Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Tâl a buddion i weithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth

Gall gweithio i asiantaeth gweithwyr dros dro fod yn ffordd dda o ennill rhywfaint o arian. Ond mae’n bwysig gwybod beth yw eich hawliau gweithiwr asiantaeth a thalu’r swm priodol o dreth. 

Eich statws cyflogaeth

Rydych yn weithiwr dros dro neu yn weithiwr asiantaeth:

  • os nad ydych yn hunangyflogedig
  • os oes gennych gytundeb ag asiantaeth cyflogaeth, ond yn gweithio o ddydd i ddydd i gyflogwr
  • os yw eich cyflogwr, nid yr asiantaeth, yn dweud wrthych beth i’w wneud

Eich hawliau fel gweithiwr dros dro neu weithiwr asiantaeth

Er nad ydych yn gyflogedig yn uniongyrchol gan y bobl rydych yn gweithio iddynt, mae gennych hawliau o hyd fel cyflogai.

Cyfrifoldeb un ai yr asiantaeth sy’n eich cyflogi neu’r cwmni cleient lle rydych wedi eich lleoli, yw hyn. 

Mae eich hawliau gweithiwr asiantaeth yn rhoi hawl i chi gael:

  • dyddiau gwyliau â thâl
  • isafswm cyflog
  • Tâl Salwch Statudol (SSP)
  • gwyliau rhiant (di-dâl), ag amodau
  • dim gwahaniaethu ar sail oed, hil, rhywioldeb, anabledd
  • defnydd o gyfleusterau’r gweithle i staff, fel ffreutur, crèche neu feithrinfa
  • ar ôl 12 wythnos – amser o’r gwaith â thâl ar gyfer gofal cynenedigol os ydych yn feichiog.
  • ar ôl 12 wythnos – yr un tâl sylfaenol ac amodau gweithio â staff parhaol os oes unrhyw un yn gwneud yr un math o waith â chi.

Talu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich cyflog

Bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol a threth os ydych yn ennill mwy na chyfanswm penodol ac rydych o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth.

  • Os ydych yn gweithio fel cyflogai i’r asiantaeth: bydd rhaid iddynt gymryd eich treth a’ch Yswiriant Gwladol allan o’ch tâl trwy’r system TWE (Talu Wrth Ennill), ynghyd ag unrhyw ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr sy’n ddyledus gennych. Mae rhaid iddynt roi slipiau cyflog i chi hefyd fydd yn dangos sut mae’r arian a gewch yn cael ei gyfrifo.
  • Os ydych yn stopio gweithio iddynt: bydd rhaid i’r asiantaeth roi ffurflen P45 i chi i’w throsglwyddo i’ch swydd nesaf. Os ydych yn gyflogedig ar ddiwedd y flwyddyn dreth, dylech gael ffurflen P60 hefyd â manylion eich cod treth a faint o dreth rydych wedi ei thalu.

Swyddi arian parod

Os yw eich cyflogwr yn talu arian parod i chi heb dynnu treth ac Yswiriant Gwladol, mae’n anghyfreithlon.

Mae rhai cyflogwyr yn gwneud hyn er mwyn lleihau eu biliau cyflog. Ond os ydych yn gweithio fel hyn ni fyddwch yn cael yr hawliau arferol, fel Lwfans Ceisio Gwaith a thâl salwch.

Gallech orfod talu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol yn ôl eich hun hefyd, gan dalu dirwyon a chael cofnod troseddol hyd yn oed.

Os ydych yn credu bod eich cyflogwr yn talu arian parod i chi i osgoi tynnu treth ac Yswiriant Gwladol, gallwch ddweud wrth CThEM yn gyfrinachol.

Cael mwy nag un swydd

Gall gwneud mwy nag un swydd ar yr un pryd fod yn ffordd dda o ennill mwy o arian, ond gall wneud eich sefyllfa dreth yn fwy cymhleth.

I osgoi talu gormod o dreth, neu beidio â thalu digon, bydd angen i chi sicrhau fod gennych y codau treth cywir a bod gan CThEM  y wybodaeth gywir am eich gwaith.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.