Os ydych yn byw yn yr Alban, byddwch chi’n talu cyfradd dreth wahanol - sef ‘Cyfradd Treth Incwm yr Alban’. Mae Treth Incwm yr Alban yn berthnasol i’ch cyflogau, pensiwn a’r rhan fwyaf o incwm trethadwy arall. Byddwch yn dal i dalu’r un gyfradd treth ar incwm buddran a llog cynilion â gweddill y Deyrnas Unedig.
Sut ydw i’n gwybod a ydw i angen talu Treth Incwm yr Alban?
Mae Treth Incwm yr Alban yn daladwy gan drethdalwyr sydd â’u prif gartref yn yr Alban yn unig.
Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn pennu a ydych chi’n drethdalwr Albanaidd yn seiliedig ar ble mae eich prif fan preswylio.
Eich prif gartref fel arfer yw ble byddwch yn byw a threulio’r rhan fwyaf o’ch amser. Does dim ots os ydych chi’n berchen arno, yn ei rentu neu’n byw ynddo am ddim.
Os ydych yn byw rhywle arall yn y Deyrnas Unedig, ni fyddwch chi’n talu Treth Incwm yr Alban.
Ydych chi’n symud o ac i’r Alban yn ystod blwyddyn dreth? Yna byddwch yn drethdalwr Albanaidd os ydych yn byw yn yr Alban am o leiaf cymaint o’r flwyddyn dreth ag y byddwch yn byw mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
Darganfyddwch fwy am a ydych yn gymwys ar gyfer Treth Incwm yr Alban ar wefan GOV.UK
Sut mae Treth Incwm yr Alban yn gweithio?
Fel gweddill y DU, mae Treth Incwm yr Alban yn cael ei wneud i fyny o wahanol fandiau. Mae hyn yn golygu fel mae eich incwm yn codi mae faint o Dreth Incwm rydych yn ei dalu hefyd yn codi.
Gosodir y cyfraddau Treth Incwm a bandiau sy’n daladwy gan drethdalwyr Albanaidd gan Senedd yr Alban.
Bydd yr arian a gesglir o Dreth Incwm yr Alban yn cael ei gasglu gan CThEM a’i dalu i Lywodraeth yr Alban.
Faint o Dreth Incwm fyddaf yn ei dalu?
Incwn | Bandiau Treth Incwm 2023/24 |
---|---|
£0 i £12,570* |
Cyfradd sero: 0% |
£12,571 i £14,732 |
Cyfradd dechrau: 19% |
£14,733 i £25,688 |
Cyfradd sylfaenol: 20% |
£25,689 i £43,662 |
Cyfradd ganolradd: 21% |
£43,663 i £125,140 |
Cyfradd uwch: 42% |
Dros £125,140** |
Cyfradd uchaf: 47% |
*Yn tybio eich bod yn cael Lwfans Personol y Deyrnas Unedig o £12,570 a fydd hefyd yn berthnasol i’r Alban.
** Os ydych chi'n ennill uwchlaw'r trothwy, mae'ch Lwfans Personol yn cael ei ostwng £1 am bob £2 rydych chi'n ei ennill uwch ei ben - nes iddo gyrraedd £0.
Cofiwch, nid ydych yn talu Treth Incwm ar yr un gyfradd ar eich holl incwm. Dim ond cyfradd y Dreth Incwm rydych yn ei thalu ar eich incwm yn y braced. Er enghraifft, os ydych chi'n ennill £52,000 y flwyddyn, mae'r Dreth Incwm y byddwch chi'n ei dalu yn gweithio allan fel hyn:
Incwm | Bandiau Treth Incwm | Treth rydych chi’n ei thalu |
---|---|---|
Hyd at £12,570 |
Cyfradd sero |
Dim Treth Incwm ar y £12,570 cyntaf |
£12,571 i £14,732 |
Cyfradd cychwyn |
Treth Incwm 19% ar y £2,161 nesaf (£14,732 - £12,571 = £2,161) |
£14,733 i £25,688 |
Cyfradd sylfaenol |
Treth Incwm 20% ar y £10,955 nesaf (£25,688 - £14,733 = £10,955) |
£25,689 i £43,662 |
Cyfradd ganolradd |
Treth Incwm 21% ar y £17,973 nesaf (£43,662 - £25,689 = £17,973) |
£43,663 i £125,140 |
Cyfradd uwch |
Treth Incwm 41% ar y £8,337 nesaf (£52,000 - £43,663 = £8,337) |
Cyfrifwch eich treth incwm a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y wefan GOV.UK.
Os ydych chi’n credu y didynnwyd Treth Incwm ar gam o’ch enillion, cwblhewch y ffurflen R38 gan CThEM i’w hawlio’n ôl.
Sicrhewch y ffurflen R38 ar wefan GOV.UK
Os oes gennych gwestiynnau am Dreth Incwm, mae manylion cyswllt CThEM ar wefan GOV.UK
Treth os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn byw yn yr Alban, mae'ch Treth Incwm yr un fath â'r cyfraddau uchod - ond rydych chi'n ei thalu blwyddyn mewn ôl-ddyledion trwy Hunanasesiad. Felly mae'n rhaid cyflwyno'ch ffurflen dreth ar gyfer 2023/24 erbyn Ionawr 2025.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ac Yswiriant Cenedlaethol pan ydych yn hunangyflogedig
Beth yw fy nghod treth Albanaidd?
Fel arfer eich cod treth yw’r swm a enillwch heb dalu treth, wedi ei rannu gyda 10, gyda llythyren wedi’i hychwanegu. Bydd eich cod treth yn cychwyn gydag ‘S’ os ydych chi’n drethdalwr Albanaidd.
Er enghraifft:
Cod treth: S1257L
daw 1257 yn £12,570 wedi’i ennill cyn treth.
I sicrhau eich bod wedi cael y cod treth cywir, gwiriwch fod eich cod yn cyd-fynd â’r Lwfans Personol y dylech ei gael.
Os ydych yn credu bod eich cod treth yn anghywir, neu eich bod yn ansicr, cysylltwch â CThEM. Mae manylion cyswllt Cyllid a Thollau EM ar wefan GOV.UK
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth y mae CThEM yn gofyn amdani fel nad ydych yn talu’r cod treth anghywir ac yn talu rhy ychydig neu ormod o dreth.
I ddatrys problem dreth, cysylltwch â CThEM. Mae manylion cyswllt ar wefan GOV.UK
Neu ffoniwch HMRC ar 0300 200 3300*
* Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 8pm, dydd Sadwrn 8am i 4pm, a dydd Sul 9am i 5pm. Rhaid talu am y galwadau, darganfyddwch fwy ar GOV.UK
Yswiriant Gwladol
Bydd cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr un fath yn yr Alban â gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn helpu cronni eich hawl i fudd-daliadau penodol gan y wladwriaeth, megis Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth.