Os byddwch yn gadael eich cynllun pensiwn cyn pen dwy flynedd ar ôl ymuno, efallai y gallwch gael ad-daliad o'ch cyfraniadau. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gynllun. Mae'n werth bod yn ymwybodol, os gwnewch hyn, nad oes gennych unrhyw gynilion pensiwn o'r amser hwn. Os ydych wedi cyfrannu mwy na'ch enillion efallai y byddwch hefyd yn gallu cael ad-daliad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pensiynau buddion wedi’u diffinio
- Pensiynau gweithle cyfraniadau wedi’u diffinio
- Pensiynau personol, rhanddeiliaid a hunan-fuddsoddedig a sefydlwyd gennych chi'ch hun
- Aberth cyflog
- A allaf gael ad-daliad os wyf wedi cyfrannu gormod?
- Faint y gellir ei ad-dalu i mi os gwnaf gyfraniadau sy'n fwy na fy enillion?
Os byddwch yn gadael eich cynllun pensiwn, ni fyddwch yn colli'r buddion rydych wedi'u cronni.
Chi sy'n perchen arnynt, ac mae gennych sawl opsiwn ar gyfer beth i'w wneud â hwy. Dylai gweinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn ddweud wrthych pa opsiynau sy'n berthnasol i chi.
Pensiynau buddion wedi’u diffinio
Os byddwch yn gadael eich cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio, sy’n cynnwys pensiynau cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa, â llai na dwy flynedd o aelodaeth, efallai y gallwch gael ad-daliad o’r cyfraniadau rydych wedi’u talu.
Trethir unrhyw gyfraniadau a ad-delir ar 20% ar yr £20,000 cyntaf.
Darganfyddwch fwy am gynlluniau buddion wedi’u diffinio yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn gweithle
Pensiynau gweithle cyfraniadau wedi’u diffinio
A oes gennych gynllun pensiwn gweithle cyfraniadau wedi’u diffinio (neu brynu arian) wedi'i sefydlu gan eich cyflogwr?
Os felly, ac rydych am ei adael cyn pen 30 diwrnod ar ôl ymuno, a elwir yn optio allan, gallwch ofyn am ad-daliad gwasanaeth byr o'ch cyfraniadau eich hun yn unig (ac nid eich cyflogwr).
Trethir cyfraniadau a ad-delir ar 20% ar y £20,000 cyntaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Os byddwch yn gadael cyflogaeth (neu'n optio allan) ar ôl mwy na 30 diwrnod, ni allwch ofyn am ad-daliad gwasanaeth byr. Yn lle, bydd y gronfa o arian rydych wedi'i gronni yn y pensiwn (gan gynnwys gwerth unrhyw gyfraniadau gan gyflogwyr) yn parhau i gael ei gadw. Gallwch naill ai adael hwn lle mae, ac os felly byddwch yn gallu dechrau cymryd arian ohono o 55 oed. Fel arall, gallwch symud y gronfa i ddarparwr newydd neu o bosib ei gyfuno â phensiwn arall sydd gennych.
Pensiynau personol, rhanddeiliaid a hunan-fuddsoddedig a sefydlwyd gennych chi'ch hun
Os sefydlwch bensiwn personol, pensiwn rhanddeiliaid neu bensiwn personol hunan-fuddsoddedig eich hun yn uniongyrchol gallwch gymryd ad-daliad o dan y cyfnod ailfeddwl os:
- ydych wedi bod yn aelod am lai na 30 diwrnod
- yr hyn a gewch yn ôl yw cyfanswm y cyfraniadau a dalwyd gennych - ag unrhyw enillion neu golled buddsoddiad, yn net o ryddhad treth incwm cyfradd sylfaenol.
Mewn rhai achosion, mae gennych hawl cytundebol i ganslo ar ôl 30 diwrnod. Bydd angen i chi wirio â'r darparwr pensiwn.
Os gofynnwch am ganslo ar ôl 30 diwrnod ac nid yw hyn yn bosibl, bydd y gronfa o arian rydych wedi'i gronni yn y pensiwn yn parhau i gael ei fuddsoddi. Gallwch naill ai adael hwn lle mae, ac os felly byddwch yn gallu dechrau cymryd arian ohono o 55 oed. Fel arall, gallwch symud y gronfa i ddarparwr newydd neu o bosib ei gyfuno â phensiwn arall sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Pensiynau personol
Pensiynau rhanddeiliaid
Pensiynau personol hunan-fuddsoddedig
Aberth cyflog
Os ydych wedi gwneud cyfraniadau gan ddefnyddio aberth cyflog, ni ellir ad-dalu'r rhain. Mae hyn oherwydd eu bod yn cael eu dosbarthu fel cyfraniadau cyflogwr yn hytrach na chyfraniadau personol. Gwiriwch â'ch cyflogwr os nad ydych yn siŵr a ydych wedi gwneud cyfraniadau gan ddefnyddio aberth cyflog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw aberth cyflog?
A allaf gael ad-daliad os wyf wedi cyfrannu gormod?
Os ydych wedi gwneud cyfraniadau personol sy'n fwy na 100% o'ch enillion perthnasol yn y DU at ddibenion Treth Incwm, efallai y gallwch gael ad-daliad - gelwir hyn yn ad-daliad o gyfandaliad cyfraniadau gormodol.
Mae cyfraniadau personol yn cynnwys cyfraniadau gennych a chyfraniadau a wnaed ar eich rhan gan rywun arall. Nid yw'n cynnwys cyfraniadau gan gyflogwr.
Os ydych yn ennill llai na £3,600 ac wedi gwneud cyfraniadau sy’n fwy na hyn i mewn i bensiwn sy'n gweithredu ei ryddhad treth ar sail rhyddhad yn y ffynhonnell, bydd gennych ond hawl i gael ad-daliad o'r cyfraniadau sy'n uwch na £3,600 (£2,880 cyn i ryddhad treth o 20% gael ei ychwanegu).
I gael mwy o wybodaeth am sut mae rhyddhad treth yn gweithio, gwelwch ein canllaw Rhyddhad treth a phensiynau
Faint y gellir ei ad-dalu i mi os gwnaf gyfraniadau sy'n fwy na fy enillion?
Yr uchafswm y gellir ei ad-dalu yw swm eich cyfraniadau a wnewch sy'n fwy na'ch enillion perthnasol yn y DU at ddibenion Treth Incwm.
Enghraifft:
Gwnaeth Rita gyfraniadau o £24,000 i bensiwn personol. Ar ôl rhoi rhyddhad treth daeth hyn i £30,000. Ei henillion perthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth oedd £25,000. Roedd hyn yn golygu ei bod wedi cyfrannu mwy na'i henillion perthnasol.
Gan mai dim ond hyd at £25,000 y gall Rita dderbyn rhyddhad treth ar ei chyfraniadau, ad-dalodd y darparwr y £5,000 a oedd yn fwy na'i henillion perthnasol.
Fodd bynnag, ond £4,000 yw'r ad-daliad a wnaed i Rita, â £1,000 yn cael ei ad-dalu i Gyllid a Thollau EM gan mai hwn oedd y rhyddhad treth a hawliwyd ar y cyfraniadau a ad-dalwyd.
Nid oes treth i'w thalu wrth dderbyn ad-daliad o gyfandaliad cyfraniadau gormodol.