Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

ISAs Stociau a chyfranddaliadau

Y cyfanswm y gallwch ei gynilo i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) yn y flwyddyn dreth gyfredol yw £20,000. Gelwir hyn yn lwfans ISA. Weithiau cyfeirir at ISAs fel  ‘amlapiwr treth’, oherwydd bod yr arian sydd gennych ynddynt yn cael ei gysgodi rhag Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf. Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut mae un math o ISA - ISA Stociau a chyfrandaliadau  - yn gweithio a'r hyn sydd angen i chi ei wybod.

Pryd allai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi?

Gallai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi:

  • os ydych yn hapus i roi’ch arian mewn buddsoddiadau ond rydych am ddiogelu unrhyw elw neu log rhag treth neu i ddiogelu difidendau rhag treth gyfradd uwch a chyfradd ychwanegol.
  • os nad ydych yn edrych i gael gafael ar unwaith ar eich arian ac rydych yn barod i gadw eich arian wedi ei fuddsoddi yn ddelfrydol am ychydig flynyddoedd, er y bydd hyn yn benderfyniad personol.
  • os nad ydych wedi defnyddio cyfanswm eich lwfans ISA ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol.
  • os ydych yn cyfforddus gyda'r ffaith gall gwerth eich buddsoddiadau fynd i fyny ac i lawr ac efallai y byddwch yn cael llai yn ôl na wnaethoch ei fuddsoddi. 

 

Pa fuddsoddiadau a ddelir mewn cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau?

Mae ISA stociau a chyfranddaliadau i bob pwrpas yn ‘amlapiwr treth’ y gellir ei roi o amgylch ystod eang o wahanol gynnyrch buddsoddi. Mae unrhyw dwf buddsoddiad neu log a enillir o fewn yr ISA stociau a chyfranddaliadau yn ddi-dreth.

Gellir dal llawer o wahanol fathau o fuddsoddiad mewn ISA, gan gynnwys:

  • ymddiriedolaethau uned
  • ymddiriedolaethau buddsoddi
  • cronfeydd cyfnewid wedi’u masnachu
  • stociau a chyfranddaliadau unigol
  • bondiau corfforaethol a bondiau’r llywodraeth, a
  • Cwmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs).

Yn aml, caiff cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau eu gwerthu a’u marchnata fel cynhyrchion penodedig.

Sut mae cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau yn gweithio

Gallwch dalu cyfanswm o £20,000 y flwyddyn i mewn i ISA yn ystod y flwyddyn dreth bresennol 2023-24.

  • Gallwch rannu'ch lwfans ISA ar draws y pedwar math gwahanol o ISA: arian parod, stociau a chyfranddaliadau, cyllid arloesol neu oes. Er mai'r uchafswm y gallwch ei roi mewn ISA Oes yw £4,000 bob blwyddyn dreth.
  • Ni allwch roi arian yn yr un math o ISA yn yr un flwyddyn dreth, er enghraifft dau ISA stociau a chyfranddaliadau - bydd angen i chi aros tan y flwyddyn dreth nesaf i roi arian yn yr ail ISAs stociau a chyfranddaliadau.
  • Bydd eich lwfans ISA blynyddol yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) a chaiff unrhyw lwfans na fyddwch wedi’i ddefnyddio ei golli. Ni ellir ei gario drosodd i’r flwyddyn ganlynol.
  • Gallwch wneud buddsoddiad cyfandaliad ac/neu wneud cyfraniadau rheolaidd neu ad hoc drwy gydol y flwyddyn dreth.
  • Mae unrhyw gynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau’n rhydd rhag Treth Enillion Cyfalaf.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r incwm o'ch stociau a chyfranddaliadau ISA yn ddi-dreth.
  • Dim ond i un ISA stociau a chyfranddaliadau y gallwch gyfrannu ymhob blwyddyn dreth, ond gallwch agor ISA newydd gyda gwahanol ddarparwr bob blwyddyn os byddwch am wneud hynny. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r un darparwr ar gyfer eich ISA arian parod, os oes gennych un.
  • Mae’n werth siopa o gwmpas er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i ISA sy’n gweddu i chi. Cymharwch unrhyw ffioedd am yr amlapiwr ISA a’r ystod o fuddsoddiadau y gallwch eu rhoi ynddo.

Rheolau ISA newydd ar drosglwyddo ISA Priod a fu Farw

Mae rheolau newydd a gyflwynwyd yn Ebrill 2015 yn gadael i’r partner sy’n goroesi ei briod neu bartner sifil a fu farw etiefeddu eu ISA. Byddwch yn cael lwfans ISA ychwanegol sy’n cyfateb i werth cynilion ISA yr un fu farw ar adeg y farwolaeth

Trosglwyddo ISAs

  • Os byddwch am newid darparwr eich ISA presennol neu ddarparwr ISA blaenorol i ISA gwahanol ond gan ddiogelu buddiannau treth ar gyfer y dyfodol ar yr un pryd, bydd yn rhaid i chi drefnu i drosglwyddo yn hytrach na gwerthu ac ail-fuddsoddi. Os ydych dim ond yn cau un ISA ac agor un arall yn hytrach na throsglwyddo rhwng y ddau, byddwch chi'n colli'r manteision treth.
  • Rhaid i bob darparwr ISA ganiatáu i chi drosglwyddo eich cyfrif allan, ond nid oes rhaid iddynt ganiatáu i chi drosglwyddo cyfrif i mewn.
  • Gallwch drosglwyddo arian o ISA arian parod i ISA stociau a chyfranddaliadau ac i'r gwrthwyneb (gellir trosglwyddo arian yn ISA stociau a chyfranddaliadau i arian parod).
  • Os byddwch yn trosglwyddo ISA rydych wedi cyfrannu ato yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol i ddarparwr newydd, rhaid i chi drosglwyddo’r balans cyfan. Ar gyfer ISAs o flynyddoedd blaenorol, gallwch ddewis faint i’w drosglwyddo.

Mynediad at eich arian

  • Gallwch werthu’r asedau a ddelir yn eich ISA ar unrhyw adeg ac nid oes isafswm cyfnod y bydd angen i chi ei ddal.
  • Os byddwch yn codi arian o’ch ISA, boed hynny’n rhan ohono neu’r swm cyfan, dim ond os bydd lwfansau ISA ar gael heb eu defnyddio gennych y byddwch yn gallu ail-fuddsoddi’r arian hwn mewn ISA arall.

Taliadau ar stociau a chyfranddaliadau ISA

  • Mae'n bwysig gwirio'r taliadau ar y buddsoddiad sylfaenol gan y gall y rhain amrywio llawer a gallant effeithio ar faint o arian a gewch yn ôl.
  • Trwy sicrhau'r manylion, gallwch hefyd osgoi codi gormod arnoch chi

Pa mor ddiogel yw'ch cynilion?

Os bydd rheolwr cronfa yn mynd yn fethdalwr a bod arian yn ddyledus i chi – a bod y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn berthnasol i’r rheolwr – gallwch hawlio iawndal o hyd at £85,000 fesul person, fesul sefydliad. 

Ond ni chewch unrhyw iawndal dim ond oherwydd bod gwerth eich buddsoddiadau yn gostwng.

Sut i brynu ISAs stociau a chyfranddaliadau

Gallwch brynu ISA:

  • yn uniongyrchol gan ddarparwr ISA
  • yn uniongyrchol drwy reolwr cronfa
  • yn uniongyrchol gan froceriaid disgownt, lwyfan cronfa ar-lein cronfeydd neu fanc
  • gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gynllunydd ariannol
  • drwy gyfrif cyfranddaliadau neu frocer stoc ar-lein.

Gall taliadau amrywio ar gyfer yr un cynnyrch gan ddibynnu ar ble y byddwch yn ei brynu, felly edrychwch i weld ble sydd rataf.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o fuddsoddiadau fyddai’n addas ar gyfer eich nodau a’ch anghenion personol, siaradwch ag ymgynghorydd ariannol rheoledigl 

Treth ac ISAs stociau a chyfranddaliadau

Mae buddsoddiadau sy’n talu llog (e.e. bondiau llywodraeth a chorfforaethol), neu incwm o rent (fel rhai cronfeydd eiddo) yn darparu incwm 100% didreth os cânt eu talu o fewn ISA ac felly maent yn cynnig buddion treth i bawb.

Mae pob unigolyn yn gymwys am Lwfans Difidend o £1,000 yn ddi-dreth. Mae’r lwfans difidend yn ychwanegol at eich lwfans personol, sef y swm y gallwch ennill ym mhob blwyddyn dreth cyn bod rhaid i chi ddechrau talu treth. O 6 Ebrill 2024, mae’n cael ei haneru eto, gan ostwng i £500.

Mae difidendau a dderbynnir gan gronfeydd pensiwn neu a dderbynnir ar gyfranddaliadau o fewn ISA yn ddi-dreth ac nid ydynt yn effeithio ar eich lwfans difidend.

Yn ogystal, ni chodir Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud wrth werthu buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau.

Ni ellir defnyddio unrhyw golledion a wnaed ar eich buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau i wrthbwyso enillion cyfalaf ar eich buddsoddiadau eraill

Os bydd pethau’n mynd o chwith

Os na fyddwch yn fodlon â’r gwasanaeth a gewch neu os byddwch am wneud cwyn, dechreuwch drwy gysylltu â’ch darparwr neu’ch ymgynghorydd

Caiff y rhan fwyaf o reolwyr cronfeydd a rheolwyr ISA eu rheoleiddio gan yr  Awdurdod Ymddygiad Ariannol  Mae hyn yn golygu, os na chaiff eich cwyn ei datrys yn foddhaol, gallwch wedyn fynd â hi i'r Gwasnaeth Ombwdsmon Ariannol

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.