Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut mae Yswiriant Gwladol yn gweithio ac a ddylech fod yn ei dalu?

Bydd rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych dros 16 oed ac yn ennill neu fod gennych elw hunan-gyflogedig dros swm penodol. Mae hyn yn helpu i adeiladu'ch hawl i rai budd-daliadau, fel Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth.

Beth yw Yswiriant Gwladol?

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dreth ar enillion ac elw hunan-gyflogedig a delir gan gyflogeion, cyflogwyr, a'r hunangyflogedig. Gallant helpu i adeiladu'ch hawl i rai budd-daliadau gan ddibynnu a ydych yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig, fel Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth. Bydd rhai budd-daliadau nawdd gymdeithasol yn dibynnu ar dalu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gall sawl ffactor bennu lefel a math y cyfraniad yswiriant gwladol sy'n daladwy gan gynnwys:

  • statws cyflogaeth
  • oed
  • lefel enillion
  • statws preswylio

Pryd fyddaf yn talu Yswiriant Gwladol?

A ydych yn cael eich talu trwy system Talu Wrth Ennill (TWE)? Yna bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu o'ch cyflog yn awtomatig, felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Mae'n berthnasol i bod cyfnod talu. Gan ddibynnu faint cewch eich talu, gall fod yn wythnosol, neu gyfnod gwahanol o amser.

Mae hyn yn golygu os byddwch yn ennill fwy mewn mis, byddwch yn talu mwy o Yswiriant Gwladol. Ond ni allwch hawlio'r arian yn ôl, hyd yn oed os yw'ch tâl yn is yn ystod misoedd eraill yn y flwyddyn treth.

A ydych yn hunangyflogedig? Yna bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cyfrif yn seiliedig ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad. Fe'u telir ar yr un pryd â Threth Incwm.

Faint yw Yswiriant Gwladol?

Mae faint fyddwch chi’n ei dalu mewn Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar ba fath o Yswiriant Gwladol rydych chi’n ei dalu. O 6 Ionawr 2024, bydd y gyfradd Yswiriant Gwladol yn cael ei thorri 2%.

Mae pedair prif ddosbarth o Yswiriant Gwladol:

  • Telir Dosbarth 1 gan gyflogeion a chyflogwyr
  • Telir Dosbarth 2 os ydych yn hunangyflogedig. O fis Ebrill 2024, os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 mwyach.
  • Mae Dosbarth 3 yn gyfraniad wirfoddol
  • Telir Dosbarth 4 os ydych yn hunan-gyflogedig a bod gennych elw dros swm penodol

Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Os ydych yn gyflogai, byddwch yn dechrau talu Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn ennill mwy na £242 yr wythnos (2023/24).

Mae'r gyfradd Yswiriant Gwladol rydych yn ei thalu yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill, ac mae'n cynnwys:

  • 12% o'ch enillion wythnosol rhwng £242 a £967 (2023/24)
  • 2% o'ch enillion wythnosol sy'n uwch na £967.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £1,000 yr wythnos, rydych yn talu:

  • dim byd ar y £242 cyntaf
  • 12% (£87) ar y £725 nesaf
  • 2% (£0.67) ar y £33 nesaf.

Fel cyflogai, bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod i ben pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Os ydych yn hunan-gyflogedig, efallai y gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 yn lle. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael eu gosod ar gyfraniadau wythnosol cyfradd unffurf o £3.45 yr wythnos yn 2023-24.

Bydd rhaid i chi eu talu am bob wythnos neu wythnos rannol o hunan-gyflogaeth mewn blwyddyn dreth. Mae hyn os yw'ch elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan yn £6,725 (y Trothwy Elw Bach) neu fwy yn 2022-23 (£6,725 yn 2023-24).

Mae talu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol i bobl hunan-gyflogedig sydd ag elw islaw'r Trothwy Elw Bach. Gall talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, hyd yn oed os yw'ch elw yn is, eich helpu i adeiladu hawliau cyfrannol at fudd-daliadau.

Gall hwn fod yn faes arbenigol ond os ydych yn defnyddio cyfrifydd i wneud eich llyfrau neu helpu â'ch ffurflen dreth, byddant yn gallu rhoi rhywfaint o arweiniad i chi ar hyn.

Cyfraddau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ‘Dosbarth 3’

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3 wedi eu llunio i lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Y nod yw sicrhau Pensiwn y Wladwriaeth uwch i chi.

I gael Pensiwn y Wladwriaeth newydd llawn, bydd angen i chi gael 35 mlynedd cymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae'n daladwy i bobl sydd wedi cyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016.

Bydd unrhyw un sydd â llai na hyn yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth ostyngedig. I dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth newydd mae angen i chi gael o leiaf deng mlynedd cymwys.

Os nad oes gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso, efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 i gynyddu'ch hawl i bensiwn.

Am 2023/24, bydd cyfraniadau Dosbarth 3 yn daladwy ar gyfradd wythnosol o £17.45. Dyma'r uchafswm y gallwch ei dalu bob wythnos. Weithiau mae’n rhaid talu ar gyfradd y flwyddyn rydych yn talu ynddo yn lle cyfradd y flwyddyn rydych yn talu amdano. Mae’r cyfraniadau’n cael eu casglu gan CThEF gan alw chwarterol neu ddebyd uniongyrchol misol.

Efallai na fyddwch bob amser yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 am flwyddyn dreth.

Dyna pam ei bod yn bwysig darganfod:

  • a allwch wneud taliadau tuag at unrhyw fylchau
  • faint fydd angen i chi ei dalu
  • pa fudd (os o gwbl) y byddech yn ei gael trwy wneud taliad gwirfoddol.

Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o £11,908 neu fwy yn 2022-23 (£12,570 yn 2023-24), byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4. O fis Ebrill 2024, bydd cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn cael ei thorri 1%

Os ydych dros y trothwy hwn, byddwch yn talu 9% ar elw rhwng 11,908 a £50,270 yn 2022-23 (£12,570 a £50,270 yn 2023-24).

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.