Gall ffurflen dreth Hunanasesiad godi ofn ar unrhyw un. Ond os ydych wedi paratoi, yn drefnus ac yn deall yr hyn a ofynnir i chi, yna bydd y cyfan yn llawer symlach na’r disgwyl. Sicrhewch eich bod chi'n deall eich un chi fel y gallwch chi ei gyflwyno’n gywir ac osgoi talu unrhyw gosbau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A oes angen i mi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?
- Sut i gofrestru ar gyfer ffurflen dreth Hunanasesiad?
- Beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer Hunanasesiad?
- Pa wybodaeth fyddaf ei hangen i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?
- Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
- Sut i gwblhau’r tudalennau atodol o ffurflen dreth Hunanasesiad?
- Talu’ch bil treth Hunanasesiad
- Gwasanaeth Amser i Dalu
- Beth os na allwch fforddio talu eich bil treth?
A oes angen i mi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?
Oes:
- os oedd eich incwm hunangyflogaeth yn uwch na £1,000 (cyn ystyried unrhywbeth gallwch hawlio rhyddhad treth arno)
- os oes eich incwm yn sgil gosod eiddo yn uwch na £2,500 (bydd angen i chi gysylltu â HMRC os oedd y swm rhwng £1,000 a £2,500)
- os enilloch fwy na £2,500 mewn incwm heb ei drethu, er enghraifft mewn arian cildwrn neu gomisiwn.
- os oedd eich incwm neu fuddsoddiadau yn £10,000 neu fwy cyn treth.
- os oes angen i chi dalu Treth ar Enillion Cyfalaf ar elw yn sgil gwerthu pethau fel cyfranddaliadau neu ail gartref.
- os ydych yn gyfarwyddwr ar gwmni (oni bai ei fod yn sefydliad di-elw, fel elusen)
- os oedd eich incwm chi, neu eich partner, dros £50,000 y flwyddyn a’ch bod yn hawlio Budd-dal Plant
- os oes gennych chi incwm o dramor sydd angen i chi dalu treth arno, neu eich bod yn byw dramor ond gydag incwm yn y DU.
- os oedd eich incwm trethadwy dros £100,000
- os gwnaethoch ennill dros £50,270 yn y flwyddyn dreth 2023/24 a gwneud cyfraniadau pensiwn efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau asesiad i hawlio’r rhyddhad treth ychwanegol sy’n ddyledus i chi yn ôl
- os ydych yn ymddiriedolwr o ymddiriedolaeth neu gynllun pensiwn cofrestredig
- os oedd Pensiwn y Wladwriaeth yn fwy na’ch lwfans personol a dyma oedd eich unig ffynhonnell incwm
- os cawsoch P800 gan HMRC yn nodi na lwyddoch i dalu digon o dreth y llynedd.
Gallwch gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad hefyd os dymunwch wneud Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) Dosbarth 2. Bydd hyn yn eich helpu i fod yn gymwys am fudd-daliadau fel Pensiwn y Wladwriaeth. O fis Ebrill 2024, os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 mwyach pan fyddwch yn cwblhau eich trethi.
Nid oes angen i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad os ydych yn gyflogai sydd wedi talu drwy’r system Pay As You Earn (PAYE). Mae hyn oni bai eich bod wedi ennill dros £100,000.
Gallwch ddarganfod os oes angen i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad yn GOV.UK
Sut i gofrestru ar gyfer ffurflen dreth Hunanasesiad?
Os nad ydych erioed wedi cyflwyno ffurflen dreth o’r blaen, yn gyntaf bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Mae gwahanol ffyrdd i chi gofrestru os ydych yn hunangyflogedig, ddim yn hunangyflogedig ond angen datgan incwm, neu os ydych mewn partneriaeth.
Darganfyddwch fwy, chofrestrwch ar gyfer hunanasesiad yn GOV.UK(Opens in a new window)
Wedi i chi gofrestru, anfonir eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) atoch.
Os dymunwch gyflwyno eich ffurflen Hunanasesiad ar-lein, yna bydd angen i chi sefydlu cyfrif Porth y Llywodraeth. I wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr sy’n cynnwys eich UTR.
Wedi i chi sefydlu’r cyfrif fe gewch god drwy’r post i’w weithredu. Yna byddwch angen cwblhau’r gwaith o sefydlu’ch cyfrif Porth.
Os ydych chi wedi cyflwyno ffurflenni treth Hunanasesiad o’r blaen, byddwch angen eich hen UTR i gofrestru a sefydlu’r cyfrif.
Y peth gorau i’w wneud yw sicrhau y gallwch gael mynediad i’ch cyfrif Porth cyn i chi geisio cyflwyno’ch Hunanasesiad. Mae hyn yn arbed amser i chi os na fyddwch yn gallu mewngofnodi am unrhyw reswm.
Beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer Hunanasesiad?
Rydych yn cyflwyno’ch ffurflenni treth yn unol â blynyddoedd treth, nid calendr, ac fe wnewch hynny am amser sydd wedi mynd heibio.
Er enghraifft, ar gyfer y flwyddyn dreth 2022/23 - sy’n rhedeg o 6 Ebrill 2022 i 5 Ebill 2023 - byddech:
- angen cofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref 2023 os nad ydych erioed wedi cyflwyno ffurflen dreth o’r blaen
- angen cyflwyno’ch ffurflen dreth erbyn hanner nos 31 Hydref 2023 os dewiswch ddychwelyd ffurflen dreth ar bapur
- angen cyflwyno’ch ffurflen dreth erbyn hanner nos 31 Ionawr 2024 os dewiswch ddychwelyd ffurflen dreth ar-lein
- yn talu’r dreth sy’n ddyledus gennych erbyn hanner nos 31 Ionawr 2024.
Os na lwyddwch chi i gyflwyno erbyn y dyddiadau cau hyn, gallech wynebu ffi gosb.
Pa wybodaeth fyddaf ei hangen i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?
Os nad ydych erioed o’r blaen wedi cwblhau ffurflen dreth hunanasesiad, gall y cyfan godi ofn arnoch. Fodd bynnag, wedi i chi ddod i ddeall y broses, mae’n gymharol hawdd - cyn belled â bod yr holl wybodaeth rydych ei hangen wrth law.
Cyn i chi gychwyn, gwnewch yn siŵr bod y rhain gennych:
- eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) deg-digid
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich incwm heb ei drethu o’r flwyddyn dreth, gan gynnwys incwm o waith hunangyflogedig, difidendau a llog ar gyfranddaliadau
- cofnodion o unrhyw dreuliau’n gysylltiedig â hunangyflogaeth
- unrhyw gyfraniadau i elusen neu bensiynau a allai fod yn gymwys am ostyngiad treth
- P60 neu gofnodion eraill sy’n dangos faint o incwm gawsoch chi rydych eisoes wedi talu treth arno.
Mae’n syniad da hefyd i ddarllen y taflenni cymorth perthnasol gan HMRC, yn enwedig ar y rhannau ychwanegol, neu’r tudalennau atodol, ynglŷn â pham yr ydych yn cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad.
Gallwch ddod o hyd i’r taflenni cymorth a’u lawrlwytho yn GOV.UK
Os ydych yn cwblhau eich ffurflen Hunanasesiad ar-lein, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar-lein ar gael drwy glicio’r ‘?’ wrth ymyl y gwahanol flychau.
Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
Mae dwy ran i ffurflen dreth Hunanasesiad. Y brif ran yw SA100, sy’n delio ag:
- incwm wedi’i drethu a heb ei drethu ar ffurf difidendau a llog
- cyfraniadau pensiwn
- rhoddion elusennol
- budd-daliadau, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Plant a Lwfans Person Dall.
Oes gennych chi incwm i’w ddatgan fel cyfarwyddwr cwmni, dinesydd tramor (neu breswylydd deuol), o hunangyflogaeth, eiddo, Treth Enillion ar Gyfalaf, neu o dramor? Yna bydd angen i chi hefyd gwblhau tudalen atodol.
Nid oes raid i chi gwblhau’r ffurflen dreth fer (SA200), oni bai yr anfonwyd hon atoch gan CThEM.
Sut i gwblhau’r brif ffurflen dreth (SA100)
Cyn i ddechrau cwblhau’r SA100 neu’r tudalennau atodol, mae’n bwysig i chi ddarllen y taflenni cymorth a’r nodiadau sy’n gysylltiedig â’r adran.
Incwm
Mae’r adran hon yn benodol ar gyfer
- datgan incwm trethadwy a di-dreth o log a enillwyd o gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, a
- difidendau o gyfranddaliadau.
Pensiynau, blwydd-daliadau a budd-daliadau’r wladwriaeth
Os ydych wedi ymddeol, mae angen i chi nodi:
- swm y Pensiwn y Wladwriaeth roeddech yn gymwys i’w gael dros y flwyddyn dreth
- swm gros unrhyw lwmp swm o Bensiwn y Wladwriaeth
- swm gros unrhyw flwydd-daliadau neu lwmp swm pensiwn (ar wahan i Bensiwn y Wladwriaeth)
Os ydych yn hawlio budd-daliadau, bydd angen i chi nodi:
- y swm a gafwyd mewn Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Ceisio Gwaith
- y cyfanswm o fudd-daliadau trethadwy a gafwyd gan gynnwys Lwfans Profedigaeth, Lwfans Gofalwr a Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys:
- Lwfans Gweini
- Lwmp swm Taliad Cymorth Profedigaeth
- Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
- Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ag incwm
- Lwfans Mamolaeth, neu
- Pensiwn Gweddw Rhyfel.
Nid yw’r budd-daliadau hyn yn drethadwy.
Incwm arall y DU
Mae’r adran hon ar gyfer unrhyw incwm trethadwy arall, nad yw’n gysylltiedig ag incwm, difidendau neu ar y tudalennau atodol.
Gallwch hefyd nodi unrhyw dreuliau derbyniol sy’n gysylltiedig â’r incwm hwn ac unrhyw dreth incwm arno eisoes gennych.
Cyfraniadau pensiwn
Unrhyw daliadau i mewn i gynllun pensiwn cofrestredig, contract blwydd-dal, neu gynllun cyflogwr ble gwnaed didyniadau ar ôl treth.
Rhoddion elusennol
Cyfansymiau llawn o roddion Rhodd Cymorth a wnaed i elusennau yn ystod y flwyddyn dreth. Gallwch hefyd nodi cyfansymiau ar gyfer unrhyw gyfranddaliadau, gwarantau, tir neu adeiladau a roddwyd i elusennau.
Lwfans Person Dall
Cadarnhewch a ydych yn hawlio Lwfans Person Dall neu beidio.
Ad-daliadau benthyciad myfyriwr
Cadarnhewch a ydych chi’n ad-dalu’ch Benthyciad Myfyriwr neu beidio ac os felly a yw’ch cyflogwr yn didynnu’r arian.
Taliad Budd-dal Plant Incwm Uchel
Nid oes raid i chi gwblhau’r adran hon oni bai eich bod yn cael Budd-dal Plant ac roedd eich incwm dros £50,000.
Lwfans Priodas
Cwblhewch yr adran hon os yw eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn llai na’r Lwfans Personol ac rydych yn dymuno trosglwyddo rhan o’ch Lwfans Personol i’ch priod.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans priodas a lwfans cwpl priod
Sut i gwblhau’r tudalennau atodol o ffurflen dreth Hunanasesiad?
Oes gennych chi incwm ychwanegol i’w ddatgan o waith hunangyflogedig, eiddo, neu dreth enillion ar gyfalaf? Yna bydd angen i chi gwblhau tudalen atodol. Os ydych yn:
- hunangyflogedig, mae angen i chi gwblhau SA103
- adrodd incwm ar eiddo, cwblhewch SA105
- yn datgan enillion ar gyfalaf, cwblhewch SA108.
Yn y tudalennau hyn, bydd angen i chi adrodd ar incwm o’r ffynonellau hyn nad ydych wedi talu treth arnynt.
Cewch gyfle hefyd i ddatgan unrhyw dreuliau cymwys a ddidynnir o’ch bil treth.
Fel gweithiwr, cyfarwyddwr cwmni, i ddatgan incwm tramor, fel gwladolyn tramor neu breswylydd deuol, neu bartneriaeth fusnes gallwch lenwi ffurflen dreth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Hunangyflogedig (SA103)
Incwm
Os ydych yn ennill arian drwy hunangyflogaeth, fe ofynnir i chi nodi’ch trosiant dan yr adran incwm busnes.
Dyma gyfanswm llawn yr holl incwm a gawsoch yn ystod y flwyddyn dreth cyn tynnu’r treuliau.
Os oes gennych chi fwy nag un ffynhonnell o incwm hunangyflogedig, gallwch nodi’r swm hwn ar wahan. Ond cofiwch mai’r swydd sy’n creu incwm mwyaf i chi yw’ch prif gyflogaeth.
Grant cymorth incwm hunangyflogedig
Os cawsoch grant cymorth incwm hunangyflogedig (SEISS), bydd angen datgan hyn ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad.
Ni ddylid datgan grantiau SEISS fel incwm, ond o dan gwestiwn dewisol yn yr adran ‘Addasiadau treth eraill ar gyfer enw eich busnes masnachu’.
Dylai eich bod wedi cynnwys y tri grant cyntaf (a dalwyd cyn Ebrill 2021) ar eich ffurflen dreth 2020/21, sydd rhaid eu talu cyn 31 Ionawr 2022.
Bydd angen cynnwys y ddau grant olaf ar eich ffurflen dreth 2021/22, sydd rhaid eu talu cyn 31 Ionawr 2023.
Gwiriwch a oes angen i chi newid eich ffurflen Hunanasesu ar gyfer SEISS ar GOV.UK (Opens in a new window)
Treuliau
Awgrym da
Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn hawlio’r lwfans masnachu di-dreth o £1,000.
Mae dwy ffordd o ddatgan eich treuliau os ydych yn hunangyflogedig.
Os yw eich trosiant blynyddol yn is nag £85,000 gallwch yn syml nodi cyfanswm eich treuliau heb orfod eu rhestru’n unigol.
Os ydych yn hunangyflogedig a bod eich trosiant yn uwch nag £85,000, bydd yn rhaid i chi nodi swm unigol ar gyfer pob gwahanol fath o dreuliau, ynghyd â chyfanswm ar y diwedd.
Y gwahanol dreuliau y gallwch eu cynnwys os ydych yn hunangyflogedig yw:
- cost stoc a brynwyd i’w ailwerthu
- cost offer a ddefnyddir yn y gwaith
- cyflogau, taliadau a chostau staff eraill
- taliadau i is-gontractwyr (os ydych yn gweithio yn y diwydiant adeiladu)
- treuliau cerbydau a theithio
- costau gwaith adeiladu (gan gynnwys rhent, pŵer ac yswiriant)
- atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau a cherbydau
- costau swyddfa (gan gynnwys cyswllt â’r rhyngrwyd, ffonau a phapur ac ati)
- costau hysbysebu a lletygarwch busnes
- llog ar fenthyciadau
- costau banc, cardiau credyd ac ariannol eraill
- costau gwaith cyfrifo, cyfreithiol a phroffesiynol eraill.
Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o’ch treuliau, fel derbynebau, wrth gyflwyno’ch ffurflen dreth Hunanasesiad.
Bydd angen i chi gadw cofnodion o’ch treuliau am bum mlynedd ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn honno, rhag ofn y bydd HMRC yn gofyn i gael eu gweld.
Incwm eiddo yn y DU (SA105)
Incwm
Os ydych yn landlord, bydd gofyn i chi nodi’r incwm o eiddo a rentir mewn dwy adran wahanol.
Yn yr adran gyntaf, bydd angen i chi nodi cyfanswm yr incwm o’ch holl eiddo yn y DU a osodir fel eiddo gwyliau, wedi eu dodrefnu. Os oes gennych chi unrhyw eiddo yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a osodir fel eiddo gwyliau, wedi eu dodrefnu, nodwch gyfanswm ohonynt ar dudalen ar wahân.
Yn yr ail adran, nodwch gyfanswm y rhent a’r incwm o unrhyw eiddo arall.
Gallwch ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth drwy fanteisio ar y cynllun Rhentu Ystafell. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Rhentu Ystafell - sut mae'n gweithio a rheolau treth
Treuliau
Awgrym da
Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn hawlio’r lwfans masnachu di-dreth o £1,000.
Os gwnewch arian drwy osod eiddo gallwch hawlio treulio ar gyfer:
- trethi, yswiriant a rhent tir
- atgyweirio a chynnal a chadw eiddo
- llog ar fenthyciad a chostau ariannol eraill
ffioedd cyfreithiol, rheoli a phroffesiynol eraill.
Treth ar Enillion Cyfalaf (SA108)
Incwm
Gelwir incwm sydd angen i chi ei ddatgan er dibenion Treth ar Enillion Cyfalaf yn ‘enillion gwario’.
Bydd angen i chi gwblhau cyfanswm ‘enillion gwario’ ar wahân ar gyfer
- eiddo preswyl
- eiddo nad yw’n breswyl, a
- chyfranddaliadau a gwarantau.
Treuliau
Ar ffurflen dreth Treth ar Enillion Cyfalaf, gallwch hawlio am ‘gostau derbyniol’. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y pris a dalwyd i brynu’r ased yn y lle cyntaf
- costau unrhyw welliannau (rhaid adlewyrchu hynny yn yr ased pan gaiff ei gwerthu*)
- costau eraill wrth brynu a gwerthu’r ased - fel Treth Stamp wrth brynu eiddo.
*Ystyr hyn yw, rhaid i werth neu fudd y gwelliant fod ar gael pan werthir yr ased. Er enghraifft, ni allwch hawlio am garped newydd mewn tŷ os tynnwch y carped cyn gwerthu’r eiddo.
Mae’n bwysig cadw cofnodion da i sicrhau nad ydych yn hawlio am yr un peth ddwywaith. Y rheswm am hyn yw efallai y byddwch chi’n hawlio treuliau fel rhan o’ch ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer yr eiddo yn y blynyddoedd a fu.
Er enghraifft, os hawlioch am gynnal a chadw ar eiddo Prynu i Werthu mewn blwyddyn dreth flaenorol, ni allwch hawlio am yr un gwariant fel rhan o’ch ffurflen dreth Treth ar Enillion Cyfalaf pan ddaw hi’n amser i chi werthu’r eiddo.
Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Wedi i chi gyflwyno’ch ffurflen dreth Hunanasesiad, fe gewch wybod faint o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) os ydych yn hunangyflogedig bydd angen i chi eu talu.
Erbyn pa bryd mae angen i chi dalu?
Y dyddiad cau ar gyfer talu yw 31 Ionawr.
A allaf dalu fy mil treth mewn rhandaliadau?
Gallwch, gallwch dalu mewn rhandaliadau, ond maent yn daliadau ymlaen llaw ar eich bil treth nesaf.
Gallwch drefnu yr hyn a elwir yn gynllun talu ar gyllideb drwy eich cyfrif ar-lein a phenderfynu faint yr hoffech chi ei dalu bob wythnos neu bob mis. Gallwch hefyd ddewis rhoi’r gorau i dalu am hyd at chwe mis.
Yr unig gyfyngiad yw bod yn rhaid ichi fod wedi clirio’ch taliadau Hunanasesiad blaenorol.
Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio’r dull hwn i dalu bil treth blaenorol mewn rhandaliadau.
Darganfyddwch fwy am sut i dalu'ch bil treth Hunanasesiad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut wyf yn talu fy mil treth?
Mae amryw o ffyrdd i chi allu talu eich bil treth Hunanasesiad, ond mae’r cyfnod amser yn ddibynnol ar ba ddull a ddewiswch.
Os byddwch yn talu’n agos at y dyddiad cau, dylech ddewis un o’r opsiynau cyflymaf i sicrhau na chewch chi’ch cosbi.
Y dulliau cyflymaf i dalu yw
- bancio ar-lein neu dros y ffôn
- System Taliad Awtomatig y System Glirio (CHAPS)
- cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol
- yn bersonol yn eich banc neu gymdeithas adeiladu.
Ond gallwch drefnu trosglwyddiad banc, Debyd Uniongyrchol neu anfon siec.
Beth os methaf y dyddiad cau?
Os methwch y dyddiad cau i gofrestru, a chyflwyno eich ffurflen dreth neu dalu eich bil, fe gewch eich cosbi.
Os ydych hyd at dri mis yn hwyr yn cyflwyno’ch ffurflen neu’n talu’ch treth, ceir cosb o £100. Bydd y gosb yn uwch os byddwch yn hwyrach fyth. Os oes gennych chi esgus rhesymol, gallwch apelio.
Beth os gwnaf gamgymeriad?
Nid oes raid i chi gwblhau eich ffurflen dreth Hunanasesiad mewn un tro. Felly mae’n syniad da cychwyn arni’n gynnar a chymryd eich amser er mwyn osgoi gwneud camgymeriadau.
Cyn i chi gyflwyno’ch ffurflen yn swyddogol fe gewch gyfle i’w hadolygu a chywiro unrhyw gamgymeriadau a wnaed gennych.
Os sylweddolwch, ar ôl cyflwyno’r ffurflen, eich bod wedi gwneud camgymeriad, gallwch barhau i wneud newidiadau hyd at y dyddiad cau ffeilio y flwyddyn ganlynol. Golyga hyn, ar gyfer y ffurflen dreth a gyflwynwyd gennych erbyn 31 Ionawr 2023, gallwch wneud newidiadau hyd at 31 Ionawr 2024.
Taliad ar gyfrif
Oni bai bod eich bil treth Hunanasesiad yn llai na £1,000 neu eich bod eisoes wedi talu mwy nag 80% o’r dreth sy’n ddyledus gennych, bydd gofyn i chi wneud ‘taliadau ymlaen llaw’ tuag at eich bil treth nesaf.
Mae dwy ran i ‘daliadau ymlaen llaw’, gyda’r naill yn hanner o fil treth eich blwyddyn flaenorol, a rhaid eu talu erbyn 31 Ionawr a 31 Gorffennaf.
Oeddech chi’n gwybod?
Nid yw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Threth ar Enillion Cyfalaf yn cael eu cynnwys yn eich Taliadau Ymlaen Llaw a bydd angen eu talu yn llawn erbyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr.
Er enghraifft, os oedd eich bil treth ar gyfer 2019/20 yn £1,500, yna yn ystod y flwyddyn dreth 2020/21 byddwch yn gwneud dau daliad ymlaen llaw o £750 yr un. Pan ddaw hi’n amser i chi gyflwyno’ch ffurflen dreth 2020/21, didynnir y ddau daliad yma o’ch bil treth.
Felly os oedd eich bil treth ar gyfer 2020/21 yn £3,000, didynnwyd £1,500 (dau daliad o £750 ar gyfrif) ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf y flwyddyn honno. A bydd rhaid i chi dalu £1,500 fel taliad mantoli, ynghyd â £1,500 ychwanegol fel eich taliad cyntaf ar gyfrif ar gyfer blwyddyn dreth 2021/22.
Os yw eich bil treth yn llai, bydd CThEF yn anfon ad-daliad atoch. Os ydych yn gwybod y bydd eich bil treth yn is, gallwch gysylltu â CThEF a gofyn am ostyngiad ar eich taliadau ar gyfrif.
Darganfyddwch fwy am daliadau ymlaen llaw yn GOV.UK (Opens in a new window)
Gwasanaeth Amser i Dalu
Os oes gennych daliad sy'n ddyledus, neu'n poeni y gallech fethu taliad yn y dyfodol, ffoniwch linell gymorth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM ar 0300 200 3822.
I ddefnyddio’r gwasanaeth Amser i Dalu mae’n rhaid bod gennych fil treth Hunanasesiad rhwng £32 a £30,000
Rhaid i chi hefyd beidio â chael unrhyw ffurflenni treth heb eu talu a bod gydag unrhyw ddyledion neu daliadau eraill gyda Chyllid a Thollau EM.
Os nad ydych yn gymwys o dan y gofynion hyn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys am Amser i Dalu, ond bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM yn uniongyrchol.
Darganfyddwch fwy am y cynllun Amser i Dalu yn GOV.UK (Opens in a new window)
Os oes gennych gwestiynau am Dreth Incwm, mae manylion cyswllt Cyllid a Thollau EF yn GOV.UK (Opens in a new window)
Beth os na allwch fforddio talu eich bil treth?
Os na allwch fforddio talu eich bil treth, bydd angen i chi gysylltu â CThEM ar unwaith drwy ffonio’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Busnes ar 0300 200 3825. Mae’r llinell hon ar gyfer pawb, nid busnesau yn unig.
Gallwch hefyd gysylltu â Business Debtline os ydych yn cael trafferth Yn agor mewn ffenestr newydd
Bydd CThEM yn edrych:
- ar y swm sy’n ddyledus gennych
- eich incwm
- gwariant
- asedau
- cynilion a buddsoddiadau.
Byddant wedyn yn penderfynu a ddylid rhoi mwy o amser neu beidio i chi dalu.
Os na fyddwch yn talu’n brydlon, mae’n debygol y bydd rhaid i chi dalu llog a thaliadau cosb.
Efallai y cynigir mwy o amser i chi dalu neu gyfle i dalu mewn rhandaliadau.
Mae treth yn ddyled o flaenoriaeth, felly os na allwch chi ei thalu, neu’n cael anhawster i’w thalu, mae’n hanfodol i chi weithredu ar unwaith a ffonio’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Busnes ar 0300 200 3835.
Os na wnewch chi hynny a gwrthod talu, bydd CThEM yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn. Gall hyn gynnwys casglu’ch dyled yn uniongyrchol drwy:
- eich enillion
- eich cyfrif banc
- eich pensiwn, neu
- ailfeddiannu, neu drwy gwmni casglu dyledion.
Gallech wynebu achos llys hefyd, bod mewn perygl o gael eich gwneud yn fethdalwr neu gael eich gorfodi i gau eich busnes.