Pan ddewch yn hunangyflogedig, bydd angen i chi feddwl am ba ofynion yswiriant busnes fydd gennych. Bydd hyn yn amrywio, yn ddibynnol a ydych yn rhedeg eich busnes o’ch cartref a’r math o waith a wnewch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa fath o yswiriant busnes rwyf ei angen?
Mae sawl math o wahanol yswiriant busnes ar gael.
Bydd y math gorau o yswiriant i chi yn amrywio yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- faint o bobl a gyflogir gennych
- yr asedau sydd angen i chi eu diogelu
- y math o fusnes a redwch.
Sgroliwch i lawr i edrych ar yr hyn sydd ar gael a’r hyn gallech fod ei angen.
Rhedeg busnes o gartref
- Os ydych yn sefydlu’ch busnes o gartref, y peth gorau i’w wneud yn gyntaf yw siarad â’ch yswiriwr presennol ac esbonio’ch cynlluniau. Efallai y bydd yn gofyn am bremiwm ychwanegol ar eich yswiriant presennol. Os nad ydych yn rhoi gwybod i’ch yswiriwr ac angen hawlio, efallai y bydd eich yswiriant yn annilys ac ni chaiff eich hawliad ei dalu.
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich yswiriant cartref personol yn eich diogelu. Er y bydd naw o bob deg polisi yswiriant cartref yn diogelu offer busnes yn eich cartref - dylech wneud yn siŵr.
Fel arfer, bydd yswiriant yn ddibynnol ar ddefnydd o’r cartref i ddibenion clerigol yn unig – er enghraifft, gwaith swyddfa.
Ond ni fyddwch wedi’ch diogelu os bydd gennych unrhyw ymwelwyr yn gysylltiedeig â’ch busnes – er enghraifft, ymweliadau cleientiaid.
Mathau eraill o yswiriant busnes y gallech fod angen
Mae nifer o yswirwyr yn cynnig polisïau yswiriant busnes sy’n rhoi diogelwch ar gyfer nifer o risgiau y gallech chi a’ch busnes eu hwynebu. Fodd bynnag, mae’n syniad da chwilio i gael dyfynbrisiau, neu ystyried defnyddio brocer busnes arbenigol.
Dewch o hyd i frocer ar wefan y British Insurance Brokers’ Association
Dyma ystod o anghenion yswiriant y mae’n bosibl fydd angen i chi eu hystyried ar gyfer eich busnes.
Yswiriant modur
Os yw’ch busnes yn defnyddio cerbydau, gwnewch yn siŵr fod eich polisi yn cynnwys yswiriant ar gyfer defnydd busnes.
Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw bolisïau preifat ble mae cyflogai yn gyrru ei gerbyd ei hun mewn cysylltiad â’ch busnes.
Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch iddynt wirio â’u hyswiriwr i gadarnhau fod defnydd busnes wedi ei gynnwys.
Yswiriant indemniad proffesiynol
A ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n rhoi mathau penodol o gyngor neu wasanaethau i’ch cleientiaid? Yna dylech gael yswiriant indemniad proffesiynol.
Mae’n talu os ydych yn esgeulus neu’n gwneud camgymeriad sy’n achosi i’ch cleient ddioddef colled ariannol.
Mae’r mathau o fusnes sy’n defnyddio’r math hwn o yswiriant yn cynnwys:
- meddygon
- cyfreithwyr
- peirianwyr
- penseiri
- newyddiadurwyr
- cyfrifyddion
- ymgynghorwyr busnes
- cynghorwyr ariannol.
Dim yn siŵr a ydych angen yswiriant indemniad proffesiynol? Cysylltwch â’ch cymdeithas fasnach neu gorff proffesiynol neu frocer yswiriant am gyngor. Darganfyddwch fwy ar wefan BIBA
Diogelwch yswiriant atebolrwydd cyflogwr
Os ydych yn cyflogi pobl, mae rhaid i chi gael yswiriant i dalu iawndal i gyflogeion sy’n cael eu hanafu wrth wneud eu gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol.
Darganfyddwch fwy am y Ddeddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gofynnol) 1969 gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Yswiriant adeiladau a chynnwys
Bydd hyn yn eich diogelu rhag colledion os yw’ch eiddo a’i gynnwys wedi eu heffeithio gan dân, llifogydd, lladrad a difrod arall.
Bydd y lefel briodol o yswiriant cwsmeriaid yn ddibynnol a ydych yn berchen ar neu’n prydlesu eich eiddo yn ogystal â gwerth eich adeiladau a’u cynnwys.
Yswiriant offer
Gellir yswirio’r offer a pheiriannau a ddefnyddiwch ar gyfer eich busnes am gost eu hamnewid neu eu gwerth presennol, gan ystyried traul a defnydd.
Gallwch hefyd gael polisïau i yswirio yn erbyn methiant peiriannau ac offer TG.
Gallai fod werth meddwl am hyn ar gyfer eich offer i gyd, neu hyn yn oed dim ond yr offer allweddol na fyddech yn gallu gweithio hebddynt.
Weithiau gellir ychwanegu offer masnachwyr hefyd i gynnyrch yswiriant atebolrwydd arall. Felly mae’n werth gofyn a yw hyn yn bosibl os oes gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
Mae’n talu os bydd camgymeriad mewn unrhyw agwedd o’ch gweithgareddau busnes yn achosi anaf neu ddifrod i gwsmer neu aelod o’r cyhoedd.
Er enghraifft, dylech fod wedi’ch diogelu os yw aelod o’r cyhoedd yn baglu ac yn cael eu hanafu oherwydd dŵr ar lawr siop nad yw wedi ei farcio ag arwydd rhybudd.
Byddwch yn fwy tebygol o angen hwn os bydd pobl yn ymweld â’ch eiddo, er enghraifft os ydych yn rhedeg siop.
Ar gyfer rhai busnesau, gan gynnwys stablau merlota, mae’n ofyniad cyfreithiol.
Efallai bydd cwsmeriaid eisiau gweld prawf o yswiriant digonol cyn eu bod yn gwneud busnes â chi.
Yswiriant atebolrwydd cynnyrch
Os bydd nwyddau rydych wedi eu creu, gwerthu, neu adfer yn anafu neu’n lladd rhywun, neu’n difrodi eiddo rhywun, efallai bydd rhaid i chi dalu iawndal.
Gallech gael eich dal yn atebol am y difrod neu’r anaf a achoswyd gan ddifygion yng nghynllun neu wneuthuriad eich cynnyrch, hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn esgeulus.
Os yw eich busnes mewn sector â risg arbennig o uchel fel bwyd a diod, y diwydiant teganau neu drydanol, dylech ystyried hyn o ddifrif.
Yn aml mae yswiriant atebolrwydd cynnyrch yn cael ei gynnwys ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Yswiriant nwyddau wrth gael eu cludo
A oes gennych nwyddau neu stoc i’w hanfon o gwmpas y wlad? Yna efallai byddwch eisiau meddwl am eu diogelu rhag ofn eu bod yn cael eu colli neu eu difrodi wrth gael eu cludo.
Fel arfer mae’n diogelu ffordd neu rheilffordd ac yn aml gall ymestyn i ddyfroedd mewndirol ac arfordirol. Mae angen yswirio cludo rhyngwladol dros y môr neu’r awyr ar wahân.
Yswiriant credyd
Mae hyn yn eich diogelu yn erbyn y risg nad yw’ch cwsmeriaid yn eich talu oherwydd eu bod yn mynd yn fethdalwyr neu os nad ydynt yn talu mewn pryd.
Gallwch deilwra eich yswiriant yn ôl eich anghenion – i gynnwys eich trosiant cyfan neu ddim ond cwsmeriaid allweddol.
Gallwch hefyd ddiogelu’ch hun yn erbyn y risg o beidio cael eich talu gan gwsmeriaid tramor.
Fodd bynnag, bydd angen i chi gario rhywfaint o’r risg eich hun hefyd – felly bydd yr yswiriant yn eich diogelu ar gyfer 80% a bydd rhaid i chi dalu’r 20% sy’n weddill.
Os ydych yn allforio nwyddau gwerthfawr (£10,000 neu fwy), efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gan y llywodraeth â Pholisi Yswiriant Allforio. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Yswiriant unigolyn allweddol (a elwir weithiau’n Yswiriant dyn Allweddol)
Mae hyn yn diogelu’r busnes hyd at derfyn penodol ar gyfer unrhyw golledion yn deillio o farwolaeth sydyn neu salwch aelod allweddol o’r cwmni – yn cynnwys y perchennog neu’r rheolwr.
Mae pobl allai fod yn gymwys yn cynnwys:
- y cyfarwyddwr
- gweithiwr gwerthiant allweddol
- rheolwr prosiect hanfodol
- rywun â sgiliau neu wybodaeth benodol sy’n werthfawr i’r cwmni.
Yswiriant treuliau cyfreithiol
Mae hyn yn diogelu rhag costau amddiffyn achos cyfreithiol, fel ffioeddd cyfreithwyr a chostau llys.
Fel arfer, mae’r yswiriant hwn yn cynnwys anghydfodau cyflogaeth, diogelu eiddo, a anghydfodau contractau.
Yswiriant amhariad busnes neu parhad busnes
Bydd hyn yn eich diogelu rhag costau sy’n codi a cholli elw os byddwch yn wynebu argyfwng fel llifogydd neu dân.
Yswiriant teithio
Os oes angen i chi neu’ch gweithwyr deithio dramor i weithio, mae’n bosibl y byddwch eisiau ystyried yswiriant teithio busnes.
Os mai dim ond chi fydd yn teithio ar gyfer busnes, mae’n bosibl y byddwch eisiau gwirio â’ch polisi yswiriant teithio personol i weld os yw’n diogelu teithiau busnes.