Mae'n ddefnyddiol gwybod sut mae LwfansPâr Priod a Phriodas yn gweithio. Maent fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn. Mae codiadau fel arfer yn berthnasol o ddechrau'r flwyddyn dreth (6 Ebrill).
Lwfans Priodas
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gall un ohonoch drosglwyddo hyd at £1,250 o'ch Lwfans Personol i'r llall.
Dyma 10% o'r Lwfans Personol sylfaenol o £12,570 ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24. (Lwfans Personol Sylfaenol yw swm yr incwm nad oes yn rhaid i chi dalu treth arno.)
Darganfyddwch fwy am Lwfans Personol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'r trosglwyddiad hwn yn lleihau treth partner hyd at £252 yn y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).
Weithiau cyfeirir at Lwfans Priodas fel y Lwfans Treth Priodas.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Priodas:
- os ydych yn briod, neu mewn partneriaeth sifil ac nad ydych yn cael Lwfans Pâr Priod
- os nad ydych yn talu treth incwm neu’n ennill llai na’r Lwfans Personol felly dydych chi ddim yn atebol i dreth. Bydd hyn fel arfer yn golygu incwm o lai na £12,570 am 2023-24.
- Os ydy’ch partner yn talu treth ar eu hincwm ar y gyfradd sylfaenol felly dydyn nhw ddim yn atebol am dreth ar y cyfraddau uwch neu ychwanegol. Bydd hyn fel arfer yn golygu bod gan eich partner incwm rhwng £12,571 a £50,270 cyn iddynt dderbyn y Lwfans Priodas. Os ydych yn Yr Alban, mae’n rhaid i’ch partner dalu’r gyfradd gychwynnol, sylfaenol neu ganolradd, sydd fel arfer yn golygu bod eu hincwm rhwng £12,571 a £43,662.
Mae Lwfans Priodas yn golygu y bydd y partner sy'n ennill mwy yn cael £1,260 wedi ei ychwanegu at ei Lwfans Personol sylfaenol.
O'r swm o arian a drosglwyddwyd i bartner fel rhan o'r Lwfans Priodas - rhoddir 20% fel gostyngiad yn eu bil treth. Mae hyn yn wahanol i'r Lwfans Personol - sy'n cael ei ddidynnu o incwm trethadwy cyn cyfrifo treth.
Bydd cod treth y partner sy’n cael y Lwfans Priodas fel arfer yn newid i ‘M’.
Mae hyn yn dangos eu bod yn cael Lwfans Priodas gan eu partner.
Os cyflogir y partner a drosglwyddodd ei Lwfans Personol, bydd ei god treth yn newid i ‘N’. Mae hyn yn dangos eu bod wedi dewis defnyddio'r Lwfans Priodas.
Darganfyddwch faint o dreth y byddech yn ei arbed pe baech yn gwneud cais am Lwfans Priodas eleni gyda chyfrifiannell Lwfans Priodas y llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i wneud cais am Lwfans Priodas
Gallwch ymgeisio ar-lein yn HMRC ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhifau Yswiriant Gwladol a cherdyn adnabod.
Gallwch hefyd ymgeisio ar y ffôn ar 0300 200 3300*
* Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 6pm, Efallai y bydd taliadau galw. Gweler GOV.uk am fanylion
Hawlio Lwfans Priodas am flynyddoedd blaenorol
Rhaid i chi fodloni’r meini prawf ar gyfer pob blwyddyn yr ydych chi’n ymgeisio ar eu cyfer.
Cofiwch fod y trothwy ar gyfer rhai nad ydynt yn talu treth a threthdalwyr ar y gyfradd sylfaenol yn wahanol yn ôl y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer.
Gallwch ôl-ddyddio eich hawliad am hyd at bedair blynedd.
Gallwch wneud cais ar-lein i Gyllid a Thollau EM yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Hawlio Lwfans Priodas os yw’ch partner wedi marw
Os bu farw’ch partner ar ôl 2016, a’ch bod chi’n bodloni’r meini prawf eraill ar gyfer Lwfans Priodas, fe allech chi ymgeisio am y budd.
Byddwch chi’n ymgeisio i ôl-ddyddio’ch budd i hyd at pedwar blynedd.
I wneud cais am Lwfans Priodas os yw’ch partner wedi marw trwy ffonio 0300 200 3300*
** Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 6pm. Efallai y bydd taliadau galwad Gweler GOV.uk am fanylion
Lwfans Pâr Priod
Lle mae un partner neu’r ddau ohonynt wedi’u geni cyn 6 Ebrill 1935, effallai gellir hawlio lwfans mwy hael, o’r enw Lwfans Pâr Priod.
Ar gyfer priodasau cyn 5 Rhagfyr 2005, defnyddir incwm y gŵr i gyfrifo’r Lwfans Pâr Priod. Er gellir ei drosglwyddo i’r wraig.
Ar gyfer priodas a phartneriaethau sifil ar ôl y dyddiad hwn, incwm yr un sy’n ennill y mwyaf sy’n cyfrif.
Y rhyddhad treth ar gyfer y Lwfans Pâr Priod yw 10%.
Mae gan y budd hwn derfynau uchaf ac isaf ar gyfer swm y dreth y gellir ei hawlio a faint y gellir ei ennill.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24, gallai hyn leihau eich bil treth rhwng £364 a £941.50 y flwyddyn.