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu
Ni allwch wneud cais am iawndal dim ond oherwydd bod gwerth eich buddsoddiad yn is na'r hyn y gwnaethoch ei dalu amdano.
Gwybodaeth y dylech ei chael
Mae ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau yn gynnyrch buddsoddi. Mae rhaid i ddarparwyr cynnyrch buddsoddi roi gwybodaeth hawdd ei deall i chi am y ‘‘ffeithiau allweddol’, gan gynnwys y canlynol:
- Beth yw’r buddsoddiad a sut mae’n gweithio
- Y risgiau gan gynnwys y risg o golli cyfalaf a risgiau gwrthbarti;
- Taliadau (y ffioedd a gaiff eu didynnu o’ch adenillion neu gyfalaf), a
- P’un a fydd gennych yr hawl i ddefnyddio gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwybodaeth allweddol a chyfnodau ailfeddwl
Trosglwyddo ISA i Bobl Iau
Gallwch drosglwyddo rhwng y ddau fath o ISA i Bobl Iau neu newid darparwr unrhyw bryd.
Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn yn ofalus fel na fyddwch yn colli statws di-dreth eich arian.
Dim ond un ISA Arian Parod i Bobl Iau ac un ISA Buddsoddi i Bobl Iau y gall plentyn ei gael ar unrhyw adeg benodol.